n/a

Mae pobl yng Nghymru yn cefnogi galwadau i wneud y system fwyd yn decach a datrys problemau o bwys fel gordewdra a mynediad at fwyd iach.  

Fel rhan o ‘Sgwrs Fwyd’ genedlaethol, gyda chefnogaeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, bydd Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad (FFCC), mae dinasyddion Cymru wedi lleisio’u barn ar wella’r system fwyd. Cychwynnodd y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad y ‘Sgwrs Fwyd’ er mwyn rhoi darlun llawn tystiolaeth o farn dinasyddion am fwyd. 

Cychwynnodd FFCC y ‘Sgwrs am Fwyd’, y cyhoeddwyd ei chanfyddiadau diweddaraf heddiw [dydd Llun, Gorffennaf 22] yn Sioe Frenhinol Cymru, er mwyn rhoi darlun llawn tystiolaeth o farn dinasyddion am fwyd. 

  • Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ffermio cynaliadwy: Mae dros 2 o bob 3 dinesydd a gymerodd ran (69%) eisiau i’r llywodraeth roi cymorth ariannol drwy gyllideb bontio amaethyddol warantedig i helpu ffermwyr i fabwysiadu dulliau ffermio cynaliadwy. 
  • Gwaharddiadau ar Fwydydd wedi eu Prosesu’n Helaeth mewn lleoliadau cyhoeddus: Mae bron i dri chwarter dinasyddion (73%) yn cefnogi gwahardd Bwydydd wedi ei Prosesu’n Helaeth mewn ysgolion ac ysbytai. Mae 64% o ddinasyddion yn cefnogi cyfyngiadau ar hysbysebu bwyd sothach. 
  • System fwyd deg: Mae 60% o ddinasyddion yn cefnogi cyflwyno treth ffawdelw ar gyfer cwmnïau bwyd mawr, gyda’r refeniw a godir yn cael ei gyfeirio at fentrau a fydd yn cynyddu hygyrchedd a fforddiadwyedd bwyd iachach.  
  • Diwygio Addysg: Mae dros 3 o bob 4 dinesydd (77%) eisiau gweld newidiadau i’r cwricwlwm cenedlaethol a darpariaethau ysgol i sicrhau bod plant yn gadael yr ysgol gyda dealltwriaeth gref o’r system fwyd a’r sgiliau i dyfu a choginio bwyd iach.  

Cynllun bwyd cenedlaethol: 

Mae dinasyddion Cymru yn galw am arweiniad traws-lywodraethol, a Chynllun Bwyd Cenedlaethol i Gymru. Maent am gael adran benodol neu gorff rheoleiddio annibynnol i yrru hyn yn ei flaen, a Gweinidog Bwyd penodedig sy’n atebol am gyflawni newid. Maent yn cydnabod yr angen am gydgysylltu ar draws y DG a gyda gwledydd datganoledig eraill ond maent am weld anghenion penodol Cymru yn cael blaenoriaeth. Nododd pobl yr angen i ddiogelu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol mewn cynllun bwyd, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.  

Mae Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, wedi gwneud bwyd yn ffocws ar gyfer ei strategaeth saith mlynedd, Cymru Can, gan alw ar Lywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach i ddatblygu strategaethau hirdymor ar fwyd, yn cynnwys ymgyfraniad dinasyddion, er mwyn i Gymru fedru cyflawni nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  

Yn yr ymarfer cyntaf o’i fath mewn democratiaeth gydgynghorol, pwysleisiodd dinasyddion Cymru yr angen am ddiwylliant bwyd cryfach gan ddechrau gyda gwell addysg mewn ysgolion. Maent yn eiriol dros raglenni sy’n cynyddu ymwybyddiaeth am y system fwyd, gan sicrhau bod pobl ifanc yn deall o ble mae eu bwyd yn dod a sut i dyfu a choginio bwyd cynaliadwy. Gwnaethant hefyd gyfres o argymhellion a sylwadau eraill: 

  • Yr Amgylchedd a Chenedlaethau’r Dyfodol: Yn gysylltiedig ậ’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFC), mae dinasyddion yn pryderu am arferion ffermio anghynaliadwy sy’n cael eu gyrru gan y system fwyd bresennol. Maent yn gweld y Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol fel catalydd dros newid, gan ddylanwadu ar y cwricwlwm, ac adeiladu cadwyni cyflenwi cynaliadwy ar gyfer Prydau Bwyd am Ddim, a chadwraeth amylcheddol. 
  • Bwydydd wedi eu Prosesu’n Helaeth: Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried rheoliadau fel rheoli ‘bargen prydau bwyd’ a gwaharddiad ar ail-lenwi diodydd i frwydro yn erbyn yr argyfwng iechyd cyhoeddus a achosir gan Fwydydd wedi eu Prosesu’n Helaeth.
  • Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFC): Mae dinasyddion o Gymru a’r sgwrs fwyd ehangach drwy’r DG eisiau cefnogaeth deg i ffermwyr ac iddynt dderbyn pris teg am eu cynnyrch.

“Mae pobl yn pryderu bod ein system fwyd bresennol wedi’i sefydlu mewn ffordd a fydd yn effeithio’n negyddol ar genedlaethau’r dyfodol, boed hynny drwy ddiffyg ffermio cynaliadwy neu addysg annigonol a mynediad at fwyd iach i bobl ifanc. Trwy Sgwrs Fwyd Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad ledled Cymru, gwyddom fod teuluoedd yn bryderus iawn am effaith y system fwyd ar eu plant. Mae pobl eisiau ystod o gamau gweithredu – o ddiwygio prydau ysgol i greu rhaglenni sy’n addysgu plant am ble a sut y cynhyrchir eu bwyd. Yn anad dim, maen nhw eisiau i’r llywodraeth hwyluso newid yn ein diwylliant bwyd er mwyn sicrhau iechyd cenedlaethau’r dyfodol.” ~ Sue Pritchard, Prif Swyddog Gweithredol, Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad 

Mae bwyd yn hollbwysig i’n llesiant. Mae pobl Cymru eisiau gweld cynllun hirdymor ar gyfer bwyd – fel bod bwyd yn fforddiadwy, yn iach, o ffynonellau lleol ac wedi ei gynhyrchu’n gynaliadwy. Maent hefyd eisiau cyfyngiadau ar fwyd sothach. Rwyf yn galw ar Lywodraeth Cymru, cynghorau, busnesau a byrddau iechyd i weithredu. Os na wnawn wrando ar bobl a thrawsnewid polisïau bwyd yng Nghymru, byddwn yn creu problemau cynyddol enfawr i genedlaethau’r dyfodol. ~ Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 

– DIWEDD –  

Bydd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a Sue Pritchard, Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad) yn cynnal trafodaeth bord gron, ‘Beth ydyn ni wir ei eisiau gan fwyd?’ am 4pm, yn Sioe Frenhinol Cymru, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, ddydd Llun, Gorffennaf 22, ar ganlyniadau cynnwys dinasyddion Cymru mewn sgwrs am ddyfodol bwyd yng Nghymru. 

Os gwelwch  yn dda cyfeiriwch ymholiadau’r cyfryngau at 

 

Gwybodaeth am y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad  

Elusen annibynnol yw’r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad a sefydlwyd yn 2017 i helpu i lunio dyfodol bwyd, ffermio defnydd tir a chefn gwlad. Yn dilyn llwyddiant ei adroddiad pwysig, Our Future in the Land, ym mis Gorffennaf 2019, daeth y Comisiwn yn sefydliad elusennol annibynnol yn gynnar yn 2020. Ei ddiben yw dwyn at ei gilydd bobl a syniadau er mwyn darganfod datrysiadau ymarferol a radical i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd, byd natur, iechyd ac economaidd ein hoes. Mae’n curadu ymchwil a thystiolaeth, yn ennyn ymgyfraniad dinasyddion mewn trafodaethau, ac yn adrodd straeon ysbrydoledig am weithredu gan bobl a busnesau mewn cymunedau ledled y DG. 

Gwybodaeth am y Sgwrs Fwyd  

Cychwynnodd y Sgwrs Fwyd yn 2023 trwy gyfres o weithdai gyda grŵp cynrychioliadol o ddinasyddion yn Birmingham a Chaergrawnt. Mae’r broses gyfan wedi’i dylunio i fod yn hawdd ei deall ac yn ddeniadol, fel bod pawb – ni waeth beth fo’u cefndir neu ddiddordeb – yn gallu cymryd rhan. Fodd bynnag, mae’n fethodolegol gadarn, sy’n galluogi sgwrs a thrafodaeth fanwl (yn debyg i ddulliau a ddatblygwyd ar gyfer cynulliadau dinasyddion). Yn y pen draw, bydd y prosiect yn cynnwys ymgyfraniad miloedd o bobl trwy gyfuniad o weithdai dinasyddion, arolygon barn cenedlaethol a gwaith gyda phartneriaid lleol, sefydliadau aelodaeth ac eraill. 

Mae’r broses gyflwyno barhaus hon yn cynnwys 10+ o leoliadau ar draws pedair gwlad y DG, sy’n ennyn ymgysylltiad dinasyddion ar raddfa nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen i ddeall y mathau o newidiadau y mae dinasyddion yn chwilio amdanynt gan fusnes, y llywodraeth a chymdeithas sifil. Mae pob set o weithdai yn cynnwys ymgyfraniad tua 30 o ddinasyddion sydd mwy neu lai yn cynrychioli eu lleoliad ac yn cael eu gwahodd trwy loteri cod post gan Sefydliad Sortition. Maent yn treulio 20+ awr gyda’i gilydd yn trafod ac yn dadlau’r materion, yn clywed gan siaradwyr ac yn archwilio astudiaethau achos –  nid archwilio p’un a oes angen newid y ffordd y mae bwyd yn gweithio nawr, ond sut. Maent yn ystyried gwahanol newidiadau polisi ac arferion a gynigiwyd gan eraill, gan gynnwys y Strategaeth Fwyd Genedlaethol, ac yn canfod beth i’w flaenoriaethu a chan bwy. Bydd cyfranogwyr hefyd yn dod at ei gilydd mewn uwchgynhadledd genedlaethol yn 2025, i fyfyrio ar draws pedair gwlad y DG a rhannu eu barn yn uniongyrchol ag uwch lunwyr polisi. 

Gwybodaeth am Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 

Mae strategaeth saith mlynedd Derek Walker, Cymru Can, wedi amlinellu pwysigrwydd bwyd i gyflawni nodau llesiant Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  

Mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth fwyd hirdymor wedi’i fframio o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda chyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i integreiddio polisïau bwyd cynaliadwy yn eu dyletswyddau llesiant o dan y ddeddfwriaeth.  

https://www.futuregenerations.wales/work/cymru-can/