Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddweud na wrth gloddio am lo.
13/11/24
Mae Derek Walker eisiau i Lywodraeth Cymru gryfhau ei pholisi glo, a rhoi diwedd pendant i echdynnu glo, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae Cymru wedi ymrwymo i symud oddi wrth lo a nwy, ac eto mae polisi LlC yn datgan ar hyn o bryd y gellir rhoi trwyddedau glo o hyd mewn ‘amgylchiadau cwbl eithriadol’.
Mae’r comisiynydd, sydd â’r dasg o ddwyn cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i gyfrif yn ei rôl fel gwarcheidwad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn galw am ddileu’r cymal i orfodi gwaharddiad effeithiol ar drwyddedau neu estyniadau pyllau glo newydd yng Nghymru.
Gyda chais byw yn Sir Gaerfyrddin ac un i’w ddisgwyl yng Nghaerffili yn fuan, mae Mr Walker yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddileu unrhyw fwlch sy’n caniatáu i fwy o gloddio fynd yn ei flaen.
Dywedodd Mr Walker:
“Rwy’n gwrthwynebu’n gryf unrhyw drwyddedau glo newydd neu estyniadau i rai presennol. Mae glo yn perthyn i’n gorffennol, nid ein dyfodol.
“Gallai’r llifogydd dinistriol a cholli bywyd yn Valencia ddigwydd yr un mor hawdd yma yng Nghymru. Rydym eisoes yn gweld effeithiau llifogydd, o Bontypridd i Lanrwst, ac os na weithredwn yn awr, rydym yn peryglu goroesiad y ddynoliaeth.
“Yr wythnos hon, yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, a gyda’r byd yn canolbwyntio ar COP, gwnaethom gyfarfod ag arweinwyr Cenedl y Wampís o Ogledd Periw yn ystod eu hymweliad â Chymru. Anogon nhw lywodraethau byd-eang i gefnogi eu hymdrechion i amddiffyn yr Amason a galw ar Gymru i ymrwymo i ddyfodol sy’n rhydd o danwydd ffosil a datgoedwigo.
“Ni all Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang gydfodoli â diwydiant cloddio glo.
“Mae angen system ynni ddatgarboneiddio arnom sy’n sicrhau buddion diriaethol i gymunedau – aer glân, diwydiannau cynaliadwy, a swyddi ar gyfer y dyfodol.”