Gallai Cymru fod y lleoliad ar gyfer arbrofi menter arloesol i roi incwm sylfaenol i ddinasyddion oddi wrth y llywodraeth ac wythnos waith fyrrach.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn arwain y gwaith sy’n cael ei wneud ar y modd y gellid atal diweithdra torfol pellach a thlodi’n deillio o’r pandemig drwy roi i bobl dâl diamod cyson.

Mae Sophie Howe, ‘gwarcheidwad’ buddiannau cenedlaethau’r dyfodol, wedi lansio ymchwil arloesol i ymarferoldeb newid y ffordd yr ydym yn byw a gweithio mewn dull dramatig.

Mae’r comisiynydd, â’i rôl wedi ei diogelu mewn deddf, fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â’i swyddfa, yn gweithio gyda’r felin drafod flaengar, Autonomy, ar brosiect i archwilio sut y mae yna botensial i’r ddau bolisi gyfrannu tuag at ddatrys yr argyfwng diweithdra wrth i gwmnïau dorri cannoedd a miloedd o swyddi.

Mae’r rhain yn argymhellion a welir yn ei Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, ond sydd wedi dod yn hynod arwyddocaol ers i’r pandemig ddatgelu anghydraddoldebau a natur ansicr gwaith modern.

Ac mae’r syniadau wedi ennill momentwm cynyddol mewn meddylfryd prif ffrwd, gydag incwm sylfaenol yn awr yn un o bolisïau allweddol y Democratiaid Rhyddfrydol.

Bydd Maniffesto Sophie Howe ar gyfer y Dyfodol, a fydd ynl ansio yn ystod y mis yma, yn annog pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i ymrwymo i archwilio’r argymhellion hyn yn eu maniffestos cyn etholiadau’r Senedd (Cynulliad Cymru cyn hyn) a gynhelir ym mis Mai.

Y gwaith gyda Autonomy yw’r astudiaeth ymarferoldeb gyntaf o’i bath yng Nghymru a bydd yn ceisio dod o hyd i atebion i lawer o’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml ynghylch incwm sylfaenol – yn cynnwys sut y gellid ei ariannu, a phwy fyddai yn ei dderbyn. 

Mae’n dilyn cyhoeddiad Cynllun Cefnogi Swyddi Llywodraeth y DG, a fyddai yn ôl y canghellor Rishi Sunak yn cynorthwyo ‘swyddi hyfyw’ ar ddiwedd y cyfnod ffyrlo ar Hydref 31. 

Cred Ms Howe y gallai incwm sylfaenol newid bywydau pobl ledled y DG mewn dull arwyddocaol ar adeg pan mae enillion pobl yn dod yn fwy ac yn fwy ansefydlog, a gallai wella llesiant meddyliol, rhoi mwy o ryddid i ddewis, gwella cyraeddiadau addysgol, lleihau trosedd a chyfraddau dibyniaeth, a lleddfu’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus megis gofal iechyd. 

Mae cefnogaeth wleidyddol i incwm sylfaenol yn tyfu – gydag aelodau Senedd Cymru’n rhoi cefnogaeth enfawr i gychwyn cynllun peilot mewn dadl ddiweddar a gyflwynwyd gan Jack Sargeant AS Alyn a Deeside. Mae Nicola Sturgeon Prif Weinidog yr Alban yn gefnogydd arall. 

Mae nifer o fodelau gwahanol wedi cael eu trafod yn fyd-eang, yn amrywio o’r llywodraeth yn ychwanegu at incwm isel i incwm sylfaenol cyffredinol lle telir cyfradd warantedig i bawb.

Ym mis Mai, galwodd y comisiynydd am gefnogaeth i bobl greadigol gan awgrymu y gallai’r sector ddarparu prosiect peilot ar incwm sylfaenol, ac yn gyfnewid am hyn gallent gael eu hannog i ddarparu ymatebion creadigol i’r broses o adeiladu nôl yn well.

Dywedodd y gallai dod o hyd i ddulliau newydd o gynorthwyo’r sector hwn fod yn gam cyntaf tuag at archwilio ymagwedd ehangach a mwy ‘trugarog’ tuag at gefnogi pobl a bywoliaethau yn ystod yr argyfwng Covid. 

Dywedodd: “Mae hwn yn argyfwng ac nid oes unrhyw reswm dros adael unrhyw un ar ôl mewn argyfwng.

“Byddai incwm sylfaenol yn caniatâu i ni ddarparu ar gyfer pawb, yn y presennol a’r dyfodol, gan roi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau. 

“I feirniaid y syniad, sydd yn awr yn rhan o bolisi plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, buaswn yn dweud mai ein dyled ni i ddynoliaeth yw ystyried hyn o ddifrif. 

“Mae ar Covid angen datrysiadau eofn a dewr sy’n rhoi blaenoriaeth i lesiant.”

Torri’r cysylltiad rhwng gwaith a defnyddio adnoddau – dywed y comisiynydd y byddai incwm sylfaenol ac wythnos waith fyrrach hefyd yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Gallai hefyd osod mwy o werth ar waith gofalwyr a gwirfoddolwyr, gan gadw rhai o’r pethau cadarnhaol a welwyd yn y gwaith cymunedol diflino yr ymgymerwyd ag ef dros yr ychydig fisoedd diwethaf. 

Bydd yr astudiaeth 12-wythnos yn cydweithredu gyda chyflogwyr, economegwyr ac arbenigwyr blaengar sydd i fod i adrodd ar ganfyddiadau’r astudiaeth ym mis Rhagfyr. 

Dywedodd Will Stronge, Cyd-Gyfarwyddwr Autonomy: “Mae hwn yn waith cyffrous ac yn ymagwedd flaengar – sy’n cysylltu’r modd y gallai incwm sylfaenol ac wythnos waith fyrrach, ill dau, gael eu gweithredu i gynorthwyo adferiad a bod o fudd i bobl yn yr hirdymor. 

 “Mae’r rhain yn bolisïau uchelgeisiol sy’n edrych i’r dyfodol.

“Mae gan Gymru draddodiad cryf o wleidyddiaeth flaengar ac mae lleihau oriau gwaith a chyflwyno incwm sylfaenol yn gwneud llawer o synnwyr yn y cyd-destun hwn. 

“Mae newidiadau mewn lles ac amser gwaith yn draddodiadol wedi digwydd yn ystod adegau o argyfwng allweddol yn y ganrif a aeth heibio, yn cynnwys dau ryfel byd. 

“Mae’r pandemig Covid yn dod â heriau enfawr i’r byd gwaith yr oeddem yn ei andabod gynt, ac amser a ddengys a yw llywodraethau a diwydiannau yn abl i’w goresgyn.

 “Yr hyn sy’n dod yn fwy ac yn fwy clir yw y dylai incwm sylfaenol ac wythnosau gwaith byrrach gael eu gosod ar yr agenda fel rhan o’r economi newydd a fydd yn ymddangos o’r argyfwng hwn.” 

Ymholiadau’r cyfryngau i Claire Rees ar claire.rees@futuregenerations.wales /07815 291140