Pecyn Cymorth Arweinwyr Polisi Cenedlaethau’r Dyfodol: Rhoi cenedlaethau’r dyfodol wrth galon polisi ac arfer byd-eang
12/5/23
Mae Swyddfa Pecyn Cymorth Arweinwyr Polisi Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei lansio mewn ymateb cynyddol byd-eang sy’n galw ar lywodraethau a seneddau i gofleidio meddylfryd cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r Pecyn Cymorth hwn, a gynhyrchwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Foundations for Tomorrow wedi’i gynllunio i fod yn ddealladwy, tra’n dod â syniadau polisi blaengar i flaenau bysedd arweinwyr polisi ledled y byd, gan eu helpu i gofleidio’r dull arloesol hwn sydd ei angen yn fawr. Mae’r Pecyn Cymorth yn cynnwys profiadau ac arferion byd-eang, o Gymru, cartref Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a thu hwnt.
Cynlluniwyd y Pecyn Cymorth hwn i gefnogi llunwyr polisi a seneddwyr rhyngwladol i ddeall a gweithredu syniadau cenedlaethau’r dyfodol mewn polisi, deddfwriaeth a phrosesau.
Ar draws 10 pennod, (a detholiad o gyfweliadau bonws), mae Pecyn Cymorth Arweinwyr Polisi Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymdrin â phopeth o hanfodion cysyniadau cenedlaethau’r dyfodol i’r heriau allweddol a’r ystyriaethau gweithredu. Bydd pob pennod, a gynhelir gan Taylor Hawkins, Rheolwr Gyfarwyddwr Foundations for Tomorrow, yn cynnwys arweinwyr o bob rhan o’r byd academaidd – sy’n arwain ymchwil yn y maes hwn – i ymarferwyr sydd wrth galon gweithredu ledled y byd, yn ogystal ag arweinwyr allweddol sydd wedi bod yn arwain y mentrau hyn i rannu gwersi amhrisiadwy. Mae’r arweinwyr hyn yn cynnwys Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf Cymru), Cat Tully (Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr, School of International Futures), Andrew Charles (Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru) a Harshani Dharmadasa (Uwch Gyfarwyddwr yn United Nations Foundation, yn arwain Our Future Agenda). Mae’r Pecyn Cymorth hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan Petranka Malcheva, (Dadansoddwr Newid), Jacob Ellis, (Prif Wneuthurwr Newid Materion Cyhoeddus a Rhyngwladol) a Najma Hashi (Cymorth i Wneuthurwyr Newid), o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Rydym hefyd yn croesawu’n benodol cyfraniadau gan Philip Jillesjö Löf (Swyddog Polisi’r UE: Hinsawdd, Cynaliadwyedd, yr Amgylchedd ac Ynni – Llywodraeth Cymru ac aelod o Alumni Academi Arwain Cenedlaethau’r Dyfodol y Comisiynydd).
Mae’r Pecyn Cymorth ar gael am ddim ar-lein, gan gynnwys adnoddau ychwanegol ar gysyniadau craidd, yn ogystal â thrwy Spotify, a bydd yn rhedeg tan Uwchgynhadledd y Dyfodol ym mis Medi 2024, gyda’r uchelgais i arfogi a grymuso cymaint o arweinwyr â phosibl i fod yn eiriolwyr rhagweithiol ar gyfer polisi cenedlaethau’r dyfodol.
Dywed Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker;
“Bydd y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud heddiw yn cael effaith ar genedlaethau i ddod. Os ydym am ddatrys yr ystod o argyfyngau sy’n wynebu ein pobl a’n planed, rhaid inni ar y cyd gofleidio meddylfryd ac ymddygiad newydd. Ledled y byd, mae seneddwyr a gwleidyddion yn galw am adnoddau a chefnogaeth i ddeall a gweithredu dros genedlaethau’r dyfodol ym mhob rhan o bolisi ac ymarferion.
“Croesawais y cyfle i’m swyddfa gefnogi’r Egwyddorion Cyffredin ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol a fabwysiadwyd yn ddiweddar gan y Cenhedloedd Unedig – gan sicrhau y bydd angen i bob penderfyniad a wneir gan asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig a’u gweithlu o 100,000 gymhwyso meddylfryd cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n gobeithio y bydd y pecyn cymorth hwn yn annog llunwyr polisi ar lefel gymunedol, leol, genedlaethol a rhyngwladol i gymhwyso meddylfryd cenedlaethau’r dyfodol ac adeiladu ar y momentwm byd-eang yn y Cenhedloedd Unedig. Gyda mwy na saith mlynedd o brofiad o feddwl a gweithredu cenedlaethau’r dyfodol, mae Cymru’n barod i gefnogi eraill, ac i barhau i ddysgu ein hunain wrth inni adeiladu clymblaid fyd-eang ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Mae’r prosiect hwn yn rhan o’r galw cynyddol am offer meithrin gallu i gefnogi datblygiad polisi cenedlaethau’r dyfodol. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru eisoes wedi datblygu ystod o raglenni gwaith i fynd i’r afael â’r galw hwn, gan gynnwys Cyflymydd Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd wedi cefnogi cannoedd o bobl ifanc i gael eu harfogi a’u grymuso fel arweinwyr cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r rhaglen hon hefyd yn cael ei hyrwyddo gan 25 o Lysgenhadon Arwain Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi’u dewis gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Foundations for Tomorrow.
Cafodd Pecyn Cymorth Polisi Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei lansio yn y Gyngres Seneddol Fyd-eang ‘Dyfodol y Byd’, Vilnius, Lithwania 12-13 Mai.
Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gydweithio i sicrhau gwell llesiant diwylliannol, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol i bobl sy’n byw yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Mae’r comisiynydd newydd yn gweithio gyda phobl a sefydliadau gan gynnwys cyrff cyhoeddus, ar gynllun ar gyfer gwaith ei swyddfa yn y dyfodol. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, a gallwch ddarganfod mwy am Ffocws Ein Dyfodol, yma: https://www.futuregenerations.wales/cy/
Foundations for Tomorrow
Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn cydweithio ar y prosiect hwn gyda Foundations for Tomorrow, sefydliad dielw o Awstralia a yrrir gan ieuenctid sy’n eiriol dros hyrwyddo polisi cenedlaethau’r dyfodol.