“Ni allwn dderbyn bod gwaethygu bywydau yn anochel i’n pobl fwyaf bregus a’u plant.” 

Dylai adroddiad pwysig ar lesiant Cymru fod yn hwb i orfodi newid, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Mae Llesiant Cymru: 2024 yn pwyso a mesur cynnydd Cymru ar saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a roddwyd yn gyfraith i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y wlad. 

Wedi’i gyhoeddi heddiw, mae’r adroddiad yn canfod bod anghydraddoldebau’n parhau i ehangu. 

Mae Derek Walker nawr eisiau i Lywodraeth Cymru newid ei blaenoriaethau gwariant i ymateb yn uniongyrchol i’r heriau a amlygwyd yn y dadansoddiad hwn o gyflwr y genedl. 

Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gan gynnwys Llywodraeth Cymru weithredu er budd cenedlaethau’r presennol yn ogystal â phobl sydd eto i’w geni. 

Mae’r gyfraith, sy’n troi’n 10 oed ym mis Ebrill, wedi creu cyflawniadau gan gynnwys cwricwlwm ysgol blaengar, newid i gyfeiriad gwyrddach ar gyfer trafnidiaeth a ffordd newydd o ddiffinio ffyniant, gyda ffocws ar bobl a’r blaned. 

Dywedodd Mr Walker fod yr adroddiad diweddaraf hwn yn adleisio galwadau a wnaeth pan ddaeth yn gomisiynydd yn 2023 wrth gyhoeddi ei strategaeth saith mlynedd, Cymru Can, ar gyfer gweithredu’r Ddeddf yn well ar draws gwasanaethau cyhoeddus. 

Dywedodd: “Rwyf wedi galw am weithredu beiddgar a brys gan ein cyrff cyhoeddus gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ac mae adroddiad heddiw yn adleisio’r meysydd cenhadaeth yr wyf wedi’u nodi ar gyfer angen newid brys – iechyd a lles, hinsawdd a natur, diwylliant a economi llesiant. 

“Mae tlodi yn niweidio pobl ddifreintiedig yn anghyfartal; gall y rhai mewn cymunedau tlotach ddisgwyl byw bywydau byrrach fyth eto. Mae angen gweithredu llym arnom, gan gynnwys newid llym i iechyd ataliol, gan ddefnyddio ein holl wasanaethau cyhoeddus, fel nad ydym yn trosglwyddo canlyniadau gwael i genedlaethau’r dyfodol.” 

Galwodd Mr Walker, a ddywedodd fod hwn yn adroddiad ‘unigryw a phwysig’ a oedd yn gwrando ar ei gyngor i ddefnyddio gwybodaeth fwy manwl am dueddiadau, ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r adroddiad i arwain eu cyllideb yn uniongyrchol ym mis Rhagfyr, fel sy’n wir yn Iwerddon. 

Mae ei dîm yn dod â chyrff cyhoeddus ynghyd fis nesaf i ymateb i’r adroddiad a bydd yn darparu cyngor dan arweiniad yn ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol statudol a gyhoeddir y gwanwyn nesaf. 

Cyhoeddodd hefyd y byddai’n defnyddio ei bwerau cryfaf i adolygu perfformiad cyrff cyhoeddus, gan ddefnyddio’r dystiolaeth yn yr adroddiad. 

Dywedodd Mr Walker: “Fy rôl i fel comisiynydd yw gwthio Llywodraeth Cymru, cynghorau, y GIG ac eraill yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gweithio’n galetaf i newid Cymru er gwell. 

“Efallai y bydd yr hinsawdd ariannol yn anodd, ond os na fyddwn yn gweithredu, bydd gennym lai o ddewisiadau a bydd bywydau pobl yn parhau i fynd yn anoddach. Mae arweinyddiaeth yn ymwneud â dod o hyd i atebion i anawsterau. Mae’r Senedd yn ôl o’r toriad ac mae angen i’r adroddiad hwn fod ar frig yr agenda wleidyddol yng Nghymru. 

“Ni allwn dderbyn bod gwaethygu bywydau yn anochel i’n pobl fwyaf bregus a’u plant. Mae Cymru o flaen y gad o ran torri’r cylch anghydraddoldeb gyda chyfraith sy’n mynnu ein bod yn hynafiaid da. 

“Does dim esgus dros beidio â’i ddefnyddio i’w llawn botensial am ddyfodol disglair i Gymru gyda sefydliadau cryf, gwasanaethau sy’n cadw pobl yn iach, yn glanhau dyfrffyrdd, system trafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig a hygyrch, system fwyd dechach, perchnogaeth gymunedol, a chyflogaeth, hyfforddiant a cyfleoedd addysg gydol oes i bawb.”