Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i lansio treial wythnos waith fyrrach.

Dywedodd Sophie Howe, yn ei rôl fel amddiffynnydd buddiannau cenedlaethau’r dyfodol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y gallai sector cyhoeddus Cymru arwain y ffordd gyda threial arloesol, wrth i bobl ail-werthuso blaenoriaethau eu bywyd yn dilyn y pandemig. 

Dengys adroddiad newydd gan y Comisiynydd a’r felin drafod, Autonomy, awydd mawr i leihau oriau gwaith yng Nghymru, gyda’r potensial o greu 38,000 o swyddi yng Nghymru. 

Darganfu:  

  • Y byddai 76% o’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi rhannu gwaith fel y gall pawb gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. 
  • Byddai 62% o’r cyhoedd yng Nghymru’n ddelfrydol yn dewis gweithio am bedwar diwrnod yr wythnos neu lai. 
  • Byddai 57% o’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi llywodraeth Cymru i gynnal cynllun peilot i symud tuag at wythnos waith pedwar diwrnod.  

Mae’r adroddiad newydd, Dyfodol Addas i Gymru: wythnos waith fyrrach i bawb, yn argymell treialu llai o oriau gwaith mewn rhannau o’r sector cyhoeddus, annog a chefnogi cwmnïau yn y sector preifat i symud tuag at lai o oriau a chydweithio gydag undebau llafur a’u  grymuso, fel y gallant negodi llai o oriau ar draws amrywiol weithleoedd. 

Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: 

“Mae’n amlwg bod pobl ledled Cymru, yn dilyn y pandemig, yn ail-werthuso eu blaenoriaethau mewn bywyd ac yn edrych am gydbwysedd iachach rhwng bywyd a gwaith. 

“Rhai o’r ffactorau sy’n gwneud wythnos waith fyrrach yn fwy apelgar yw galwadau cynyddol am ofalu am anwyliaid oherwydd y boblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd mewn problemau iechyd meddwl, sy’n cael eu dwysáu gan oriau hir yn y gweithle.  

“Gall wythnos waith fyrrach arwain at fwy o gynhyrchiant a fydd o fudd enfawr i gyflogwyr sydd eisiau sicrhau gweithlu hapusach ac iachach. Nid yw’r wythnos waith wedi newid ers dros 100 mlynedd, ac ymddengys mai dyma’r cyfle perffaith i Lywodraeth Cymru ymrwymo i dreial arloesol ac adeiladu tystiolaeth a fydd yn arwain at fwy o newid ledled Cymru.” 

Dywedodd Will Stronge, cyd-gyfarwyddwr Autonomy: 

“Mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu y byddai wythnos waith fyrrach heb golli cyflog yn ddelfrydol i weithwyr a chyflogwyr fel ei gilydd yng Nghymru. 

 “Mae gwledydd ar draws y byd, yn cynnwys yr Alban ac Iwerddon, eisoes wedi lansio treialon pedwar diwrnod a dylai Llywodraeth Cymru radical fod yn arwain y ffordd ar hyn hefyd.  

“Byddai symud tuag at wythnos waith pedwar diwrnod yn hybu cynhyrchiant a llesiant gweithwyr, ac yn creu degau o filoedd o swyddi newydd yn sector cyhoeddus Cymru. Mae’r manteision posibl yn rhy niferus i’w hanwybyddu.” 

 

DIWEDD 

 

Ein stori: Salon trin gwallt Slunks 

“Diolch i wythnos pedwar diwrnod, rwy’n teimlo’n well, mae’r staff yn teimlo’n well – rydyn ni i gyd yn gweithio’n well. 

“Mae’r pandemig wedi rhoi cyfle i ni newid y ffordd rydyn ni’n trefnu cymdeithas ar gyfer pobl ifanc yn y dyfodol – gadewch i ni fanteisio ar hyn.” 

 

Aelodau staff salon gwallt Slunks yng Nghaerdydd lle maen nhw wedi bod yn gweithio wythnos pedwar diwrnod ers dechrau'r pandemig

Mae staff salon trin gwallt Slunks yng Nghaerdydd wedi bod yn gweithio wythnos pedwar diwrnod heb ostyngiad mewn cyflog, ers cychwyn y pandemig – ac mae cynhyrchiant, llesiant a throsiant wedi gwella, meddai ei gydberchennog. 

Mae Joel McCauley’n credu’n angerddol bod wythnos waith normal o 38 awr yn cael effaith andwyol ar ein hiechyd meddwl, ac yn cefnogi treial a fyddai, meddai, yn gweld Cymru’n arwain y trawsnewid i ‘ffordd iachach o weithio’.   

Gadawodd Joel yr ysgol pan oedd yn 12 mlwydd oed ac mae wedi gweithio mewn salonau trin gwallt am y rhan fwyaf o’i fywyd fel oedolyn, lle gwnaeth ddioddef lefelau mawr o stres a chydbwysedd ‘afiach’ rhwng bywyd a gwaith mewn diwydiant lle mae gofid yn ‘rhemp’. 

“Mae Covid-19 wedi bod yn hynod o ingol i ddiwydiannau fel rhai trin gwallt, ond mae wedi amlygu rhai o’r materion sydd bod amser wedi bodoli – gallwch fod mewn cylch parhaol, gwaith, bwyd, cysgu” meddai Joel, 38, sy’n byw yng Nghasnewydd. 

 “Nid yw pobl bob amser yn sylweddoli ond gall gweithio ym maes trin gwallt for yn hynod o luddedig. Rwyf wedi gweithio mewn salonau lle cawsom ein gweithio fel cŵn. 

“Rwyf wedi gweld pobl ifanc yn y diwydiant yn troi at gyffuriau ac alcohol oherwydd eu bod wedi blino’n lân ac nid oes amser ganddyn nhw i wneud newidiadau i’w bywydau. 

“Wythnosau chwe diwrnod, cleientiaid un ar ôl y llall, symud o swydd i swydd oherwydd nad oes ganddyn nhw’r amser i feddwl na chynllunio beth i wneud nesaf. Mae gorbryder yn rhemp yn y diwydiant ac rwyf i wedi dioddef o bryder ac iselder y gellir ei briodoli’n bennaf i’r nifer o oriau yr oeddwn yn gweithio. Roeddwn i wedi ymlâdd. 

Pan agorodd Joel ei salon ei hunan yn 2011, roedd yn awyddus i wneud pethau’n wahanol a chreu cynllun hirdymor i symud tuag at wythnos waith fyrrach, a chafodd hyn ei gyflymu gan y pandemig. 

O Fawrth 2020, gwnaeth pob un o aelodau’r staff oedd yn llawn amser newid i wythnos pedwar diwrnod heb ostyngiad mewn cyflog. Mae aelodau rhan amser y tîm wedi cael cynnydd mewn cyflog ac nid oes neb wedi cael gostyngiad mewn cyflog, a’r unig aelodau o’r tîm nad ydynt yn gweithio am bedwar diwrnod yw’r prentisiaid, a fydd yn cael cynnig y fantais hon ar ôl iddyn nhw ennill eu cymwysterau. 

 “Mae’r salon yn hapusach” medd Joel. 

“Yn syml iawn mae hon yn ffordd well ac iachach o weithio. Rwy’n credu o waelod fy nghalon nad ydyn ni i fod i weithio’n llawn amser – faint o bobl ydych chi’n eu hadnabod sy’n gorweithio’n barhaus ac yn teimlo’n anhapus ynghylch y peth? 

“Pan fydd gennych fwy o amser, fe allwch chi feddwl am fywyd mewn ffordd wahanol. Yn y gwaith, rydych yn debygol o gael mwy o egni a llai o ddiwrnodau anghynhyrchiol. Tu allan i’r gwaith, gallwch fod yn well person, bod yn well rhiant, gwell aelod o’r gymuned. 

“Nid yw cymdeithas yn gweithio. Mae’r system bresennol wedi chwalu ac mae’n seiliedig ar  gyfalafiaeth hen ffasiwn. 

Dywed Joel bod gweithleoedd eraill sy’n araf i newid yn gwneud iddo deimlo’n rhwystredig, ac mae’n annog eraill i ymuno â mudiad er mwyn gweithwyr cenedlaethau’r dyfodol. 

Dywedodd: “Diolch i wythnos pedwar diwrnod, rwy’n teimlo’n well, mae staff yn teimlo’n well. Rydyn ni’n gwneud mwy o arian yn ystod cyfnodau mwy prysur, mae cwsmeriaid yn hapus iawn oherwydd eu bod yn gwybod ein bod yn gwerthfawrogi ein staff.  

“Mae’r pandemig wedi rhoi cyfle i ni wneud pethau’n wahanol – i newid y ffordd yr ydym yn trin pobl, yn arbennig pobl ifanc, a’r modd yr ydyn ni’n trefnu cymdeithas ar gyfer pobl y dyfodol – gadewch i ni fanteisio ar hyn.” 

Chelsea Thompson, Rheolwr Salon Slunks sy'n dweud ers dechrau'r wythnos pedwar diwrnod mae staff wedi dweud eu bod yn hapusach

Mae Chelsea Thompson, rheolydd salon 28, Tonyrefail, yn cytuno 

 “Rwy’n byw siwrnai 45 munud mewn car i ffwrdd o’r gwaith, felly rwy’n cymudo llai a phan fyddaf yn y gwaith, rwy’n bendant yn canolbwyntio’n well. 

“Ers i ni ddechrau’r wythnos pedwar diwrnod, mae pawb yn dweud eu bod nhw’n hapusach. Mae pobl yn teimlo’u bod yn cael cyfle i orffwys yn dda, ac wedi paratoi’n well yn feddyliol. 

“Mae’r diwrnod ychwanegol yna i mi. Rwy’n mynd am droeon hir, gwrando ar bodlediad, gweld ffrindiau nad ydynt yn rhydd yn ystod y penwythnosau. 

“Mae’n drist bod cymdeithas wedi cyrraedd y pwynt lle mae pobl yn teimlo’u bod nhw’n gweithio i fyw. 

“Mae amser yn werthfawr – dwi wir yn gobeithio y bydd gweithleoedd eraill yn dilyn ac y gallwn i gyd ddechrau arwain bywydau mwy cytbwys.” 

Dywedodd Bradley Ashton, steilydd graddedig o Gaerdydd sydd wedi gweithio yno am fwy na dwy flynedd: “Mae cael y diwrnod ychwanegol i ffwrdd yn fy helpu i aros yn frwdfrydig yn  fy mywyd personol a’m ffitrwydd, sydd wir yn helpu fy nghyflwr meddwl. 

Rwy’n teimlo’n fwy brwdfrydig yn y gwaith ac rwy’n mwynhau’r gwaith lawer mwy. Dydw i ddim mor flinedig ac o dan straen, sy’n gwneud i mi deimlo’n well ac rwy’n teimlo’n bositif iawn yn y gwaith, ac mae hynny’n gwneud i mi fod eisiau gwneud mwy. 

“Dwi ddim yn gweithio ar ddydd Sul na dydd Llun, wedyn dwi’n cael dydd Mawrth a dydd Mercher bob yn ail i ffwrdd o’r gwaith. 

“Mae wir wedi fy helpu i ddod yn berson llawer tawelach ac rwy’n llawer hapusach. 

“Dwi ddim yn dioddef cymaint o stres ag yr oeddwn yn arfer gwneud. Rwy’n hapusach yn fy hunan yn gyffredinol ac yn well yn feddyliol. 

“Rwy’n teimlo’n sicr bod fy nheulu a fy mhartner wedi gweld newid mawr yn fy hwyliau ers i mi gychwyn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos.”

Nodiadau Golygydd  

Prif Ffeithiau  

Dangosodd adroddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd a gyhoeddwyd ym mis Mai, y gall gweithio oriau hir gael effaith andwyol ar iechyd. Arweiniodd gweithio oriau hir at 745,000 o farwolaethau o strôc a chlefyd isgemig y galon yn 2016, cynnydd o 29 y cant ers 2000. 

Daeth yr astudiaeth i’r casgliad bod gweithio 55 awr neu fwy yr wythnos yn gysylltiedig ag amcangyfrif o gynnydd o 35 y cant yn y tebygrwydd o gael strôc, a chynnydd o 17 y cant yn y tebygrwydd o farw o glefyd isgemia’r galon, o’i gymharu â gweithio 35-40 awr yr wythnos. 

Byddai’n fuddiol i’n planed ni hefyd. Mae dadansoddiad gan Brifysgol Massachusetts yn dadlau pe byddem yn treulio 10% yn llai o amser yn gweithio, byddai ein hôl troed carbon yn gostwng o 14.6%, sy’n golygu y byddai diwrnod llawn i ffwrdd o’r gwaith bob wythnos yn lleihau ein hôl troed carbon o bron 30%. 

 

O gwmpas y byd?  

  • Gwlad yr Iâ (‘llwyddiant ysgubol’ treialon yn y sector cyhoeddus) – mae tua 86 y cant o’r holl boblogaeth sy’n gweithio naill ai wedi symud i weithio llai o oriau neu wedi ennill yr hawl i gwtogi ar eu horiau gwaith. 
  • Mae Seland Newydd wedi cychwyn treialon. Treialodd cwmni yn Seland Newydd wythnos waith pedwar diwrnod, lle’r oedd staff yn gweithio pedwar diwrnod wyth awr, ond yn cael eu talu am bump, ac fe gafwyd adroddiadau am gynnydd mewn cynhyrchiant, gyda 78% o weithwyr yn teimlo’u bod yn gallu rheoli cydbwysedd bywyd a gwaith yn llwyddiannus. 
  • Mae nifer o gwmnïau yng Nghanada yn cynnal treialon. 
  • Mae Sbaen a’r Alban yn bwriadu cychwyn treialon. 
  • Gwnaeth Microsoft gynnal treial wythnos pedwar diwrnod yn Japan yn 2019, gan ddod â chyfarfodydd i ben ar ôl 30 munud. Cynyddodd cynhyrchiant o 40%. 

 

Am wybodaeth bellach os gwelwch yn dda cysylltwch â Matthew Aplin ar matthew.aplin@futuregenerations.wales