Rwy’n cydnabod yr heriau arwyddocaol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u hwynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’n gadarnhaol bod y gyllideb ddrafft 2021-22, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020, yn pwysleisio pwysigrwydd adferiad gwyrdd a chyfiawn.

Rwyf wedi darparu dadansoddiad o’r gyllideb ddrafft i’r Llywodraeth ac i Bwyllgor Cyllid y Senedd, yn cynnwys meysydd lle rwy’n ystyried bod cynnydd wedi ei wneud, yn ogystal â meysydd allweddol y dylid, yn fy marn, eu blaenoriaethu ar gyfer buddsoddiad cynyddol.

 

Gwelliannau cadarnhaol

Rwy’n falch i weld bod gwariant ar deithio cynaliadwy yn parhau i gynyddu – mae wedi cynyddu o 63% ers 2019-20, ochr yn ochr â chynnydd mewn buddsoddiad mewn teithio llesol, cynlluniau Metro a rheilffyrdd a Seilwaith Cerbydau Trydan. Fodd bynnag yn nhermau’r ffordd y darperir y cyllid hwn, dylai’r Llywodraeth ystyried dyraniadau aml-flwyddyn ar gyfer cynlluniau teithio llesol i’w galluogi i’w cynllunio a’u cyflwyno’n iawn.

Rwy’n ystyried bod rhai penderfyniadau cadarnhaol wedi eu gwneud mewn perthynas ag ariannu datgarboneiddio cartrefi, gan adeiladu ar y Rhaglen Ôl-osod Optimeiddiedig a ddatblygwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er bod angen dybryd am gynllun tymor hwy ar gyfer ariannu datgarboneiddio stoc dai. Dylai’r Llywodraeth gynyddu’r buddsoddiad mewn ôl-osod tai a sicrhau ymrwymiadau tymor hir aml-flwyddyn i gynyddu gweithredu dros y degawd nesaf.

 

Meysydd ar gyfer ystyriaeth bellach

Mae yna nifer o feysydd eraill yr wyf wedi tynnu sylw atynt yn gyson fel cyfleoedd allweddol ar gyfer adferiad gwyrdd a chyfiawn, lle rwy’n ystyried bod yna ddiffyg cyllid yn y gyllideb ddrafft.

Y maes allweddol yw buddsoddi mewn sgiliau a chyflogadwyedd, sy’n rhaid iddo fod yn sail i adferiad yn dilyn y pandemig. Credaf bod yna gyfle arbennig i Lywodraeth greu cysylltiadau â’r argyfyngau hinsawdd a natur a buddsoddi yn natblygiad sgiliau mewn sectorau lle dangosir bod ganddynt botensial arwyddocaol i greu swyddi ar gyfer adferiad gwyrdd a chyfiawn. Fel yr amlinellir yn fy nadansoddiad rwy’n pryderu oherwydd bod y dyraniadau a nodir yn y gyllideb ddrafft yn annigonol ar gyfer cadw i fyny â’r galw cynyddol a’r farchnad lafur sy’n newid yn gyflym ac rwy’n argymell rhai meysydd penodol y dylid buddsoddi mwy ynddynt. Dylai’r Llywodraeth ystyried sut y gall warantu mwy o fuddsoddiad mewn sgiliau a chyflogadwyedd ar gyfer economi di-garbon, yn arbennig drwy wella mynediad i sectorau sydd mewn sefyllfa dda i sicrhau adferiad gwyrdd.

Rwyf hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i fuddsoddi mewn adfywio canol tref a dinas i gefnogi cynnydd mewn gweithio o bell; ar gyfer buddsoddi yn y sector diwylliant a’r diwydiannau creadigol fel rhan greiddiol o adferiad; a buddsoddiad pellach mewn datrysiadau sy’n seiliedig ar natur. Dylai’r Llywodraeth sicrhau bod buddsoddiad yn sicrhau manteision mewn perthynas â chymaint o’r nodau llesiant â phosibl – er enghraifft ystyried sut y gall eu cynigion gwariant ar gyfer adfywio trefi a dinasoedd gefnogi gweithio o bell yn well, cynnwys y sector diwylliant a chreu seilwaith gwyrdd.

Tra bo’r pandemig wedi bod yn ddinistriol a heriol mewn llawer ffordd, mae hefyd wedi dod â manteision, yn cynnwys dulliau newydd o weithio’n arloesol, yn ddigidol a chydweithredol, â ganddynt y potensial i ddod â newid diwylliannol i’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau yng Nghymru. Dylai’r Llywodraeth sicrhau bod buddsoddi ar draws portffolios yn ‘cynnal yr hyn sy’n dda’ drwy gynorthwyo dulliau newydd cadarnhaol o weithio pan fyddwn yn symud i fodd adferiad a chael ein temtio i fynd yn ôl at yr ‘hen normal’.

Rwy’n falch bod y Llywodraeth wedi cychwyn rhaglen waith i ddeall yn well y lefel o allyriadau carbon sy’n deillio o benderfyniadau cyllidebol. Dylai’r Llywodraeth asesu effaith carbon eu gwariant, yn arbennig gwariant cyfalaf mawr, a chyhoeddi manylion ar effaith carbon eu cyllideb a phenderfyniadau ar fuddsoddiadau a seilwaith mawr.

Annex 1 – Advice to Government on priorities for investment in a green and just recovery

 

Annex 2 – Advice to Government on priorities for capital spend