Cyhoeddi enwau cynrychiolwyr cyntaf yr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol
10/12/19
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru’n falch i gyhoeddi enwau’r garfan gyntaf o bobl ifanc a fydd yn cymryd rhan yn yr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.
Bydd yr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei chyflawni mewn partneriaeth ag UpRising Cymru a Simply Do ac mae’n rhaglen beilot 10-mis â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ganolbwynt iddi. Mae 14 sefydliad ledled Cymru’n cynnwys Arup, Canolfan Mileniwm Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Celsa Steel wedi dod at ei gilydd i gynorthwyo’r rhaglen.
Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
“Mae’r rhaglen beilot newydd hon yn cynnig cyfle i arweinyddion ifanc talentog ein dyfodol i fod yn rhan o adeiladu mudiad dros newid, i greu Cymru sy’n dod â gweledigaeth ac uchelgais y Ddeddf yn fyw.
“Mae meddwl yn yr hirdymor a chreu polisïau sy’n mynd i’r afael ag anghenion cenedlaethau’r dyfodol yn greiddiol i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ledled y byd, rydyn ni’n gweld pobl ifanc yn mobileiddio a gweithredu ar faterion megis y newid yn yr hinsawdd ac mae’n bwysig bod gan ein pobl ifanc sedd wrth y bwrdd fel y gallant ddal ein harweinyddion presennol i gyfrif.
“Rwy’n awyddus i’r Academi hon roi ffocws a chyfle i arweinyddion y presennol a’r dyfodol i gydweithio a datblygu polisïau sy’n deg a chynaliadwy. Mae hon yn rhan gyffrous ac angenrheidiol o fy rôl i sbarduno’r newid diwylliannol gofynnol fel y gall ein gwasanaethau cyhoeddus, mewn gwirionedd, gynorthwyo ac arwain Cymru well.”
Mae nodweddion allweddol y rhaglen yn cynnwys:
- Mentora o Chwith fel y gall arweinwyr y presennol ddysgu oddi wrth arweinyddion y dyfodol a gwella’u sgiliau
- Gweithdai megis Tueddiadau’r Dyfodol a Dylanwadu ar Eraill
- Ysgol Haf Arweinyddiaeth
- Cyfle i gymryd rhan mewn interniaeth gyda chorff cyhoeddus yng Nghymru
Cynrychiolwyr:
Dan Tram, Arup Group
Chloe Winstone, Cymdeithas Adeiladu Principality
Emily-Rose Jenkins, Trafnidiaeth Cymru
Bethany Roberts, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Hayley Rees, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Molly Palmer, Canolfan Mileniwm Cymru
Mishan Wickremasinghe, Prifysgol De Cymru
Chris Roscoe, Cyfoeth Naturiol Cymru
Rebecca Brown, swyddfa’r Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Anna Baily, BBC Cymru Wales
Helen Atkinson, Scouts Cymru
Gabriella Niza, Celsa Steel UK
Alexandra Fitzgerald, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Joshua Beynon
Kirsty James, RNIB Cymru
Gwenfair Hughes, Cyngor Celfyddydau Cymru
Elenid Haf Roberts, Awdurdod Tân ac Achub
Ashley Bale
Emma Hattersley, Prifysgol Caerdydd
Jonathan Grimes, Costain
Kimberley Mamhende
"Rwy’n dymuno pob lwc i brentisiaid cyntaf Academi Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wrth iddynt gychwyn ar raglen amhrisiadwy o seminarau a phrofiadau. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o gefnogi'r fenter hon, fel rhan o'n cefnogaeth i ddatblygu sgiliau yng Nghymru a'n hymrwymiad i ddatblygu sgiliau staff er mwyn gallu parhau i gefnogi Senedd sy’n barod ar gyfer y dyfodol. Trwy ddilyn egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mi fydd yr arweinwyr ifanc yn barod i fynd i’r afael â'r heriau sydd o'n blaenau, ac yn gallu ysbrydoli cydweithwyr ac eraill o'u cwmpas yn yr un modd." Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr Cynulliad Cenedlaethol Cymru | Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Meddai Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, yr Athro Julie Lydon: “Mae bwriad yr Academi Arwain yn atseinio’n glir gyda gwaith Prifysgol De Cymru, i gefnogi partneriaid a rhanddeiliaid yn y gwaith o ddatblygu’u harweinwyr i’r dyfodol, eu gwneuthurwyr penderfyniadau a’u dylanwadwyr. Rydym ni’n gweithio gyda myfyrwyr a chyflogwyr i wella gwybodaeth a sgiliau angenrheidiol ar gyfer arwain a rheoli effeithiol yn yr amgylcheddau cymhleth y bydd sefydliadau’n eu hwynebu.
“Ochr yn ochr â’r garfan gyntaf, sy’n cynnwys Llywydd ein Hundeb Myfyrwyr ni, Mish Wickremasinghe, edrychwn ymlaen at weithio gyda Swyddfa’r Comisiynydd a’n cyd-aelodau sefydliadol i osod sylfeini cadarn ar gyfer yr academi arwain ac i helpu i gyfrannu at ddyfodol ffyniannus Cymru a thu hwnt.” Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, yr Athro Julie Lydon | Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, yr Athro Julie Lydon