“Mae’r cynnydd mewn rhai arferion ffermio dwys yn un o nifer o fygythiadau difrifol ac uniongyrchol i’n hafonydd yng Nghymru, sy’n dirywio’n arswydus; ac mae nifer cynyddol o bryderon wedi'u codi gyda ni gan aelodau'r cyhoedd,” meddai Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Wrth ymateb i faint cynyddol o ohebiaeth aelodau’r cyhoedd sy’n trafod y mater, dywedodd Derek, sydd bron i fis i mewn i’w rôl, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gan gynnwys Llywodraeth Cymru weithredu heddiw er gwell yfory: 

“Nid oes gan swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol swyddogaeth gwaith achos ac ni all ymchwilio i bryderon unigol na gweithredu arnynt, gan gynnwys ceisiadau cynllunio. Fodd bynnag, trwy ohebiaeth gyhoeddus, gallwn ganfod materion sy’n codi dro ar ôl tro neu faterion systemig. 

“Mae ceisiadau cynllunio sy’n ymwneud â’r doreth o unedau dofednod dwys yn enghraifft o fater sydd wedi’i godi gyda ni, ac yn 2018, fe wnaethom dynnu sylw at effaith gronnus IPUs gyda Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.  

“Rhaid i benderfyniadau cynllunio a wneir gan awdurdodau lleol ystyried yr effaith y bydd y datblygiad yn ei gael ‘ar fioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau, gan gynnwys lle gallai fod effeithiau cronnol ar ansawdd aer neu ddŵr a allai gael canlyniadau andwyol ar gyfer bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau.’ 

“Rydym yn pryderu nad oes digon o gamau yn cael eu cymryd i ddeall effeithiau cronnol IPUs ac atal difrod i’n hafonydd – un o’n hadnoddau naturiol pwysicaf – a bod angen gwneud mwy i sicrhau eu bod yn iach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. ” 

Cyngor Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i drigolion sydd â phryderon am gyflwr ecosystem afon (ecoleg a/neu ansawdd dŵr) yw: 

1. Cysylltwch â Chymorth Cynllunio Cymru os ydych yn pryderu am gais cynllunio oherwydd gall unedau dofednod (a mathau eraill o ddatblygiad) gael eu herio yn ystod y broses cais cynllunio.

2. Mae Polisi Cynllunio Cymru  yn ystyriaeth berthnasol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol . Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi diweddariad ar eu rhai nhw, ynglŷn â lefelau ffosffad yn Afon Teifi yma. Er nad yw Cynlluniau Datblygu Lleol yn llwybr i bobl atal neu apelio at ddatblygiad penodol, maent yn un o’r ffyrdd y gall y cyhoedd gymryd rhan a helpu i lunio cymunedau lleol.

3. Cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru a/neu eich awdurdod lleol.

4. Gwiriwch amcanion llesiant eich ardal a gyhoeddwyd drwy eich bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, yn eu cynlluniau llesiant lleol. Gall pobl gwestiynu sut yr ystyriwyd cynlluniau ac amcanion llesiant lleol yn y penderfyniadau a wnaed gan yr awdurdod lleol.

Mae gennym hefyd offer i helpu pobl i ymgysylltu â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’i defnyddio. Er enghraifft, gellir defnyddio ein Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer prosiectau a Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer craffu i ofyn sut mae effeithiau hirdymor penderfyniadau’n cael eu hystyried a sut mae penderfyniadau’n ystyried y nodau llesiant, gan gynnwys ‘Cymru Gydnerth’. 

Mae’r comisiynydd newydd, Derek Walker, wedi cyhoeddi ei flaenoriaeth wrth iddo ddechrau ar y rôl yw i weithio gydag eraill gan gynnwys cyrff cyhoeddus, i ddarganfod sut y gallwn sicrhau newid trawsnewidiol yng Nghymru, gan gynnwys ar yr argyfyngau hinsawdd a natur sy’n effeithio ar ba mor fyw yw planed sydd gennym a’i gadael i genedlaethau’r dyfodol. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi’n fuan. 

Mae’r materion hyn yn cael eu hystyried yn y darn hwn o waith. Yn y cyfamser, gallwch ysgrifennu at y comisiynydd drwy contactus@futuregenerations.wales