Gallai gwymon fod yn bŵer newydd i Gymru, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker
11/6/24
Mae angen i Gymru ddatgloi uwch-bŵer gwymon, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker.
Heddiw, cynhaliodd Derek Walker ddigwyddiad ar y cyd â The Earthshot Prize a WWF Cymru i ddathlu twf diwydiant gwymon Cymru.
Roedd Tywysog Cymru, Llywydd, Earthshot Prize, hefyd yn bresennol.
Archwiliodd A Seaweed Future in Wales, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, arloesi blaenllaw yn y diwydiant gwymon a sut y gallai mwy o fuddsoddiad a chymorth ddatblygu dyfodol ffermio gwymon atgynhyrchiol i’r genedl.
Canfu astudiaeth 12 mis ‘Prosiect Madoc’ dan arweiniad y Seaweed Alliance, fod 50% o ardal forol Cymru yn addas ar gyfer tyfu gwymon, gyda’r potensial i adeiladu diwydiant gwerth £105 miliwn a chreu bron i 1,000 o swyddi.
Mae gan Gymru gyfle i ddatblygu diwydiant adfywiol cynaliadwy, daeth i’r casgliad, gyda chymwysiadau o gynhyrchion bwyd, defnyddiau amaethyddol, i bapur a phecynnu yn arwain at well ansawdd dŵr, gwarchod yr arfordir a gwell bioamrywiaeth.
Gelwir ffermio gwymon yn ‘ffermio cefnfor adfywiol’. Mae hyn oherwydd yr effaith gadarnhaol a gaiff ar yr amgylchedd. Mae ffermydd cefnfor adfywiol yn creu cynefin, tiroedd meithrin a lloches i bysgod a bywyd morol arall. Mae’r gwymon hefyd yn amsugno carbon, nitrogen a ffosfforws o’r cefnfor gan ei gwneud hi’n haws i rywogaethau eraill ffynnu.
Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gydweithio i sicrhau llesiant diwylliannol, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol gwell i bobl sy’n byw yn awr ac yn y dyfodol.
Cadeiriodd y comisiynydd, y mae ei rôl yn cynnwys herio cyrff cyhoeddus gan gynnwys Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer problemau a chyfleoedd hirdymor, drafodaeth ar botensial diwydiant gwymon a reolir yn briodol.
Dywedodd Mr Walker, sydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i osod cynllun cadarn ar gyfer tyfu diwydiant gwymon yng Nghymru:
“Gydag arfordir o 1,680 milltir ac wedi’i hamgylchynu gan ddŵr ar dair ochr, mae’n ymddangos yn amlwg i Gymru fod yn archwilio manteision gwymon ac economi las newydd.
“Fel gwledydd eraill ledled y byd, rydyn ni’n wynebu heriau economaidd, amgylcheddol ac iechyd enfawr ac rydw i’n gyffrous ynghylch sut y gallai buddsoddi yng nghonglfaen un o’n seigiau cenedlaethol ddod â buddion lluosog, o swyddi gwyrdd i wella’r system fwyd, a chefnogi Cymru a’r byd i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.
“Ar ôl gweld canlyniadau rhywfaint o’r gwaith sy’n digwydd yng Nghymru eisoes, rwy’n gyffrous am y posibilrwydd y bydd gwymon yn bŵer newydd i Gymru.”
Roedd y rhai a fynychodd y digwyddiad yn cynnwys Câr-y-Môr, sy’n rhedeg fferm wymon adfywiol yn Sir Benfro, a oedd hefyd yn lleoliad ar gyfer ffilm ategol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i’w strategaeth saith mlynedd, Cymru Can.
Mae fferm wymon a physgod cregyn adfywiol gyntaf Cymru sy’n eiddo i’r gymuned yn enghraifft o sut mae pobl sydd am newid y byd yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i herio a chwalu rhwystrau.
Defnyddiodd y gymdeithas budd cymunedol yn Nhyddewi, Sir Benfro y Ddeddf i apelio am drwydded forol tymor byr. Roedd yr apêl yn llwyddiannus a nawr mae ganddyn nhw drwydded 20 mlynedd i gynhyrchu gwymon Cymreig cynaliadwy a ffermio wystrys a chregyn gleision brodorol oddi ar yr arfordir yn Swnt Dewi lle maent yn monitro effaith y fferm ar yr amgylchedd morol a bioamrywiaeth ynghyd â buddion ar gyfer yr hinsawdd.
Dywedodd Gareth Clubb, Cyfarwyddwr WWF Cymru:
“Mae WWF wedi bod yn cefnogi datblygiad ffermio gwymon atgynhyrchiol ers nifer o flynyddoedd, oherwydd ei allu i ddod â buddion i’n hinsawdd, ei fod yn ffynhonnell bwyd iach, ei allu i wella iechyd y cefnfor, a gall helpu i arallgyfeirio’r bywoliaethau pobl sy’n byw mewn cymunedau ymylol. Mae WWF wedi bod yn gweithio gyda Châr-y-Môr ar ymgysylltu â’r gymuned a monitro bioamrywiaeth, yn ogystal ag archwilio’r gwahanol fanteision a’r defnydd posibl o wymon yn y DU.”