Datganiad: Rhaid i gymunedau yng Nghymru deimlo buddion a bod yn rhan o newidiadau, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, wrth i adroddiad ‘brys’ Cymru Net Zero 35 gael ei gyhoeddi
16/9/24
“Mae’r adroddiad hwn yn un brys ac ni fyddai unrhyw ymateb ond un brys yn deg ar bobl Cymru, sy’n haeddu gweithredu nawr i wella’u bywydau.
“Gall y newidiadau mawr sydd ar y gweill ddod â manteision mawr, er enghraifft gydag ynni adnewyddadwy, ond mae’n rhaid i ni newid y ffordd rydym yn cynnwys cymunedau, i greu gwir fuddion i bobl ledled Cymru sydd wedi bod ar ddiwedd polisïau echdynnol a niweidiol yn y gorffennol.
“Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos ei fod yn bosib symud yn gyflymach at Gymru carbon isel, gan weithio gyda chymunedau a busnesau, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus fyfyrio ar y canfyddiadau a gweithredu yn gyflym ac ar raddfa fawr.
“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i weithio’n gyflym, gan ddefnyddio ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, datblygu’r modelau ariannol cywir a pharatoi cynllun hirdymor i sicrhau ein bod yn achub ar y cyfleoedd i wella bywydau yng Nghymru, i bobl nawr ac yn y dyfodol.”