Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru, Sophie Howe, wedi gofyn i Lywodraeth Cymru egluro sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud ar eithriadau rhewi adeiladu ffyrdd Cymru.

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn atal pob prosiect adeiladu ffyrdd yn y dyfodol wrth iddi gynnal adolygiad. Mae gan Gymru darged o gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050, ac mae trafnidiaeth yn cyfrif am 17% o’r allyriadau.

Cefnogwyd y newyddion gan y Comisiynydd, yr actifydd newid hinsawdd Greta Thunberg, a ddangosodd ei chefnogaeth ar Twitter, a sefydliadau fel Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru a Chyfeillion y Ddaear Cymru.

Mae Ms Howe wedi ysgrifennu at y dirprwy weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, i geisio rhesymu’r llywodraeth dros wneud eithriadau ar gyfer prosiectau, ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud y byddai’n bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo.

Mae hi eisiau gwybod sut mae penderfyniadau eithrio yn cyd-fynd ag ymdrechion ehangach y llywodraeth o ran trafnidiaeth a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, a sut mae WelTAG (Canllawiau Gwerthuso Trafnidiaeth Cymru ar gyfer meddwl am newidiadau arfaethedig i’r system drafnidiaeth a mynd i’r afael â thagfeydd) yn cael eu defnyddio er lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae’r Comisiynydd wedi cynghori’r Llywodraeth o’r blaen nad yw’r broses WeTAG yn aml yn cael ei chymhwyso’n gywir a galwodd ar y Llywodraeth i wrthod cyllid ar gyfer cynlluniau ffyrdd newydd na all ddangos bod y broses wedi’i dilyn yn gywir.

Er na all y Comisiynydd ymyrryd mewn prosiectau penodol, mae ei thîm wedi cynghori ar rai cynlluniau WelTAG ac mae wedi ystyried pryderon ynghylch cymhwyso WelTAG ar nifer o brosiectau fel prawf i ddarganfod a oes problem systemig gyda chymhwyso’r canllawiau . Roedd y prosiectau a ystyriwyd yn cynnwys cyswllt Cyffordd 34 yr M4 â’r A48, ffordd newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o’r cynllun ar gyfer datblygiad tai newydd, ffordd osgoi Llanbedr, Cynllun A40 Penblewin i Groesffordd Maengoch, a chynlluniau A438 Llandeilo a Ffairfach. Mae’r Comisiynydd wedi tynnu sylw problemau’r Llywodraeth gyda chymhwyso’r canllawiau ym mhob un o’r achosion hyn.

Dywedodd y Comisiynydd: “Mae ein senedd newydd ddatgan argyfwng natur ac mae gennym asesiad risg hinsawdd newydd sydd wedi canfod bod y bwlch rhwng risgiau a gweithredu yn cynyddu – mae gan y byd i gyd gyfrifoldeb i gymryd camanu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, a rhaid i bob gwleidydd chwarae ei ran.

“Fe wnes i groesawu’r rhewi ffyrdd fel yr alwad gywir – a cham enfawr i’r cyfeiriad cywir ar gyfer Cymru iachach, lewyrchus, gydnerth a fwy cyfartal, gan ddangos y gwahaniaeth y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei wneud.

“Mae llawer o’n systemau cyfredol, gan gynnwys y ffordd yr ydym yn cynllunio a chludiant adnoddau, yn methu cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, gan barhau ein dibyniaeth ar geir preifat na fydd yn lleihau ein hallyriadau ac ni fyddant yn ein helpu i greu cymunedau iach ac llesol. Mae angen i’n holl wleidyddion ganolbwyntio ar ofyn cwestiynau heriol a gwneud penderfyniadau anodd i unioni hynny. ”

Mae’r llythyr llawn, a anfonwyd Gorffennaf 6, 2021 yn darllen:

Annwyl Lee,

Rwy’n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i rewi pob prosiect ffordd newydd a’u hadolygu fel rhan o’r ymdrechion i leihau allyriadau carbon – gan symud buddsoddiad o gynyddu capasiti ffyrdd i gynnal a chadw llwybrau presennol a blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. Dyma’r union fath o benderfyniad beiddgar sydd ei angen ar ein cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae hyn hefyd yn unol â llawer o’r argymhellion a wneuthum i Lywodraeth Cymru yn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 ac mae’n adeiladu ar y weledigaeth a nodwyd yn Llwybr Newydd, yr oedd fy nhîm yn rhan ohoni.

Er gwaethaf y rhewi hwn ar bob prosiect ffordd newydd, mae yna gynlluniau, sy’n ymddangos fel pe baent yn parhau fel arfer ac sydd ar fin symud ymlaen i’r cam nesaf yn y broses WelTAG. Hoffwn ddeall yn well ymresymiad Llywodraeth Cymru dros wneud eithriadau o’r fath ar gyfer rhai prosiectau ffyrdd a sut mae’r penderfyniadau hyn yn cyd-fynd ag ymdrechion ehangach y llywodraeth o ran trafnidiaeth a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur a hoffwn weld sut mae’r penderfyniadau’n cael eu gwneud yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy sy’n ystyried anghenion cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Byddwch yn ymwybodol, er na allaf ymyrryd mewn achosion penodol, fy mod yn cymryd dull o ystyried materion a godwyd gyda mi pan ymddengys eu bod yn rhan o broblem systemig. Yn hyn o beth, rwyf wedi cael pryderon am gyfnod sylweddol o amser am WelTAG – i ddechrau, fy mhryderon oedd nad oedd y canllawiau yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (felly, gweithiodd fy swyddfa gyda Llywodraeth Cymru i’w hadolygu) , ac yn ddiweddarach nad oedd y WelTAG diwygiedig yn cael ei gymhwyso’n gywir. Ysgrifennais at y cyn Weinidog Economi Ken Skates ar 25 Tachwedd 2020 (ynghlwm), gan nodi pryderon gyda chais WelTAG yng nghysylltiad arfaethedig Cyffordd 34 yr M4 â’r A48, ffordd newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o’r cynllun ar gyfer datblygu tai newydd, ffordd osgoi Llanbedr, Cynllun A40 Penblewin i Groesffordd Maengoch, a chynlluniau A438 Llandeilo a Ffairfach.

Mae cywirdeb cymhwyso WelTAG yn hollbwysig ac rwy’n glir iawn na ddylai’r llywodraeth ariannu cynlluniau na all ddangos yn glir bod y broses wedi’i dilyn yn gywir. Mae’r materion penodol o ran i ba raddau y mae prosiectau yn unol â thargedau datgarboneiddio hefyd yn fater arwyddocaol y mae angen ei ailasesu nawr.

Edrychaf ymlaen at eich ymateb.

Yr eiddoch yn gywir,

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.