Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi croesawu cynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus i leihau tagfeydd ar yr M4 - ond dywed bod angen gwneud mwy i gadw’r niferoedd o bobl sy’n gweithio o bell.

Mae Sophie Howe wedi ymateb i adroddiad interim gan Gomisiynydd Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru, a sefydlwyd yr hydref diwethaf i weithio ar ddulliau amgen o leihau tagfeydd ar y draffordd o amgylch Casnewydd.

Darganfu’r adroddiad mai problem oriau brig i raddau helaeth yw tagfeydd ar yr M4 sy’n gysylltiedig yn bennaf â chymudo. Nifer bychan o ddulliau amgen credadwy o deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael i bobl ar gyfer y math o deithiau sydd angen iddynt eu gwneud.  

Dywedodd yr Arglwydd Burns, Cadeirydd Comisiwn Trafnidiaeth Gyhoeddus De Ddwyrain Cymru, “Ar y cyfan, ein barn ni yw bod ar y rhanbarth angen rhwydwaith o ddewisiadau trafnidiaeth integredig amgen nad yw’n dibynnu ar y draffordd. Ein ffocws yn awr yw penderfynu ar wasanaethau trafnidiaeth a ddylai ffurfio rhan o’r rhwydwaith trafnidiaeth hwn, yn arbennig gorsafoedd rheilffordd newydd, gwasanaethau bws dibynadwy a llwybrau beicio newydd”. 

Mae gwaith eisoes wedi ei gychwyn ar set o argymhellion terfynol seiliedig ar gasgliadau sy’n dod i’r amlwg, a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru erbyn diwedd y flwyddyn. 

Lansiwyd y comisiwn trafnidiaeth ar ôl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford wrthod cynlluniau i greu ffordd liniaru £1.6bn, 13-milltir ar gyfer yr M4 Mehefin diwethaf. 

Dywedodd y Comisiynydd yr adeg honno nad oedd y ffordd, a fyddai’n torri i mewn i Wlyptiroedd Gwent, cyfoethog mewn bioamrywiaeth, yn cydfynd â deddfwriaeth Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Roedd y prosiect nid yn unig yn methu alinio â thargedau lleihau carbon Cymru, meddai, yr oedd hefyd yn mynd yn erbyn nodau llesiant y Ddeddf o gynorthwyo cydnerthedd ecosystemau a Chymru iachach. Nid oedd ychwaith yn talu sylw i dueddiadau’r dyfodol megis cynnydd mewn gweithio o bell – rhywbeth sydd wedi cyflymu fel canlyniad i COVID-19 ac sy’n fwy tebygol yn ôl yr ymchwil o ddod y normal newydd gyda’r potensial i leihau tagfeydd ar ein ffyrdd. 

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, ei fod am adeiladu’r draffordd 13 milltir o amgylch Casnewydd, er gwaethaf y ffaith mai Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am y mater hwn. 

Ymatebodd Ms Howe drwy ddweud bod ar Gymru angen pwerau benthyg i ddefnyddio’r arian ar adferiad gwyrdd, gan roi blaenoriaeth i dai, swyddi a seilwaith. 

Dylai’r arian meddai gael ei fuddsoddi mewn prosiectau, yn cynnwys gwella ansawdd tai presennol, ehangu a gwella rhwydweithiau bws a rheilffordd a diwydiannau arloesol Cymru, yn cynnwys cerbydau trydan ac ailgylchu.

Dywedodd: “Nid oedd ar Gymru angen traffordd gwerth £.1.6bn flwyddyn yn ôl, ac nid oes arni ei hangen yn awr.

“Mae arnom angen swyddi, diwydiannau a seilwaith i sicrhau adferiad yn dilyn y pandemig, ac i amddiffyn ein hunain yn erbyn ansicrwydd argyfwng arall o du’r argyfwng hinsawdd a natur.” 

Mae’r agymhellion interim oddi wrth y Comisiwn yn arwydd o gam arall tuag at leihau dibyniaeth Cymru ar geir gan symud tuag at ffurfiau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, sy’n well i’r amgylchedd ac iechyd pobl.

Dyweddodd Ms Howe, yn ei rôl fel un sy’n gwarchod cenedlaethau’r dyfodol rhag gweithredoedd gwleidyddol heddiw, bod gan Gymru gyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i ailosod ei heconomi.  

Meddai: “Mae pawb yng Nghymru’n haeddu iechyd cyfartal sy’n dod o aer glân ac ymrwymaid i economi gwyrddach. 

 “Mae angen i Lywodraeth Cymru gael pwerau benthyg llawn i gyflawni’r newid hwn i economi gwyrdd. Gyda’r buddsoddiad hwnnw gallem arwain y DU, a symud o economi sydd wedi ei adeiladu ar ‘ddefnyddio’ i un sy’n diogelu swyddi ac sy’n gwarchod y blaned i’n plant.”

Mae sefydliadau o’r CBI (Cydffederasiwn Diwydiant Prydain) i’r Cenhedloedd Unedig, y Siambr Fasnach Ryngwladol (ICC) a’r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol (IEA), ynghyd ag economegwyr ac academyddion, wedi galw ar y Llywodraeth i fuddsoddi mewn adferiad gwyrdd, â ganddo botensial sylweddol i greu swyddi ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Comisiynydd wedi galw am Incwm Sylfaenol Cyffredinol ac wythnos waith pedwar diwrnod i leihau ein hôl troed carbon a chadw pobl yn well, ers i’w Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth.

Hwn yw’r darn mwyaf o waith ers i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ddod i rym yn 2015 ac mae Ms Howe yn gofyn i Lywodraeth Cymru ei defnyddio i drwytho ymateb i’r argyfwng sy’n gwarchod cymdeithas yn yr hirdymor.

Darganfu’r adroddiad nad oedd Cymru’n gweithredu’n ddigon cyflym i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac anogodd y Comisiynydd wneuthurwyr polisi i sicrhau bod gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn cael ei ddwysau, nid ei arafu, mewn ymateb i’r argyfwng. 

Yn y papur sy’n amlinellu’r pum dull o ailosod yr economi, mae Ms Howe yn gofyn i weinidogion ddangos dewrder gwleidyddol yn y cynlluniau adfer, gyda ffocws ar ansawdd bywyd yn fwy nag ar Gynnyrch Domestig Gros.

Ymholiadau’r cyfryngau at: claire.rees@futuregenerations.wales / rebecca.brown@futuregenerations.wales