Mae'r DU yn mynd yn fwy sâl a thlotach, yn ôl dadansoddiad Comisiwn IPPR ar Iechyd a Ffyniant, a gyfrannodd at gan gyn-Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, canfyddir y byddai iechyd gwell o fudd i gyllid pobl yng Nghymru.

Dywedodd Comisiynydd newydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker: 

“Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn sy’n amlygu ymhellach y cysylltiadau rhwng tlodi ac iechyd, gan ddangos y byddai iechyd gwell yn gwella enillion a diogelwch ariannol ledled y DU. 

Roedd un o bob chwech o bobl yn y swyddi â’r cyflogau isaf yn gadael gwaith yn dilyn salwch tymor hir, o’i gymharu ag un o bob ugain yn y swyddi â’r cyflog uchaf – mae hynny’n annheg a gallwn ni ddim fforddio i’r annhegwch hyn barhau, os ydym am gael Cymru lle mae pawb yn byw bywydau iach a llewyrchus. 

Mae angen polisïau cydgysylltiedig a hirdymor sy’n cefnogi pobl i gadw’n dda am sawl rheswm, ac mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod buddsoddi mewn iechyd gwell yn gwneud synnwyr yn economaidd hefyd. 

Yng Nghymru, lle byddai rhai o’r buddion mwyaf i’w teimlo, mae gennym uchelgais ar gyfer Cymru iachach o dan ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – mae cymaint mwy y gallem fod yn ei wneud i ddefnyddio ein cyfraith unigryw i sicrhau iechyd gwell tymor hir. 

Rwy’n cefnogi’r argymhelliad ar gyfer cenhadaeth iechyd hirdymor ac yn annog pobl sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru i ddefnyddio ein deddfwriaeth bresennol i gymryd camau beiddgar, uchelgeisiol, cydgysylltiedig a hirdymor ymhellach i wella iechyd ar draws pob penderfyniad polisi.”