Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yn dweud bod adolygiad mawr o ddiwydiant dŵr y DU yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i achub ein dyfrffyrdd.  

Mae’r comisiwn dŵr newydd, annibynnol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, yn ceisio helpu i lunio deddfwriaeth newydd i ddiwygio’r sector dŵr ar ôl blynyddoedd o lygredd i’n hafonydd a’n moroedd. 

Dywedodd Mr Walker: “Mae pobl wedi cael llond bol ar esgusodion ac eisiau atebolrwydd – mae angen i 2025 fod y flwyddyn i ni achub ein dyfrffyrdd.   

“Mae’r adolygiad mawr, hwyr hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ailwampio’r ffordd rydyn ni’n amddiffyn iechyd hirdymor ein hafonydd, ein moroedd a’r dŵr sy’n hanfodol i fywyd.  

“Tra bod cwmnïau dŵr yn chwaraewyr allweddol, rhaid i ni beidio â thynnu ein llygad oddi ar effaith llygredd amaethyddol ar ddyfrffyrdd a’r angen i ffermwyr gael eu cefnogi i wneud y newidiadau sydd eu hangen ar gyfer system ddŵr a fydd yn cynnal pobl a natur yn y dyfodol.” 

Mae Mr Walker wedi gwneud hinsawdd a natur yn un o’i genadaethau yn ei gynllun saith mlynedd, Cymru Can, ac mae wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru a gyhoeddodd Cais am Dystiolaeth ynghylch a yw’r cyfreithiau i ddiogelu dyfrffyrdd Cymru yn addas i’w diben.  

Bydd y canfyddiadau’n cael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2025. Dywedodd Mr Walker y dylai adolygiad Rheoliad Llygredd Amaethyddol Llywodraeth Cymru, sydd i’w gwblhau ym mis Ebrill, fod yn gam mawr arall tuag at waith glanhau dŵr sylfaenol.