Mae angen i Gymru archwilio talu incwm sylfaenol i bawb – llythyr agored at Brif Weinidog Cymru.

Mae Prif Weinidog Cymru’n cael ei annog i archwilio talu incwm sylfaenol i bawb er mwyn astudio sut y gallai wella bywydau cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r rhai sy’n cefnogi Incwm Sylfaenol Cyffredinol, gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, UBI Lab Cymru, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a Chwarae Teg wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn gofyn iddo ehangu cynlluniau ar gyfer rhoi prawf ar y manteision a fyddai’n deillio o roi digon o arian i bobl ar gyfer eu hanghenion sylfaenol.

Mae incwm sylfaenol cyffredinol (UBI) yn daliad diamod lle mae llywodraeth yn talu cyflog sefydlog i bob unigolyn, waeth beth fo’i sefyllfa ariannol. Gwneir taliadau yn awtomatig, heb weithdrefnau fel ciwio a llenwi ffurflenni yn rheolaidd.

Yn gynharach eleni, yn dilyn mudiad ledled Cymru, cyhoeddodd Mr Drakeford y byddai’n treialu incwm sylfaenol. Yn ddiweddarach, dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddi ddiddordeb mewn datblygu peilot bach, a allai, o bosib, gynnwys pobl sy’n gadael gofal.

Eto, mae llofnodwyr y llythyr agored yn dweud, tra bod angen mwy o gefnogaeth ar y rhai sy’n gadael gofal, eu bod yn pryderu y bydd cyfyngu’r peilot fel hyn yn methu rhoi’r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer deall effeithiau incwm sylfaenol ar bawb.

Yn hytrach, maen nhw eisiau i Lywodraeth Cymru redeg peilot ‘Ymadawyr Gofal a Mwy’, eang ei gyrhaeddiad, i gynnwys plant, pobl gyflogedig, pobl ddi-waith a phensiynwyr, yn ogystal â phobl sy’n gadael gofal.

Gallai peilot ehangach gasglu tystiolaeth ar y modd y byddai’r polisi’n effeithio ar Gymru gyfan, trwy roi prawf ar yr effaith ar gyrhaeddiad addysgol, er enghraifft. Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o dlodi plant yn y DU.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, tlodi yw penderfynydd unigol mwyaf iechyd, ac mae afiechyd yn rhwystr i ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd. Mae hyn yn golygu bod pobl dlotach yn byw bywydau byrrach ac mae ganddynt iechyd gwaeth na phobl gwell eu byd.

Ym mis Mehefin, dywedodd adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru y gallai cyflwyno incwm sylfaenol olygu gwell iechyd a llesiant i bawb yng Nghymru.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio meddwl cydgysylltiedig i ddatblygu datrysiadau hirdymor ac atal problemau.

Canfu arolwg barn ar ran Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol fod 69% o bobl yng Nghymru yn credu y dylem dreialu Incwm Sylfaenol a bod 25 o Aelodau’r Senedd wedi llofnodi Adduned UBI UBI Lab Wales.

Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, bod y cyfnod ffyrlo a fydd yn dod i ben ym mis Medi, ynghyd â diwedd yr ychwanegiad pandemig Credyd Cyffredinol o £20 yr wythnos, yn arwydd pellach o ddiffyg addasrwydd systemau presennol llesiant a gwaith i ateb y diben.

Mae Ms Howe eisiau i Aelodau’r Senedd siarad â phobl yn eu cymunedau’r haf hwn am y modd y gallai incwm sylfaenol eu cynorthwyo’n well yn yr hirdymor, ac i Mr Drakeford weithredu peilot UBI ar sail ddaearyddol fel rhan o’i raglen newydd ar gyfer y llywodraeth.

Yn ei Rhaglen Llywodraethu Addas ar gyfer y Dyfodol, mae’r comisiynydd yn galw ar i’r peilot gynnwys cyfranogwyr sydd wedi’u rhannu ar draws dwy gymuned benodol, mewn un rhanbarth trefol ac un rhanbarth gwledig yng Nghymru.

Meddai: “Mae’n bryd i ni dderbyn bod y system wedi torri a heb rwyd ddiogelwch gryfach, bydd cenedlaethau i ddod yn cael eu gadael ag etifeddiaeth o amddifadedd.

“Gallai UBI amddiffyn nid yn unig y rhai sy’n cael eu taro’n galed gan Covid ond pob un ohonom rhag siociau eraill sydd i ddod – fel yr argyfwng hinsawdd a fydd yn achosi mwy o ddinistr trwy dywydd eithafol fel tonnau gwres a llifogydd.

“Mae cadw pobl yn iach yn golygu gwneud pethau newydd i fynd i’r afael â thlodi, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru achub y cyfle hwn yn awr i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ddangos sut y gall UBI newid bywydau.”

Dywedodd Jonathan Williams, sylfaenydd, UBI Lab Cymru: “Mae’n hynod bwysig ein bod yn dylunio’r peilot hwn yn iawn. Os yr ydym am ddeall yn iawn pa effaith y gallai’r polisi ei gael ar gymdeithas, rhaid i ni gynnwys pob demograffeg. Gallai canlyniadau peilot eang arwain at newid arwyddocaol yn nhermau cynnwys pobl sy’n dal i fod heb eu hargyhoeddi ynghylch rhinweddau incwm sylfaenol i bawb.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cam enfawr i’r cyfeiriad cywir trwy fod yn ddigon dewr i gyhoeddi y byddant yn cynnal treial. Nawr mae’n rhaid iddynt gyflwyno’r ddadl i Lywodraeth y DU mai peilot sylweddol yw’r hyn y mae’r cyhoedd yng Nghymru eisiau ei weld.”

Dywedodd yr Athro Guy Standing, cyd-sylfaenydd Basic Income Earth Network: “Mae hwn yn gyfle unigryw i Gymru arwain, a dangos y byddai incwm sylfaenol yn cryfhau gwytnwch wrth wella iechyd corfforol a meddyliol. Ar ôl bod yn rhan o’i dreialu mewn tri chyfandir, rwy’n hyderus y bydd yn gwella bywydau dynion, menywod a phlant o Gymru. Mae diogelwch sylfaenol yn angen dynol.”

Dywedodd Catherine Fookes, cyfarwyddwraig, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru: “Mae peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru yn gyfle cyffrous i archwilio sut y gellid defnyddio UBI fel offeryn ledled Cymru i fynd i’r afael â thlodi a lleihau stigma o amgylch hawlwyr budd-daliadau. Gallai UBI o bosibl gael effaith ddwys ar gau’r bwlch ar anghydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Gadewch inni feio llwybr yng Nghymru gyda pheilot uchelgeisiol sy’n casglu tystiolaeth ar effaith UBI ar sampl sy’n cynrychioli demograffig, fel y gallwn weld yr effeithiau ar bawb yng Nghymru.”

DIWEDD

  • Fel arwydd o gefnogaeth i beilot UBI cyflawn, mae Taylor Edmonds, Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi ysgrifennu cerdd newydd bwerus sy’n dychmygu Cymru’r dyfodol fel gwlad lle ‘bydd pawb yn cael digon o dâl i fyw bywyd gwerthchweil’. Gallwch ei wylio yn cael ei ddarllen gan Taylor a phobl eraill i gefnogi UBI i Gymru, yma.

Fy stori i… 

Dywedodd Phillip Easton o Benrhiwceiber yn Rhondda Cynon Taf y byddai UBI yn ‘newid bywydau’ pobl yn ei ardal 

Yn ystod cyfnodau clo, ni allai busnes y dyn 41 oed, Pip’s Real Hot Chocolate, gyflenwi digwyddiadau na chaffis mwyach, ac roedd Phillip, nad oedd yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, yn brwydro i dalu ei forgais ac am fwyd, gan ddefnyddio’r olaf o’i gynilon, a grantiau (NDR, Ardreth Annomestig, a thrwy’r Gronfa Cadernid Economaidd.) 

Dioddefodd Phillip strôc chwe blynedd yn ôl a’i adawodd â niwed i’r ymennydd sy’n golygu ei fod yn ei chael hi’n anodd gwneud gwaith papur a dywedodd y byddai taliad awtomatig, gwarantedig yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn ystod ansicrwydd economaidd. 

“Oherwydd bod y cyllid yn newid, nid ydych chi’n gwybod a ydych chi’n mynd i gael cymorth,” meddai Phillip. 

“Mae’n anodd cynllunio ac mae’r ansicrwydd hwnnw’n rhoi pwysau ar eich iechyd meddwl. Mae’n amser anodd iawn. Nawr yw fy nhymor tawel, yn dilyn methiant i werthu yn ystod cyfnod prysur y gaeaf, ond does gen i ddim syniad a ydw i’n mynd i gael mwy o help.” 

Yn ymarferol, dywedodd Phillip y gallai UBI dalu am aelod o staff, neu ddarn o offer pan fydd yn torri, ond yn anad dim, byddai o fudd cymunedol i bawb. 

RCT sydd â’r gyfradd uchaf o dlodi plant yng Nghymru ac ar ddechrau’r flwyddyn, cyfraddau marwolaeth Covid yno oedd y trydydd uchaf yn y DU – 283 o bob 100,000 o bobl – dwywaith y cyfartaledd cenedlaethol. 

Ym mis Chwefror, gwnaeth cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg, Kelechi Nnoaham, gysylltiad rhwng y broblem â thlodi ac anghydraddoldebau iechyd. Dywedodd wrth BBC Cymru: “Pe bai rhywun wedi wynebu unrhyw un ohonom ym mis Chwefror 2020 a dweud, ‘Mae pandemig yn dod, a allwch chi edrych flwyddyn i’r dyfodol ac asesu pa gymunedau fyddai’n dioddef yr effeithiau mwyaf difrifol o’r pandemig hwn?’, dyma’r darlun y gallech fwy neu lai fod wedi ei ragweld gyda chryn dipyn o gywirdeb.” 

Dywedodd Phillip: “Pe bai fy ardal yn cael ei dewis ar gyfer y peilot, yna byddai gan y plant hynny sy’n byw yn y tlodi gwaethaf yng Nghymru arian yn eu teuluoedd nad oeddent erioed wedi breuddwydio amdano. 

“Rydyn ni’n bobl falch. Nid ydym eisiau elusen. Ond nid yw rhai pethau y gellir eu cymryd yn ganiataol yn flaenoriaeth. Gallwn roi cot ffres o baent i’n tai a’n siopau, a gellir atgyweirio’r pethau cudd sydd wedi torri – i gyd gan fusnesau lleol eraill, gan gadw’r economi lleol i symud. 

“Nid yw arian i fod i gael ei storio mewn banciau – mae i fod i symud. 

“Nid yw UBI’n ymwneud â rhoi arian i bobl, mae’n ymwneud â rhoi cyfleoedd iddynt. Cyfleoedd i gael bywyd gwell yn y cartref, gwell iechyd meddwl, mwy o amser i wneud y pethau sy’n gwneud rhywle yn fan lle mae pobl eisiau byw ynddo.” 

Mae lluniau Phillip Easton gan Yusuf Ismail

Fy stori… 

Mae Lani Driver yn byw yn Holt, ger Wrecsam, ac yn gweithio’n llawn amser mewn swydd nad yw’n siŵr y bydd yn bodoli yn y dyfodol. 

Ar hyn o bryd mae Lana sy’n 24 mlwydd oed, a ddysgodd am UBI wrth astudio ar gyfer Gradd Meistr mewn Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cymudo am ddwy awr y dydd i swydd gweinyddydd yn Llanelwy.  

Ac eto, fe fyddai wrth ei bodd i gael amser i ganolbwyntio ar adeiladu’r busnes y mae hi’n teimlo’n angerddol amdano – pan fydd hi’n gorffen gwaith bob dydd, mae hi’n pobi ’brownis’ a chacennau ar gyfer y busnes becws bach y mae’n ei redeg o gegin ei rhieni. 

“Nid wyf yn mwynhau fy swydd feunyddiol yn arbennig ac ar ddiwedd y dydd, nid oes llawer o amser ar ôl i wneud unrhyw beth arall,” meddai Lani, sy’n gyd-sylfaenydd UBI Lab Wrexham. 

“Buaswn wrth fy modd i fedru datblygu’r busnes. Dyma fy mhrif ddiddordeb. Ond does gen i ddim o’r modd na’r amser i’w gyflawni. 

‘Rwy’n adnabod cymaint o bobl ag angerdd ond maent o dan straen oherwydd pwysau ariannol, ac ni allant fforddio gwneud yr hyn sydd ei angen arnynt i adeiladu busnes. Byddai UBI yn dileu llawer o’r straen hwnnw. 

 ‘Mae cymdeithas yn newid. Mae yna lawer o swyddi ym maes gweithgynhyrchu yn yr ardal yma sy’n newid yn barod – mae’n hawdd meddwl ei fod yn ymwneud â robotiaid yn unig, ond meddalwedd yw llawer ohono – er enghraifft, fy swydd ym maes gwerthu, credaf yn fuan iawn y bydd meddalwedd yn gwneud hynny – ac ni fydd fy swydd yn bodoli. Beth fydd yn digwydd wedyn?” 

Mae Lani o’r farn y gallai manteision UBI fod yn enfawr i’w hardal hi. 

“Es i i’r ysgol yn y Rhyl ac roeddwn i’n nabod llawer o bobl a oedd yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Mae llawer o’r gwaith i fyny yma yn dymhorol iawn, ac mae pobl yn ei chael hi’n anodd cael incwm rheolaidd. Mae tyfu i fyny yn y modd hwnnw’n cael effaith, mae’n aros gyda chi, hyd yn oed ar ôl i chi gyrraedd y pwynt pan fydd gennych chi ddigon o arian fel oedolyn. 

“Os wnaethoch chi brofi’r ansicrwydd hwnnw pan oeddech chi’n tyfu i fyny, mae’r pryder am orfod wynebu’r un sefyllfa eto yn y dyfodol yn aros gyda chi’. 

Collodd rhieni Lani eu busnes yn dilyn y chwalfa ariannol yn 2008 ac ers hynny mae hi wedi myfyrio ar y modd y byddai cael incwm sylfaenol wedi gwneud gwahaniaeth. 

‘Buaswn wrth fy modd i weld y Llywodraeth yn treialu UBI yng Nghymru fel y gallai pawb mewn tref neu ardal ei dderbyn, waeth beth fo’u hoedran a’u hamgylchiadau. 

‘Rwy’n credu bod angen i ni ofyn i’n hunain pa fath o gymdeithas rydyn ni ei heisiau. Rwy’n adnabod llawer o bobl â phlant er enghraifft sy’n gweithio bob awr o’r dydd pan y byddai’n well ganddynt dreulio amser gyda’u teulu – buaswn yn hapus iawn i weld mwy o bobl yn gallu gwneud hynny.” 

Mae lluniau Lani gan Lani Driver

Llythyr cyflawn at y Prif Weinidog, yn gofyn iddo ystyried peilot UBI ar Ymadawyr Gofal a Mwy sy’n cynnwys sampl gynrychioliadol ddemograffig o’r holl boblogaeth, yn ogystal â phobl sy’n gadael gofal…

Annwyl Mark Drakeford,

Rydyn ni’n ysgrifennu atoch yn dilyn y datganiad diweddar y bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal peilot ar Incwm Sylfaenol. Hoffem fynegi ein gwerthfawrogiad o’r rhai a ymgyfrannodd yn y penderfyniad i roi prawf ar bolisi a fedrai drawsnewid bywydau’r genhedlaeth bresennol a ‘r dyfodol er gwell.

Deallwn eich bod yn ystyried peilot a fydd yn cynnwys ymgyfraniad pobl ifanc sy’n gadael gofal. Tra’n bod yn cytuno bod y rhai sy’n gadael gofal angen mwy o gymorth, rydyn ni’n pryderu na fydd prosiect peilot sydd wedi ei gyfyngu i grŵp penodol yn darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i ddeall effeithiau Incwm Sylfaenol ar bawb.

Yn hytrach rydyn ni’n eich cynghori i ystyried peilot ‘Ymadawyr Gofal a Mwy’ sy’n cynnwys sampl gynrychioliadol ddemograffig o’r boblogaeth gyfan, yn ogystal â rhai sy’n gadael gofal.

Byddai peilot UBI seiliedig ar ddaearyddiaeth yn caniatáu i chi gasglu’r dystiolaeth angenrheidiol am y modd byddai’r polisi’n effeithio ar Gymru pe bai’n cael ei gyflwyno yfory.

Rydyn ni eisoes yn gwybod o brosiectau peilot a gynhaliwyd yn y Ffindir a Stockton, ymhlith eraill, fod Incwm Sylfaenol yn gwella llesiant corfforol a meddyliol y rhai sy’n ei dderbyn yn sylweddol, gyda thystiolaeth o lai o ymweliadau ag ysbytai, gwell canlyniadau iechyd meddwl a llai o alw ar wasanaethau yn hwyrach mewn bywyd. Yn wir, cadarnhaodd yr adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru: ‘Incwm sylfaenol i wella iechyd a llesiant poblogaeth Cymru’, fod y polisi’n debygol o gael yr un effaith yma, os caiff ei weithredu yn y ffordd iawn.

Gallai peilot mwy uchelgeisiol sy’n cynnwys sampl amrywiol-ddemograffig brofi pa effeithiau y mae’r polisi nid yn unig yn ei gael ar y bobl fwyaf anghenus, fel y rhai sy’n profi tlodi plant, y mae gan Gymru’r gyfradd uchaf yn y DU, ond yr effeithiau ar bawb yng Nghymru.

Gallai’r math hwn o beilot brofi pa effaith y mae’r polisi’n ei gael ar bobl hŷn. Efallai y gwelwn ei fod yn rhoi rhyddid iddynt ymddeol gyda’u hurddas. Efallai y byddwn hefyd yn dysgu mwy am yr effaith y gallai Incwm Sylfaenol ei gael ar faterion cydraddoldeb rhywiol fel menywod yn darparu gwaith gofal di-dâl, anghymesur i’w hanwyliaid.

Dylai’r prosiect peilot ryngweithio gyda’n system les. Fel y dangoswyd gan y pandemig, nid yw ein system bresennol yn addas ar gyfer y diben a gall hawlwyr gael eu cloi mewn tlodi. Dim ond drwy gynnwys ystod o bobl fedrwn ni ddangos bod yna well dull o warantu sicrwydd economaidd i bawb.

Canfu arolwg barn gan Survation, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, fod 69% o bobl yng Nghymru yn credu y dylem dreialu Incwm Sylfaenol. Llofnododd 25 Aelod o’r Senedd Adduned ‘UBI Lab Wales’ cyn Etholiadau Senedd Mai 2021. Heb amheuaeth, mae’r rhai a arolygwyd a’r rhai a lofnododd yr adduned eisiau gweld peilot sy’n adlewyrchu Cymru gyfan.

Rydyn ni’n deall y bydd angen cydweithrediad Cyllid a Thollau EM ac Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU ar gyfer unrhyw beilot eang. Fodd bynnag, mae gennych fandad clir i ddadlau’r achos dros beilot sylweddol – rhaid i chi ei ddefnyddio.

Rydyn ni’n annog holl Aelodau’r Senedd i siarad â phobl yn eu cymunedau’r haf hwn am y modd y gallai incwm sylfaenol eu cynorthwyo’n well yn yr hirdymor, fel y gallant ddychwelyd o seibiant yr haf yn barod i gymryd rhan ystyrlon yn y sgwrs ar Incwm Sylfaenol.

Gallai Cymru gymryd rhan arloesol yn y polisi cyffredinol nesaf sy’n gofalu am bawb o’r crud i’r bedd; fel y gwnaeth gyda’r GIG dros 70 mlynedd yn ôl. Os yw hynny i ddigwydd, rhaid i ni weithredu’r peilot hwn yn iawn.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill yn y misoedd sydd i ddod i wireddu’r uchelgais hwn.

Yn gywir,

Jonathan Rhys Williams (Cyd-sylfaenydd UBI Lab Wales)

Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru)

Yr Athro Guy Standing (Cyd-sylfaenydd Basic Income Earth Network)

Cerys Furlong (Prif Weithredydd Chwarae Teg)

Catherine Fookes (Cyfarwyddwraig Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru)

 

Cerdd gan Taylor Edmonds, Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru… 

Cerdd gan Taylor Edmonds, Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru…

Let’s rewrite the story.  

In this version, your mother doesn’t take a second job, 

no 50-hour week and empty seat at the table.  

Without the weight of night shifts on her back 

she goes to college, starts to dream 

of soil-stained hands, a community garden, 

of reading stories to the sleepy rhythm of your breath.  

 

Your next-door neighbour lives. 

His body lighter, he starts to paint, fills the walls  

with hues of watercolour. The haunting  

eviction and red-lettered final warnings 

never come through the letterbox. 

His children know only how to be children, 

full-bellied, planning a trip to space, 

to build a secret den in the treetops.  

 

What kind of home is Wales 

when a third of young people are living in poverty?  

Let’s change the narrative, break the cycle 

while our toes are curled at the brink.  

Reverse queues for food banks,  

end job insecurity, rising unemployment, 

homelessness, the long wait for welfare  

cheques that barely make ends meet.  

 

We may fail and stumble, 

but imagine a country 

where everyone is paid enough to truly live. 

Without the fear of losing it all, 

who could you become? 

Freedom to imagine, experiment, move  

with purpose, defined by more 

than a job title, possessions, productivity.  

 

When we own our bodies, 

I want you to just lay here in the grass 

and breathe.  

 

Taylor Edmonds, Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru… 

 

 

Nodiadau i olygyddion

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, yn galw yn ei Rhaglen Lywodraethu Addas ar gyfer y Dyfodol, i beilot UBI Llywodraeth Cymru: 

  • Seiliwch yn ddaearyddol a chynnwys cyfranogwyr wedi’u rhannu ar draws dwy gymuned benodol – mewn un rhanbarth trefol ac un rhanbarth gwledig yng Nghymru. 
  • Darparu taliad misol na ellir ei dynnu’n ôl heb brawf modd. 
  • Cael ei rhedeg am gyfnod o 24 mis.

Canfu peilot UBI yn y Ffindir, a oedd yn talu 560 Ewro y mis, fod gan gyfranogwyr well llesiant, mwy o ymddiriedaeth mewn eraill a lefelau uwch o hyder yn y dyfodol. Fe wnaethant hefyd weithio ychydig yn fwy na’r rheini ar fudd-daliadau diweithdra a nodi gwell gweithrediad gwybyddol. 

Taylor Edmonds yw bardd preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Cafodd y chwaraewr 26 oed ei recriwtio i’r swydd ym mis Ebrill 2021 i gyfathrebu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a’r ddyletswydd y mae’n ei rhoi ar y rhai sydd mewn grym i amddiffyn pobl sydd heb eu geni eto. 

Gwnaeth y ddeddfwriaeth Gymru’r wlad gyntaf yn y byd i gynnwys diwylliant yn ei ddiffiniad o ddatblygiad cynaliadwy – gan roi gwerth ar bŵer celf i wella llesiant person a chymuned.  

DIWEDD 

 

Ymholiadau gan y cyfryngau i claire.rees@futuregenerations.wales