Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu a chlustnodi cyllid ar gyfer atal ym mhob cyllideb yn y dyfodol. 

Mewn llythyr at y Gweinidog Cyllid Mark Drakeford, gyda chefnogaeth Cydffederasiwn GIG Cymru a’r Sefydliad Iechyd, mae Derek Walker yn pwysleisio y dylai fod gan bob adran o Lywodraeth Cymru gyllideb atal benodedig. Mae’n dadlau bod yn rhaid i’r cyllid hwn gynyddu’n flynyddol i fynd i’r afael â heriau brys megis cyfraddau gordewdra cynyddol, poblogaeth sy’n heneiddio, a newid yn yr hinsawdd. 

Dywed y llythyr: “Nid yw’r fframweithiau cyllidol presennol yn gwahaniaethu’n glir rhwng gwariant ar wasanaethau acíwt ac atal, er gwaethaf tystiolaeth gref bod buddsoddi mewn atal yn sicrhau mwy o enillion hirdymor. Heb gamau pendant, bydd cyllid atal yn parhau i gael ei aberthu dan bwysau oherwydd galwadau cyllidebol uniongyrchol a phenderfyniadau tymor byr. Byddai hyn yn tanseilio’n uniongyrchol ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymagwedd hirdymor, a arweinir gan atal, at wasanaethau cyhoeddus, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.” Mae enghreifftiau o atal yn cynnwys rhaglenni cymorth bwydo ar y fron, a all helpu i arbed £50m y flwyddyn i’r GIG, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chymorth gofal sylfaenol, fel hunanatgyfeiriad i ffisiotherapi a all greu elw o £7.52 ar gyfer bob £1 a fuddsoddir. Neu wrth edrych ar elw cymdeithasol ar fuddsoddiad mewn atal, dangosodd Chwaraeon Cymru, am bob £1 a fuddsoddir mewn chwaraeon yng Nghymru yn 2021/22, fod gwerth £4.44 o effeithiau cymdeithasol yn cael ei gynhyrchu. 

Mae chwe deg dau y cant o oedolion yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew (adroddodd 25% eu bod yn byw gyda gordewdra), yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru. 

Mae tri deg dau y cant o oedolion yn dangos llesiant meddwl isel, dim ond 13% a nododd les meddwl uchel gyda phobl iau a’r rhai sy’n byw mewn amddifadedd â llesiant meddwl is fel y dangosir yn adroddiad diweddaraf Llesiant Cymru. 

Mae Derek Walker, wrth ymateb i gyllideb ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, yn tynnu sylw at bryderon a godwyd gan y sector iechyd a gofal. Mae’n rhybuddio bod niferoedd cynyddol o gleifion yn cyflwyno gyda chyflyrau y gellir eu hatal, tra bod targedau perfformiad tymor byr a chyllidebu blynyddol yn rhwystro buddsoddiad hirdymor mewn atal. 

Er mwyn ysgogi ataliad mewn buddsoddiad yn ogystal ag mewn mecanweithiau sicrwydd a pherfformiad, anogodd newid i feddwl yn y tymor hwy. 

Dywedoddi: “Rydym i gyd eisiau byw bywydau iach mewn economi ac amgylchedd ffyniannus. Ond mae ein hiechyd corfforol a meddyliol yn gwaethygu, ac felly hefyd ein hamgylchedd. 

“Os ydym am wynebu’r heriau sydd o’n blaenau yn y tymor byr a’r tymor hir, nid oes gennym unrhyw ddewis ond troi at ataliaeth eang ar draws holl adrannau’r llywodraeth yn ogystal â ledled Cymru ar lefel leol. 

“Heb flaenoriaethu atal ar draws holl adrannau’r llywodraeth ac ar lefel leol, byddwn yn parhau i weld dioddefaint y gellir ei atal — fel cyfraddau diabetes Math 2 yn codi — yn ogystal â chostau economaidd sylweddol. Mae atal nid yn unig yn rhoi gwell gwerth am arian i GIG Cymru, ond mae hefyd yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.” 

“Mae angen gweithredu ar frys ar ein cenedlaethau presennol a’r dyfodol i wreiddio ymagwedd hirdymor, gan sicrhau bod ein pobl a’n hamgylchedd yn gallu ffynnu nawr ac yn y dyfodol, gan wrthdroi’r tueddiadau pryderus iawn sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd.” 

Ategodd Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, bwysigrwydd cyllid atal, gan ddweud: “Mae tystiolaeth aruthrol, gan gynnwys yn adroddiad diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod buddsoddi mewn atal yn cynnig gwerth rhagorol am arian, yn cadw pobl yn iachach, ac yn lleihau anghydraddoldebau. Gan gynnwys gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol. Maent hefyd yn cynnwys penderfynyddion ehangach iechyd, megis addysg, tai, gwaith teg, trafnidiaeth, mynediad i fannau gwyrdd, hamdden, a’r celfyddydau.” 

“Mae gwella iechyd a llesiant y boblogaeth yn gofyn am ddull cydweithredol, integredig ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus ac adrannau’r llywodraeth. Os methwn â symud i ffwrdd oddi wrth wneud penderfyniadau tymor byr mewn seilos, ac yn symud tuag at ddull cynllunio cydweithredol, hirdymor, ni allwn obeithio mynd i’r afael â’r galw, gwella iechyd y genedl a darparu gwasanaethau cynaliadwy i bobl Cymru. 

“Mae arweinwyr y GIG yn barod i weithio ochr yn ochr â’r llywodraeth a phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i fynd i’r afael â’r heriau hyn gyda’i gilydd.” 

  • Daeth Mr Walker yn Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn 2023 ac yn ddiweddarach cyhoeddodd Cymru Can, strategaeth i gryfhau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Ym mis Ebrill eleni, bydd yn cyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol pum mlynedd.
  • Mae Conffederasiwn GIG Cymru yn cynrychioli’r saith bwrdd iechyd lleol, tair ymddiriedolaeth y GIG, a dau awdurdod iechyd arbennig yng Nghymru. Mae’n rhan o Gonffederasiwn y GIG ac yn gartref i Gyflogwyr GIG Cymru.