Mae Cowshed wedi ymuno â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i gynnig mwy o gyfleoedd â thâl i bobl sy’n wynebu rhwystrau rhag dechrau gyrfa mewn cyfathrebu oherwydd hil, crefydd, oedran, rhyw neu gefndir cymdeithasol.

Mae Dy Intern-daith di yn lleoliad gwaith deg wythnos â thâl sydd wedi’i gynllunio i ddatgloi potensial a datblygu gyrfaoedd y rhai sy’n cynrychioli Cymru.

Mae’r ddau gyflogwr sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd yn credu bod y lleoliad yn allweddol i adeiladu diwydiant cyfathrebu mwy deinamig a chynaliadwy i Gymru a bydd yn helpu i sicrhau bod ymgyrchoedd sy’n ymgysylltu â chymdeithas Cymru yn cael eu creu gan bobl o bob cornel o’r gymdeithas honno.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill profiad yn y diwydiant swyddi ac yn cael datblygu sgiliau fel dylunio, creu cynnwys, ysgrifennu copi, cysylltiadau cyfryngau, cyfryngau cymdeithasol, cynllunio digwyddiadau a hysbysebu cymdeithasol.

Mae’r cynllun yn agored i unigolion sy’n nodi unrhyw un o’r canlynol:

  • Person anabl (gan gynnwys salwch hirdymor a niwroamrywiaeth)
  • Person LHDTQ+
  • Person sydd wedi ailbennu rhywedd
  • Dychweliad diweddar o absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu/rhieni (o fewn 3 blynedd)
  • Person Du, Asiaidd neu Leiafrifol Ethnig
  • Ffoadur
  • Person o gefndir cymdeithasol-economaidd is
  • Ymgeisydd aeddfed (45+)

Mae Dy Intern-daith di yn ehangiad o raglen wobrwyog Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cowshed sydd wedi helpu pawb ar y lleoliad i fynd ymlaen i ddod o hyd i rolau yn niwydiant Cymru.

Dywedodd Vicki Spencer-Francis, Rheolwr Gyfarwyddwr yr asiantaeth cyfathrebu creadigol Cowshed: “Ers 2018, mae ein interniaeth BAME arloesol wedi helpu wyth o bobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig i ddatblygu’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau swyddi gwerth chweil yn y diwydiannau creadigol.

“O ystyried llwyddiant y rhaglen, y cam nesaf rhesymegol yw agor ein lleoliadau i unrhyw un o gefndir neu amgylchiadau ymylol. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb, ni waeth beth yw eu crefydd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, neu leoliad, yn gallu cymryd rhan.

“Ni allem feddwl am bartner mwy perffaith i’n helpu i symud ein rhaglen yn ei blaen na Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru – sefydliad arloesol sy’n gosod safonau newydd yr ydym i gyd yn ymdrechu i’w dilyn.” 

Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi gweledigaeth gyfreithiol-rwym ar gyfer Cymru fwy cyfartal – ac er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen gweithleoedd mwy cynhwysol ar bob sefydliad i ddenu a chadw talent o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol.

“Bydd y bartneriaeth hon gyda Cowshed yn ein helpu i ehangu’r lleisiau sy’n cyfathrebu ein gwaith, o’r ymgyrch am incwm sylfaenol i ddylanwadu ar sut mae ein plant yn cael eu haddysgu, fel y gallwn barhau i herio llunwyr polisi i sicrhau bod cyflawni cyfiawnder cymdeithasol yn ganolog i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd, natur a chostau byw – a bod Cymru’n creu newid gwirioneddol a pharhaol ar gyfer y presennol a chenedlaethau’r dyfodol.”

Mae tri lleoliad gwaith cyflogedig ar gael. Dau gyda Cowshed ac un gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd y lleoliad gwaith yn dechrau ddydd Llun 9 Ionawr 2022 ac yn dod i ben ar ddydd Gwener 10 Mawrth.

I ddarganfod mwy am y lleoliad, ewch i wearecowshed.co.uk/join-us/ neu Gweithio gyda ni – The Future Generations Commissioner for Wales. Mae ceisiadau’n cau am 9am ddydd Mercher 7 Rhagfyr 2022.

Mae Cowshed yn asiantaeth sydd â Blueprint, yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac yn Ymwybodol o Awtistiaeth. Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi’i hachredu ag ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gan I-ACT, ag ymrwymiad i siarter teithio iach ac yn llofnodwyr compact Swyddi Cymunedol. Mae’r ddau ohonom yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol. 

DIWEDD