Ers i mi ddechrau fy mhrentisiaeth marchnata a hysbysebu yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru llynedd, rwyf wedi cael fy amgylchynu gan swyddfa gefnogol a arweinir gan fenywod. Rwy’n teimlo mod i wedi bod yn bur ffodus yn fy ‘swydd swyddfa’ gyntaf i fod yn rhan o dîm sydd nid yn unig yn cefnogi, ond sy’n annog grymuso a datblygu personol.

Rydw i wedi bod o blaid hawliau i ferched a grymuso menywod ers pan oeddwn i yn fy arddegau. Byddwn i’n cael dadleuon rheolaidd dros y bwrdd swper gyda fy rhieni, oedd ddim yn credu union yr un peth â fi, a byddwn i’n gwisgo fy nhop ‘ffeminydd’ â balchder wrth i mi gerdded drwy fy nhref. Roedd gen i syniadau mawr am fod yn Brif Weinidog neu i ddysgu astudiaethau rhyw neu ddod yn enwog am weithredu ar ran menywod.

Dw i ddim mor rhagweithiol na thanbaid am ‘yr achos’ ag yr oeddwn i pan oeddwn i’n 15 oed, efallai, ond mae’n wir dweud nad ydw i mor danbaid yn gyffredinol nawr ag yr oeddwn yn bymtheg oed. Dros y 6 mlynedd ddiwethaf collais ddiddordeb yn y pethau ro’n i’n eu caru, rhois y gorau i geisio gwneud gwahaniaeth ac yn fwyaf pwysig, rhois y gorau i feddwl am unrhyw syniadau am fy nyfodol.

Pan gyrhaeddais y Chweched Dosbarth, ro’n i’n gallu teimlo’r pwysau. Yr unig beth a drafodwyd fyddai beth fyddech chi’n ei astudio yn y brifysgol, ac i ba brifysgol yr hoffech chi fynd. Hyd yn oed yn y Chweched, doeddwn i ddim yn teimlo mai mynd i brifysgol oedd y dewis cywir i mi’n bersonol, ond gan nad oedd neb yn cynnig gwybodaeth am unrhyw ddewis arall, teimlais fy mod yn cael fy ngwthio i mewn i’r llwybr arferol, traddodiadol erbyn hyn, o fynd i brifysgol am dair blynedd a mynd i fyd gwaith ar ôl graddio. Ro’n i’n credu fod prentisiaethau’n bodoli ar gyfer pynciau galwedigaethol yn unig, ac nad oedden nhw’n greadigol. Fel sawl un arall, roedd gen i farn negyddol amdanynt.

Penderfynais fynd i brifysgol beth bynnag. Sylweddolais mai camgymeriad oedd hyn tua hanner ffordd drwy fy mlwyddyn gyntaf a wynebais gyfnod bach yn anodd. Pryd bynnag y bydda i’n cofio’n ôl at yr adeg hon, bydda i’n cofio bob amser am gefnogaeth fy nheulu (yn enwedig Mam oedd yn gwneud yn siŵr y byddai hi’n ymweld pryd bynnag yr oedd hi’n gwybod fod ei hangen hi yno arna i) a fy ffrindiau. Am fod gen i eu cefnogaeth nhw, fe ganiataodd hynny fi i wneud penderfyniadau anodd a theimlais fy mod wedi fy ngrymuso i gymryd gofal o fy nyfodol fy hun. Ac felly, ar ôl gorffen fy arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus, penderfynais adael.

Ar ôl dychwelyd adref, dod o hyd i swydd lawn amser ym maes manwerthu a theimlo mod i’n sownd am 9 mis, fe wnes i ymgeisio am brentisiaeth farchnata a hysbyseb drwy gyfrwng Sgil Cymru. Mewn gwirionedd, Mam berswadiodd fi i gynnig amdano oherwydd erbyn hyn ro’n i’n teimlo’n sownd yn fy swydd a doeddwn i ddim yn teimlo fod llawer o ddewisiadau eraill i rywun heb radd. Cefais syrpreis fod y math hwn o brentisiaeth yn cael ei chynnig hyd yn oed, ro’n i’n dal o dan yr argraff mai peth ‘i’r bois’ oedd yn gwneud peirianneg a phlymio oedd prentisiaethau, cyn darllen am Sgil Cymru a’r cyrsiau a gynigiwyd ganddyn nhw. Er gwaethaf fy amheuaeth ar y dechrau, fe wnes i gais am y swydd ac ro’n i’n ddigon ffodus i gael y swydd fis Awst diwethaf; rwy’n falch o ddweud mod i wedi mwynhau’n fawr ers hynny.

 

Twitter screenshot of apprentice

Rydw i wedi cael cyfleoedd ardderchog hyd yn hyn yn y gweithle, sydd nid yn unig wedi datblygu fy ngwybodaeth a sgiliau’n fawr, ond sydd hefyd wedi rhoi cyfle i mi ddod o hyd i’m lle ychydig yn well. Mae gallu dysgu’n uniongyrchol gan bobl sydd â mwy o brofiad na fi yn un o’r rhesymau y dewisais i wneud prentisiaeth. Yn hytrach na chael gradd ac yna cael eich gwthio allan i’r byd mawr brawychus, fe sylweddolais mod i eisiau profiad go iawn. Ro’n i eisiau dysgu wrth wneud y swydd yn hytrach na dim ond darllen amdani mewn llyfr.

Er nad ydw i wedi bod ymysg y bobl fwyaf hyderus bob amser, rwy’n teimlo mod i’n gwneud yn eithaf da ar hyn o bryd. Rwy’n hapus yn fy swydd, mae gen i ffrindiau newydd, rwyf wedi gorffen 5 modiwl o’r brentisiaeth, rwyf wedi darganfod sawl man newydd i gael cinio blasus, ac yn fwyaf pwysig, rydw i wedi dechrau teimlo’n gyffrous am fy nyfodol.

Ac felly ar gyfer Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, a Diwrnod Rhyngwladol y Merched, rwy’n dathlu’r llwyddiannau hyn, waeth pa mor fawr, bach neu ddibwys ydyn nhw. Fy llwyddiannau sydd wedi cael eu cefnogi a’u cynorthwyo gan ffrindiau da, cydweithwyr ysbrydoledig a theulu cariadus.