Cydymdeimlad diffuant i deulu a ffrindiau Kyrees Sullivan a Harvey Evans.

Rwy’n croesawu’r cyfarfod Llywodraeth Cymru â chynrychiolwyr y gymuned heddiw yn Nhrelái i drafod cymorth i‘r gymuned

Ymunais yn ddiweddar â Chomisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i hyrwyddo undod rhwng cenedlaethau, ac mae hwn yn deimlad yr hoffwn ei ailadrodd yn awr.

Mae gennym nod i fod yn genedl o Gymunedau Cydlynus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid inni ymdrechu i gael atebion hirdymor sy’n dod â chymunedau at ei gilydd ar gyfer Cymru y gallwn oll fod yn falch ohoni am genedlaethau i ddod. 

Wrth symud ymlaen, byddaf yn parhau i wneud pob ymdrech i gefnogi ein cyrff cyhoeddus ledled Cymru i wneud penderfyniadau teg rhwng cenedlaethau gydag arweiniad tryloyw ac egwyddorol ar gyfer llesiant cymunedau heddiw ac yfory.