Dylai pobl Cymru fod yn gallu mynd i fyd natur ar ôl cerdded pedwar munud neu lai o ble maen nhw’n byw, yn ôl cyhoeddiad gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ystod Wythnos Genedlaethol Coed.

Mae Sophie Howe wedi gofyn i Lywodraeth Cymru osod safonau i sicrhau y gall pobl fynd i lecynnau glas naturiol o fewn 300m o’u cartref – sy’n gyfwerth yn fras â cherdded am ryw 2-4 munud, taith fer mewn cadair olwyn, neu ryw funud ar gefn beic.

Dyma un o’r argymhellion yn ei Maniffesto y Dyfodol, sydd hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i lasu cymunedau drwy ddarparu 20% o orchudd coed ymhob tref a dinas yng Nghymru erbyn 2030.

Mae coed yn amsugno pethau sy’n llygru ac yn dargyfeirio gronynnau o allyriadau cerbydau.

Bydd Ms Howe yn derbyn lefel uchel o ohebiaeth gan bobl sy’n gofidio am adeiladu ar dir glas, ac mae’n dweud fod y cyswllt â choed a llecynnau glas yn cael effaith enfawr ar fywydau cenedlaethau presennol a rhai’r dyfodol.

Mae’r comisiynydd yn awyddus i rymuso cymunedau i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn uniongyrchol i holi cwestiynau i gyrff cyhoeddus a Llywodraeth Cymru, ac i herio penderfyniadau a allai fynd yn erbyn amcanion llesiant a dulliau gweithio’r Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn mynnu eu bod yn ystyried effaith penderfyniadau a wneir heddiw ar genedlaethau’r dyfodol.

Mae hi hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i ystyried gwarchod a gwella natur a bioamrywiaeth ar gyfer pob penderfyniad cynllunio, ac mae hi’n annog ceisio atebion sy’n seiliedig ym myd natur fel dull hirdymor o gynllunio mannau trefol.

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod cyllid yn cael ei glustnodi i greu Coedwig Genedlaethol, a £5 miliwn wedi’i neilltuo yn 2020-21 i greu ardaloedd newydd o goedwig, a helpu i adfer a chynnal rhai o goedwigoedd hynafol digymar Cymru.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu cynyddu’r gorchudd coed yn y Rhyl, gydag uchelgais dros bum mlynedd i blannu 18,000 o goed.

Dywedodd y comisiynydd, sy’n tynnu sylw yn ei Maniffesto y Dyfodol diweddaraf at faterion sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol y dylai pleidiau gwleidyddol fod yn ymrwymo i’w taclo yn eu maniffestos cyn etholiadau i’r Senedd ym mis Mai nesaf, fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i greu Cymru iachach o gymunedau cydlynus ac ecosystem gydnerth.

Mae angen i gyrff cyhoeddus ddangos sut maen nhw’n buddsoddi ym myd natur, gan ddefnyddio tystiolaeth fel asesiadau i-tree, a ddefnyddir gan rai cynghorau i feintioli manteision cynyddu gorchudd gan goed, a chyfrifo cyfalaf naturiol, er mwyn gwneud penderfyniadau doeth.

“Gall cysylltu pobl â natur mewn ffordd well, drwy fuddsoddi mewn strydoedd glas a pharcio glas, neu drwy greu fforestydd trefol, helpu i wella ansawdd yr awyr, gan gadw pobl yn iach a lleihau anghyfartaledd,” meddai hi.

“Mae glasu ein hardaloedd byw yn gallu rhoi cyfle i bobl gael yr ymwneud beunyddiol, llai o faint yna â byd natur, sy’n dod â manteision y gwyddom amdanynt yn eu sgil i’n hiechyd a’n llesiant, sy’n arbennig o bwysig yn ystod cyfyngiadau’r pandemig.

“Mae buddsoddi mewn natur yn ein helpu i ymladd yn erbyn yr argyfwng hinsawdd a natur a’i effeithiau – er enghraifft drwy greu gwell amddiffyn yn erbyn bygythiadau dinistriol fel gorlifo.”

Mae’r comisiynydd yn aelod o’r Tasglu Adfer Glas, dan arweiniad y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ASC, gan ddwyn ynghyd bobl a syniadau allweddol er budd cael adferiad ar sail natur o Covid-19.

Un o’r syniadau yw creu Gwasanaeth Natur Cenedlaethol neu Gorfflu Cadwraeth, rhaglen gyflogaeth a sgiliau er mwyn helpu rhagor o bobl i ddod yn eco-lythrennog ac i ymuno â diwydiannau â’u sail ym myd natur.

Mae TUC Cymru wedi awgrymu y gellid creu 60,000 o swyddi gwyrdd dros y ddwy flynedd nesaf ac mae Ms Howe wedi galw am fuddsoddi yn y sgiliau a’r hyfforddiant fyddai ei angen i gefnogi symud at ‘ddyfodol gwell’, gan ymateb i dueddiadau’r dyfodol mewn ffyrdd sy’n lleihau anghyfartaledd.

Mae hi wedi gofyn i Lywodraeth Cymru sefydlu gweledigaeth genedlaethol i Gymru er mwyn iddi ddatblygu i fod yn genedl fwyaf eco-lythrennog a chyfrifol yn fyd-eang yn y byd.

Mae ei Maniffesto y Dyfodol hefyd yn gwasgu ar lywodraeth i gyflwyno’r cysyniad o gymdogaeth 20 munud ar gyfer pob tref a dinas yng Nghymru, i sicrhau fod pobl yn gallu cael mynediad i wasanaethau allweddol yn nes at gartref; buddsoddi mewn natur a blaenoriaethu cyllido a chefnogi adfer cynefinoedd a bywyd gwyllt ar raddfa fawr, creadigrwydd a chysylltedd ledled Cymru, ac anelu at gynyddu gwariant flwyddyn ar ôl blwyddyn yn unol ag argymhellion Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd.

 

Wythnos Genedlaethol Coed, sy’n para tan 6 Rhagfyr, yw dathliad mwyaf y DU o goed, gan nodi dechrau’r tymor plannu coed yn y gaeaf. Mae’r comisiynydd yn gofyn ar i bobl rannu delweddau o’u hoff goed ar Instagram a Twitter @futuregencymru (manylion llawn isod.)

 

Nodiadau i olygyddion

Gan feddu ar gylch gorchwyl a amlinellir yn y gyfraith, Sophie Howe yw’r unig Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn y byd.

Daeth i’r rôl ar ôl i Gymru gyflwyno Deddf arloesol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2015.

Ei swydd fel ‘ceidwad buddiannau cenedlaethau’r dyfodol’ yw cynghori’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ar ddarparu llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cyson.

Ysbrydolwyd Caerdydd gan waith y comisiynydd i fuddsoddi swm na welwyd ei debyg cynt ar gyfer priffyrdd seiclo, ar y cyd â glasu cymunedau a chanolbwyntio ar leihau llygredd aer a gysylltir â thrafnidiaeth mewn ardaloedd difreintiedig. Ym mis Tachwedd 2020, croesawodd hi adroddiad oedd yn ymdrin â thagfeydd o gwmpas yr M4 a oedd yn galw am roi buddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, ar ôl i’r comisiynydd ymyrryd sawl tro, gan ddweud fod y penderfyniad yn “dyst i’r newid y mae’r Ddeddf yn peri i ddigwydd.”.

Cystadleuaeth - Mae ein cystadleuaeth WEDI CAU!

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru’n gofyn i bobl rannu ffotograffau a lluniau o’u hoff goed i ddathlu Wythnos Genedlaethol Coed.

Dewisir un ymgeisydd i ennill print dail wedi eu brodio mewn ffrâm gan Delicious Monster Tea busnes wedi ei leoli yng Nghymru.

Sut i gystadlu: Rhannwch ffotograff neu lun o’ch hoff goeden, dwedwch wrthym beth mae’n ei golygu i chi, tagiwch ni @futuregencymru (ar Twitter neu Instagram) a defnyddiwch y ddau hashnod hyn:#cymrueindyfodol #nationaltreeweek

Dyddiad cau: Mercher, Rhagfyr 9.

Dewisir un enillydd ar hap o’r holl geisiadau cymwys.

Cysylltir yn uniongyrchol ag un enillydd a bydd yn derbyn y wobr yn y post.

Telerau ac amodau

  1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i drigolion y DU sy’n 13 mlwydd oed neu’n hŷn, ac eithrio cyflogeion Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a’u perthnasau agos ac unrhyw un sydd yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd arall â’r sefydliad neu’n beirniadu’r gystadleuaeth.
  2. Nid oes unrhyw dâl am ymgeisio ac nid oes angen prynu unrhyw beth i gystadlu.
  3. Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, mae ymgeiswyr yn
    nodi eu parodrwydd i fod yn rhwym wrth y telerau a’r amodau hyn.
  4. Y ffordd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yw drwy gyfrwng Instagram.com/futuregencymru a Twitter.com/futuregencymru
  5. Dim ond un cynnig y pen fydd yn dderbyniol.
  6. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio fydd 5pm, dydd Mercher, Rhagfyr 9, 2020. Ar ôl y dyddiad hwn, ni chaniateir unrhyw gynigion pellach i’r gystadleuaeth.
  7. Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau nas derbynnir am ba bynnag reswm.
  8. Mae rheolau’r gystadleuaeth a sut i gystadlu fel a ganlyn: Rhannwch ffotograff neu lun o’ch hoff goeden, dywedwch wrthym beth mae’n ei golygu i chi, tagiwch ni @futuregencymru (ar Trydar neu Instagram) a defnyddiwch y ddau hashnod hyn: #CymruEinDyfodol #NationalTreeWeek
  9. Rydyn ni, yr hyrwyddwr [swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru] yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau a’r amodau hyn heb rybudd os bydd trychineb, rhyfel, aflonyddwch sifil neu filwrol, gweithred Duw neu dorri unrhyw gyfraith neu reoliad cymwys gyflawnedig neu un a ragwelir neu unrhyw ddigwyddiad arall y tu hwnt i reolaeth yr hyrwyddwr. Bydd yr hyrwyddwr yn rhoi gwybod i’r ymgeiswyr am unrhyw newidiadau i’r gystadleuaeth cyn gynted â phosibl.
  10. Nid yw’r hyrwyddwr yn gyfrifol am fanylion anghywir am y wobr a roddir i ymgeisydd gan unrhyw drydydd parti sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth hon.
  11. Mae’r wobr fel a ganlyn: Un print dail wedi eu brodio mewn ffrâm ‘Put your phone down and go outside’ gan Delicious Monster Tea. Mae’r wobr fel a nodir ac ni chynigir unrhyw arian na gwobr amgen arall. Ni ellir trosglwyddo’r wobr. Mae’r gwobrau’n amodol ar argaeledd a chedwir yr hawl i newid y wobr am wobr arall o’r un gwerth heb rybudd.
  12. Rhoddir gwybod i’r enillydd gan DM ar Trydar/Instagram o fewn 28 diwrnod yn dilyn y dyddiad cau, i ofyn am gyfeiriad y dylid ei ddefnyddio ar gyfer postio’r wobr. Os na ellir cysylltu â’r enillydd neu os na fydd yr enillydd yn hawlio’r wobr o fewn 14 diwrnod o’r hysbysiad, cedwir yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl oddi wrth yr enillydd a dewis enillydd arall.
  13. Bydd penderfyniad yr hyddwyddwr parthed pob mater yn ymwneud â’r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ohebiaeth.
  14. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, bydd ymgeisydd yn nodi eu parodrwydd i gael eu rhwymo gan y telerau a’r amodau hyn.
  15. Cytuna’r enillydd i’w henw a’u delwedd gael eu defnyddio mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd, yn ogystal â’u ffotograff/llun. Defnyddir unrhyw ddata personol sy’n ymwneud â’r enillydd neu unrhyw gystadleuwyr eraill yn unol â deddfwriaeth gyfredol y DU ar ddiogelu data yn unig, ac ni chânt eu datgelu i drydydd parti heb gydsyniad yr ymgeisydd ymlaen llaw.
  16. Bydd cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn cael ei gyfrif fel parodrwydd i dderbyn y telerau a’r amodau hyn.
  17. Nid yw’r hyrwyddiad hwn yn cael ei noddi, ei ardystio na’i weinyddu gan, nac yn gysylltiedig â Facebook, Trydar nac unrhyw rwydwaith cymdeithasol arall. Rydych chi’n rhoi’ch gwybodaeth i swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac nid i unrhyw barti arall.
  18. Byddwn yn cadw enw a cheisiadau cyfranogwyr (delwedd o’r coed) a gyflwynwyd yn ystod y gystadleuaeth, am 28 diwrnod yn dilyn cyflwyno’r wobr. Byddwn yn cadw enw’r enillydd, y cais a’r cyfeiriad cartref a anfonwyd atom am 28 diwrnod yn dilyn datgan enw’r enillydd.