Mae tai yn hanfodol i les yng Nghymru
6/8/24
Mae angen ymagwedd hirdymor tuag at dai, a allai gyfrannu at ddatrys tri mater allweddol, medd Comisiynwyr Cenedlaethau'r Dyfodol, y Gymraeg a Phlant...
Mae mynediad at dai digonol yn ymwneud â’r anghenion dynol mwyaf sylfaenol, ac mae’n effeithio ar fywydau miliynau o ddinasyddion yng Nghymru bob dydd. Mae tai hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatrys rhai o’n heriau mwyaf.
Drwy gydweithio yn rheolaidd ar feysydd polisi sy’n cwmpasu ein hymdrechion unigol, gwyddwn fod tai yn fater llethol a bod angen mwy o feddwl cydgysylltiedig a barn hirdymor ar Gymru er mwyn sicrhau polisi tai effeithiol i’n dinasyddion. Mae tair her allweddol y mae’n rhaid inni fynd i’r afael â nhw fel cenedl:
1.trechu tlodi ac anghydraddoldeb
2.cyflawni ein targedau sero net
3.ymateb i effeithiau negyddol newidiadau demograffig sy’n wynebu ein cymunedau, megis poblogaeth sy’n heneiddio.
Mae sicrhau’r hawl i dai diogel a fforddiadwy ym mhob rhan o Gymru yn hanfodol i’n lles cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol ar y cyd.
Dylai ein dinasyddion gael mynediad at lety fforddiadwy sy’n rhagori ar eu hanghenion sylfaenol ac yn eu cefnogi i gyfrannu’n gymdeithasol ac yn economaidd i’w cymunedau. Mae llawer o dystiolaeth i awgrymu nad yw hyn yn wir ar hyn o bryd i lawer o bobl yng Nghymru, er enghraifft fel y cofnodwyd yn adroddiad Sefydliad Bevan 2023 (Wales’ Housing Crisis: Local Housing Allowance and the private rental market in Wales, Winter 2023).
Mae’r Sefydliad Bevan yn asesu bod Cymru’n ‘wynebu argyfwng tai’ a chredwn fod canlyniadau’r argyfwng hwn yn fygythiad i sicrhau lles i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol, sicrhau bod hawliau plant yng Nghymru yn cael eu bodloni, a chyflawni dyheadau Cymru am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r diffyg mynediad at dai digonol a fforddiadwy yn dyfnhau tlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymru, yn enwedig i blant a phobl ifanc, gyda thraean o blant yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd.
Yn 2022, ymgysylltodd y Comisiynydd Plant â mwy na 8,000 o bobl ifanc yn yr arolwg Gobeithion i Gymru (2022). Roedd tai o fewn y pedwar pryder uchaf ar gyfer pob plentyn. Roedd tua chwarter y bobl ifanc 12–18 oed yn poeni am gael rhywle i fyw a chael digon i fwyta. Mae dwy ran o dair o rieni a gofalwyr bob amser yn poeni os oes gan eu plant rywle i fyw. Ond nid yw lleisiau plant a phobl ifanc bob amser wedi cael eu clywed digon mewn trafodaethau am dai a digartrefedd.
Mae tai yn benderfynydd cymdeithasol allweddol ar iechyd. Yn 2019, canfu ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru fod tai gwael yn cyfrif am £95m o gostau i’r GIG yn flynyddol yng Nghymru.
Ni allwn gyflawni nodau Cymru fwy cyfartal a Chymru iachach heb fynd i’r afael ag effeithiau’r argyfwng tai a’r ffordd anghyfartal mae ei effeithiau yn cael eu teimlo yn ddibynnol ar ffactorau megis incwm, anabledd, oedran a rhyw. Mae tai fforddiadwy hefyd yn allweddol i sicrhau cymunedau cydlynol, amlgenhedlaeth lle gall pobl fforddio dewis byw ger eu rhwydweithiau cymorth.
Mae llawer o’r cymunedau yng Nghymru sy’n profi’r cynnydd mwyaf mewn prisiau tai hefyd yn rhai lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Mae strategaeth Gymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, yn tynnu sylw at y ffaith bod gan yr ardaloedd lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg bocedi o dlodi ac amddifadedd gwledig, a chyflogau cyfartalog sydd ymhlith yr isaf yn y DU. Mae’n hanfodol i hyfywedd y Gymraeg ei bod yn parhau i ffynnu yn yr ardaloedd hyn.
Mae llawer o effeithiau’r argyfwng tai yn cael eu helaethu gan newidiadau demograffig yng Nghymru, gan gynnwys poblogaethau sy’n heneiddio, cynnydd mewn cartrefi meddiannaeth unigol a’r patrwm o symudiadau cymudwyr i leoliadau gwledig a brofwyd yn ystod y pandemig Covid-19 ac ers hynny.
Mae arnom angen ymagwedd hirdymor tuag at dai, un sy’n canolbwyntio ar egwyddorion economi les sy’n rhoi gwerth ar dai fel cartrefi, yn hytrach nag fel asedau ariannol. Mae newidiadau diweddar, megis codiadau a ganiateir i’r dreth gyngor ar ail gartrefi, yn ymyrraeth i’w chroesawu ond mae’n rhaid inni archwilio sut i fynd yn llawer ymhellach wrth sicrhau cartref fforddiadwy a digonol i bawb.
Mae’r cartrefi rydym yn byw ynddynt yn rhan allweddol o’r jig-so o gyflawni ein huchelgeisiau sero net yng Nghymru hefyd. Rydym yn croesawu’r buddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP), sy’n canolbwyntio ar dai cymdeithasol yng Nghymru ac yn meddu ar y potensial i godi rhai o’n haelwydydd tlotaf allan o dlodi yn ogystal â lleihau allyriadau carbon. Ond mae’n rhaid i ni wneud mwy i gefnogi’r aelwydydd hynny mewn llety rhent preifat sydd ddim yn cael unrhyw fudd gan yr ORP ar hyn o bryd. Dylai pawb allu byw mewn cartrefi sych sy’n effeithlon o ran tanwydd heb ofni cynnydd anfforddiadwy mewn rhent.
Bydd angen i ni fynd yn llawer pellach ac yn llawer cyflymach i gyrraedd ein targedau. Er enghraifft, i ddatgarboneiddio tai ar raddfa uchel dylem fod yn cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer dulliau sy’n seiliedig ar ardal. Dylai hyn ddigwydd drwy ymdrechion ôl-osod, yn ogystal â thrwy ynni adnewyddadwy rhatach lle cedwir y buddion yng nghymunedau Cymru.
Mae cyfleoedd ar gyfer ailsgilio y mae’n rhaid i ni fanteisio arnynt, yn enwedig yn ein cymunedau gwledig a Chymraeg. Rhaid inni sicrhau bod yr her ôl-osod, yn ogystal â’r cyfleoedd o gwmpas cartrefi cynaliadwy a adeiledir o’r newydd, yn dod â budd economaidd i’r lleoedd hynny yng Nghymru sydd ei angen fwyaf.
Rydym yn cefnogi’r ymgyrch Cefnogi’r Mesur sy’n ceisio sicrhau bod gan bawb yng Nghymru’r hawl i gartref da, ac edrychwn ymlaen at y Papur Gwyn sydd ar ddod gan Lywodraeth Cymru ar yr Hawl i Dai Digonol, yn ogystal ag at y canlyniadau gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a ddisgwylir yn fuan. Mae’r rhain ill dau yn ymyriadau allweddol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng tai a rhaid iddynt ffurfio rhan o ymagwedd integredig.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd, gan herio ein gilydd i sicrhau bod ein gwaith polisi yn cael ei gyfuno. Mae arnom angen y camau cyfunol hynny ledled Cymru er mwyn sicrhau na fydd yr argyfwng tai yn gwaethygu. Rydym am i Lywodraeth Cymru gyd-greu gweledigaeth ar gyfer tai yng Nghymru gyda chymunedau ledled Cymru. Dylai’r broses gyd-greu ganolbwyntio ar leihau tlodi ac anghydraddoldeb, cyflawni ein targedau sero net, a galluogi cymunedau i wrthdroi effeithiau negyddol newidiadau demograffig. Gallai’r weledigaeth hon wedyn weithredu fel cynllun gweithredu hirdymor ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y dyfodol a bod yn gam tuag at sicrhau bod Cymru’n wlad lle gall pawb sydd angen un, ddod o hyd i gartref.