“Mae ffermwyr yng Nghymru eisoes yn talu pris uchel am ddiffyg gweithredu byd-eang ar newid hinsawdd.  

Mae’r oedi i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhwystredig ac yn golygu gohirio gweithredu ar frys ar adfer natur a chyflawni sero-net.   

Rhaid i’r cam newydd hwn o’r CFC, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, symud yn gyflym – a rhaid i fuddiannau cenedlaethau’r dyfodol fod yn ganolog. 

Mae’r gwerth cymdeithasol y mae ein ffermwyr yn ei ddarparu i’n cymunedau yn hanfodol. Mae llawer o ffermwyr eisoes yn dangos i ni sut y gall dyfodol ffermio cynaliadwy edrych. Bydd mwy o gefnogaeth yn chwarae rhan enfawr wrth fynd i’r afael â heriau y tu hwnt i giât y fferm, o iechyd ein hafonydd, i’r angen am fwy o swyddi gwyrdd a’r ansicrwydd bwyd y mae ein plant yn ei wynebu. 

Yr wythnos hon mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi datgelu bod y galw am fanciau bwyd yng Nghymru ar ei uchaf erioed.   

Mae’n rhaid i ni gysylltu’r dotiau o gefnogaeth i ffermwyr, diogelu natur, buddsoddi mewn bwyd a physgodfeydd, i sicrhau bod pobl yn gallu rhoi bwyd iach ar y bwrdd – yn y cartref, ac yn ein hysgolion a’n hysbytai. 

Dyna pam rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithredu strategaeth fwyd gydgysylltiedig, hirdymor, ar gyfer Cymru – un sy’n gwella bywydau pobl yng nghefn gwlad, ar yr arfordir ac yn ein dinasoedd.  

Os ydyn ni eisiau afonydd glân, deietau iachach, bwyd fforddiadwy, dim gwastraff ac economi carbon isel sydd o fudd i bawb, mae angen gweledigaeth ar frys ar gyfer bwyd yng Nghymru, nawr.” 

(Diwedd)