Mae’r hyn rwyf wedi ei ddysgu am y newid yn yr hinsawdd ers i mi ddod yn Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn gynharach eleni wedi codi ofn gwirioneddol arnaf.

Heb amheuaeth dyma’r her fwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol ac mae angen gweithredu ar frys ar draws y sector cyhoeddus i leihau allyriadau a’u heffeithiau.

Fis Rhagfyr diwethaf bûm yn ddigon ffodus i fynychu Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig (COP21) lle gwnaeth oddeutu 200 o genhedloedd gefnogi’r “Cytundeb Paris” hanesyddol i leihau’r cynnydd yn nhymheredd byd-eang i dan 2oC  (ac mor agos â phosibl i 1.5oC). Hyd yn hyn mae’r Cytundeb wedi ei gadarnhau gan 100 o wledydd yn cynnwys UDA, Tsieina, India a’r UE ond yn siomedig iawn, nid y DU. Gyda’i gilydd maent yn cynrychioli dros 55% o allyriadau byd-eang, sy’n golygu bod y Cytundeb wedi dod i rym ar 4 Tachwedd 2016.

Fodd bynnag, y datblygiad mwyaf pryderus yr wythnos hon allai olygu fod yr holl gynnydd mewn perygl, yw canlyniad yr etholiad Arlywyddol yn Unol Daleithiau America, gyda llawer yn dweud y bydd Donald Trump yn tynnu’n ôl o’i ymrwymiad i Gytundeb Paris am ei fod yn credu fod y newid yn yr hinsawdd yn ffug.

Yr wythnos hon mae gwledydd yn dod at ei gilydd eto ar gyfer COP22 – i drafod sut y gallant gyflymu gweithredu ar gyfer cyflawni’r ymrwymiadau hyn. Bydd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Cymru, yn mynychu’r gynhadledd i godi proffil cyfraniad Cymru i’r agenda rhyngwladol drwy amlygu eu hymagwedd strategol ac arloesol tuag at ffrydiau gwaith allweddol y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd, datblygu cynaliadwy ac amrywiaeth biolegol. Mae’r gynhadledd yn gyfle o bwys i ddangos sut y mae Cymru eisoes yn rhoi amcanion y Cenhedloedd Unedig ar waith drwy ei rhaglen ddeddfwriaethol.

Ond mae adroddiad diweddar gan arbenigwyr yn rhybuddio na fydd y targedau hyn yn cael eu cyflawni ac y bydd tymheredd y blaned ar gyfartaledd yn cynyddu o 2oC erbyn 2050. Pan fydd fy mhlentyn hynaf yn 50 mlwydd oed byddwn yn dystion i ganlyniadau ein methiant cyfunol i leihau allyriadau, gyda llifogydd a stormydd, sychder a thanau gwyllt yn achosi difrod byd-eang.

Mae’r flwyddyn hon wedi torri pob record tymheredd blaenorol – yn ôl Nasa roedd hanner cyntaf 2016 1.3 oC yn dwymach na’r cyfnod cyn-ddiwydiannol yn hwyr yn y 19eg ganrif (er i’r ffigur hyn gael ei chwyddo gan effaith Niño). Mae pob un o’r 14 mis diwethaf wedi torri tymheredd cyfartalog byd-eang. Mae digwyddiadau cysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd wedi dyblu mewn nifer ers 1990; mae cyrraedd y cynnydd o 2oC yn golygu dyblu ychwanegol yn nifer digwyddiadau cysylltiedig â’r hinsawdd, a fydd yn cael effaith ar isadeiledd a gwasanaethau, adnoddau dŵr, cynhyrchu bwyd ac iechyd dynol. Gall y bydd rhai o effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn llesol, tra na fydd y rhan fwyaf ohonynt, a hyn yn effeithio mewn dull negyddol ar fywydau a bywoliaethau ym mhob man.

Mae gan Gymru ddau ddarn newydd o ddeddfwriaeth i gynorthwyo gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd – y cyntaf yw’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ar draws Cymru, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, gyfrannu at saith nod llesiant yn cynnwys Cymru fwy ffyniannus, mwy cydnerth a mwy cyfrifol yn fyd-eang. Mae Deddf yr Amgylchedd hefyd yn nodi llwybr clir ar gyfer digarboneiddio, sy’n golygu lleihau ein hallyriadau o 80% ar y man lleiaf erbyn 2050. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru bennu cyllidebau carbon i’n helpu i wireddu hyn.  Mae’r Deddfau hyn yn gosod fframwaith cryf ar gyfer gweithredu, ac rydyn ni angen i Weinidogion Cymru gyflawni’r ymrwymiadau hyn a chyflymu’r daith tuag at economi carbon isel yng Nghymru.

Ac yn wir, mae gan Gymru ffordd bell i fynd – mae ystadegau diweddar yn dangos mai dim ond lleihad o 18% fu yn ein hallyriadau ers y flwyddyn sylfaen (1990) o’i gymharu â llwyddiant yr Alban lle gwireddwyd 46% o leihad.

Yn ystod mis Hydref anogwyd pobl i gwrdd â’u Haelodau Cynulliad ac â’u Haelodau Seneddol, i “Godi eu Llais” am y bobl, y llefydd a’r pethau y maent yn dymuno eu hamddiffyn rhag y newid yn yr hinsawdd. Roedd yn gyfle i bobl ddweud wrth wleidyddion pam y maent yn poeni am y newid yn yr hinsawdd a galw arnynt i weithredu fel rhan o ymgyrch, mis o hyd, wedi ei threfnu gan Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru.

Yn ogystal ag amlygu’r effeithiau y gellid eu gweld mewn ardaloedd bregus megis Gwarchodfa Biosffer Dyfi, mae cymunedau wedi bod yn dathlu’r gweithredu cadarnhaol sy’n digwydd i leihau ein hallyriadau megis y Cynllun Hydro Radyr Weir arloesol ar yr Afon Taf yng Nghaerdydd. Sefydlwyd hwn yn 2015 i fanteisio ar bŵer y dŵr yn llifo drwy’r afon a fydd yn cynhyrchu digon o drydan i bweru hyd at 550 o gartrefi. Mae tua 82% o ynni’r byd yn cael ei gynhyrchu drwy losgi tanwydd ffosil; fodd bynnag mae’r ynni a gynhyrchir, nad ydyw’n ynni ffosil, yn awr wedi cyrraedd 30%.

Yn ôl gwyddonydd hinsawdd Nasa, James Hansen, “drwy fethu rheoli effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, mae hawliau pobl ifanc sy’n byw heddiw a’r rhai a gaiff eu geni yn y dyfodol yn cael eu hanwybyddu. Mae yna hefyd fethiant sylfaenol ymhlith llywodraethau i reoli adnoddau naturiol ac felly amddiffyn ffydd y cyhoedd”.  Fel gwarchodwyr cenedlaethau’r dyfodol mae hwn yn rhywbeth yr ydw i’n poeni’n fawr iawn yn ei gylch.

Gellid gwireddu allyriadau di-garbon drwy weithredu ar draws pob sector – isadeiledd, ynni, tai, trafnidiaeth, iechyd – gall mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn aml fod yn fanteisiol i’r economi lleol, cymunedau ac iechyd. Fodd bynnag, mae’r angen i weithredu ar fyrder yn golygu bod yn rhaid i bawb fwrw ati ar unwaith – mae yna resymau dros fod yn obeithiol cyn belled â bod y gobaith yn bodoli law yn llaw â gweithredu.