Economegydd blaenllaw Kate Raworth yn ymuno â chomisiynydd ar bodlediad newydd yn archwilio Cymru Can
16/1/25

Podlediad newydd: Wrth i ni gyrraedd 10fed flwyddyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym wedi lansio cyfres o bodlediadau gyda Business News Wales, gan ddechrau gyda ffocws ar yr economi llesiant.
Yn ymuno â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, mae’r economegydd blaenllaw, Kate Raworth, sy’n canmol Bannau Brycheiniog am ddefnydd o’r fframwaith Toesen ar gyfer cynllun strategol, gan gymhwyso economeg llesiant i’r cynllun hirdymor ar gyfer un o barciau cenedlaethol mawr Cymru.
Dywedodd:
“Gwnaeth [Bannau Brycheiniog] gynllun ac adroddiad hynod brydferth sy’n cynnwys dau fetrig arloesol – edrych ar ddyfodol y parc trwy wahanol fathau o fetrig, y bobl, y bywoliaethau, ond hefyd iechyd natur yn y lle.
“Maent wedi plethu’r math yma o ddadansoddiad technegol cryf yn farddonol… delweddau a dychmygion a dwi’n meddwl ei fod mor bwysig dod a’r pethau yma at ei gilydd.
“Maent wedi dangos nad yw hyn yn ymwneud â llywodraeth leol a thref yn unig. Gellir ei gymhwyso mewn gwirionedd ar raddfa parc cenedlaethol. Mae’n enghraifft wych o ddefnydd ardderchog o’r fframwaith hwn yma yng Nghymru.”
Mwy o wybodaeth: https://businessnewswales.com/future-generations-commissioners-new-podcast-series-goes-live/
Gwrandewch ar Apple – https://podcasts.apple.com/us/podcast/future-generations-wales-the-podcast/id1789571303
Gwrandewch ar Spotify – https://open.spotify.com/show/6IZmmH9s21Y6M4h4h4tTWv?si=6458076cc39c487f