Mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol Cymru weithredu yn awr ar flaenoriaethau brys pobl ifanc y genedl - dyna rybudd y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf yn y byd.

Mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol Cymru weithredu yn awr ar flaenoriaethau brys pobl ifanc y genedl – dyna rybudd y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf yn y byd.  

Heddiw (Llun, Hydref 19) bydd Sophie Howe yn cyflwyno ei Maniffesto ar gyfer y Dyfodol – ac mae’n defnyddio’r cyfle i atgoffa gwleidyddion o’u dyletswydd i ymateb i alwadau pobl ifanc am newid yn dilyn COVID-19. 

Mai llai na 200 diwrnod hyd nes y bydd pobl yng Nghymru’n pleidleisio yn etholiad Senedd mis Mai, a bydd pobl ifanc 16-17 mlwydd oed yn pleidleisio am y tro cyntaf.  

Fel ‘gwarcheidwad buddiannau cenedlaethau’r dyfodol’ mae’r comisiynydd yn rhestru rhai o’r syniadau y dylai pleidiau gwleidyddol ymrwymo iddynt yn eu maniffestos – a dywed y dylai gweithredu ar yr hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a chadw pobl yn iach fod ar frig eu hagendâu.  

Dylai polisïau warchod buddiannau pobl ifanc sy’n poeni am yr argyfwng hinsawdd, anghydraddoldeb hiliol ac effaith COVID-19 ar y ffordd y maent yn byw, meddai. 

Mae anghydraddoldebau wedi cael eu dadorchuddio gan y pandemig ac mae angen i bleidiau gwleidyddol ddangos eu hymrwymiad i greu cyfleoedd gwyrdd a chydmdeithas decach – mae’n awyddus iddynt dargedu’r rhai mwyaf difreintiedig wrth lunio polisïau. 

Mewn cyfres o argymhellion, dywed y comisiynydd y dylai Llywodraeth nesaf Cymru roi blaenoriaeth i adferiad gwyrdd a chreu cynllun ar gyfer ymateb i dueddiadau’r dyfodol, megis y cynnydd mewn awtomeiddio (neu ‘amlygrwydd robotiaid’), ein poblogaeth sy’n heneiddio a’r newid yn yr hinsawdd, mewn dulliau sy’n lleihau anghydraddoldebau yn hytrach na’u gwaethygu. Mae hefyd angen iddynt edrych i’r dyfodol, gan sicrhau bod swyddi a sgiliau’n cael eu datblygu mewn diwydiannau sy’n ffocysu ar y dyfodol gyda help busnes a sectorau sy’n mynd tu hwnt i addysg; bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â iechyd meddwl gwael, a’i atal, a bod yna ffocws ar wyrddu cymunedau.  

Mae effaith ynysu cymdeithasol ar bobl ifanc, yn ychwanegol at bwysau eraill y pandemig, yn gwneud llunio polisi trugarog ar draws gwasanaethau cyhoeddus yn ofynnol, medd y comisiynydd, â’i rôl yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arloesol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus feddwl mwy yn yr hirdymor.  

Mae ei sgwrs Countdown TED ddiweddar ‘Leaving the World Better than you Found it’, yn disgrifio rhai o’r polisïau sy’n ffocysu-arbobl, y mae’r ddeddf wedi helpu i’w rhoi ar waith yng Nghymru, gyda’r nod o leihau allyriadau carbon, a gwneud llesiant yn nod cenedlaethol 

Y mis hwn lansiodd swyddfa Ms Howe astudiaeth o bwys ar y modd y gallai incwm sylfaenol ac wythnos waith fyrrach atal diweithdra pellach a chynnydd mewn tlodi, wrth iddi ddweud: “Mae angen datrysiadau eofn a dewr i fynd i’r afael â Covid sy’n blaenoriaethu llesiant.” 

Cred y dylai pleidiau gwleidyddol archwilio trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i rai o dan 25 mlwydd oed, disodli TGAU a chreu cymdogaethau 20-munud lle gall pobl gael mynediad diogel i’w hanghenion dyddiol, yn cynnwys mannau gwyrdd.  

I ddarganfod yr hyn y mae pobl ifanc yn dymuno ei gael gan Lywodraeth nesaf Cymru, cydweithiodd y comisiynydd gyda phobl ifanc 11-19 mlwydd oed ledled Cymru, a greodd euManiffesto Pobl Ifanc ar gyfer y Dyfodoleu hunain, drwy gyfrwng cerddi, caneuon a sgyrsiau 

Gweithiodd y Comisiynydd a’i swyddfa gyda Plant yng Nghymru , EYST (Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chefnogaeth Ieuenctid Cymru), Sipsiwn a Theithwyr Cymru, Travelling Ahead (Tros Gynnal Plant Cymru), Disability Arts Cymru, Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Avant Cymru, a Llenyddiaeth Cymru, ar gyfres o weithdai creadigol i drafod materion megis yr argyfwng hinsawdd, hiliaeth, cydraddoldeb ac uchelgais 

Gellir gwylio ciplun o waith creadigol pobl ifanc, a gynhyrchwyd gyda help y cyn-Fardd Llawryfog, Aneurin Karadog, a Cwmni cydweithredol hyfforddiant creadigol Dynamix Ltd, ar yr hyn y maent yn dymuno ei gael gan Gymru’r dyfodol, mewn fideo a lansiwyd heddiw (dydd Llun).  

Dywedodd y comisiynydd: “Mae pobl ifanc wedi siarad yn glir iawn ac mae gan wleidyddion gyfrifoldeb clir i warchod eu dyfodol. 

 “Mae’r genhedlaeth hon yn profi eu bod yn ddewr ac yn barod i godi eu lleisiau – p’un ai i herio goruchafwyr gwyn a hiliaeth drwy brotestiadau ‘Black Lives Matter’, neu orfodi llywodraethau i ystyried o ddifrif y newid yn yr hinsawdd. 

 “Mae’r pandemig yn peri aflonyddwch cynyddol i’n pobl ifanc ac ansicrwydd am y dyfodol ac mae’r newidiadau i’w bywydau wedi bod yn ddramatig.  

 “Mae’r etholiad Seneddol hwn o’r pwys pennaf ac mae angen i wleidyddion Cymru fod yn flaengar. 

 “Rhaid i bolisïau ddangos i bobl ifanc y byddant yn cael eu cynorthwyo i fyw bywydau boddhaol yn dilyn COVID, ac y bydd cymdeithas yn dysgu o’i chamgymeriadau, yn cynllunio’n well ac yn gwneud yn well.  

 “Ein dylestswydd iddynt yw herio COVID-19 a gwneud eu buddiannau yn ganolbwynt ein hymatebgan warchod eu llesiant a’u dyfodol hirdymor.” 

Dywedodd Gareth Hicks, Swyddog Cyfranogiad Cymru Ifanc, Plant yng Nghymru: “mae’r hinsawdd presennol wedi effeithio arnom i gyd ac nid yw pobl ifanc yn eithriad i hynny, gyda’r effaith ar eu hiechyd meddyliol a chorfforol ac addysg.  

 “Mae wedi bod yn wych i weld pobl ifanc yn gweithio’n agos gyda thîm Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mor rymus i glywed y bobl ifanc yn disgrifio’r hyn y maent ei eisiau oddi wrth Gymru yn y dyfodol, a’r camau sydd angen eu cymryd i gyrraedd y fan honno.” 

Ymunodd y cyfranogydd Sandy Ibrahim, 16, o Abertawe, â’r prosiect drwy gyfrwng EYST Cymru. Mae hi’n aelod o Senedd Ieuenctid Cymru lle mae’n ymgyrchu ar faterion yn cynnwys cydraddoldeb i blant mewn teuluoedd sy’n ceisio lloches a gwella cysylltedd a chludiant ysgol. Dywedodd: Gwnaeth rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed yng Nghymru wneud i ni deimlo bod gan wleidyddion ddiddordeb mewn clywed ein lleisiau. “Mae gwleidyddiaeth yn gyffrous. Nid yw’n ymwneud â deddfu yn unig, mae’n ymwneud â sut mae pawb yn cael eu trin yn eu bywydau bob dydd. “Rwy’n poeni am yr effaith y mae’r pandemig yn ei gael ar iechyd meddwl pobl ifanc. “Rydyn ni wedi cael ansefydlogrwydd yn yr ysgol, gyda’n graddau, yn methu gweld ein ffrindiau. Mae rhai pobl ifanc nad ydynt wedi medru, neu heb fod yn teimlo’n gyfforddus i ymuno â gwasanaethau a grwpiau ar-lein ac rwy’n poeni eu bod yn cael eu gadael ar ôl. “Mae’r economi yn bwysig ond rydw i eisiau i bwy bynnag sydd yn Llywodraeth Cymru i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd. A gwneud yn siŵr bod cynorthwyo iechyd meddwl pobl ifanc yn flaenoriaeth. Dylai pobl sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu, fel pobl ifanc a cheiswyr lloches, ymgyfrannu mewn gwneud penderfyniadau.” 

Mae Rhian Pedley, 17, o RCT, yn aelod o Avant Cymru. Meddai: “Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ein syniadau. Bydd hyd yn oed y gwahaniaethau lleiaf yn gwella ein bywydau yn aruthrol. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod gan bobl ifanc Cymru leoedd diogel i ymgynnull ynddynt a lleoedd i gymdeithasu. “Rwy’n credu mai diffyg lleoedd ieuenctid yw un o’r rhesymau pam mae iechyd meddwl yn fater sy’n creu cymaint o bryder i bobl ifanc yng Nghymru”. 

Rhai o’r pethau y mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn i bleidiau gwleidyddol ymrwymo iddynt yn ei Maniffesto ar gyfer y Dyfodol 

  1. Treialu incwm sylfaenol a gweithio tuag at weithredu wythnos waith fyrrach.
  2. Cyflwyno’r cysyniad o gymdogaeth 20-munud ar gyfer pob tref a dinas yng Nghymru; gwneud band eang yn wasanaeth hanfodol a sicrhau bod pobl yn gallu cyrchu man gwyrdd naturiol o fewn 300 metr i’w cartref.
  3. Buddsoddi mewn ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a Natur. Ymrwymo i gynyddu gwariant flwyddyn ar ôl blwyddyn.
  1. Lleihau gwariant ar seilwaith ffyrdd a chynyddu gwariant ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol gan gynnwys cyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc yng Nghymru.
  2. Buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant i gefnogi’r newid i ddyfodol gwell, gan greu swyddi newydd gwyrddach a chreu cynllun ar gyfer ymateb i dueddiadau’r dyfodol mewn ffyrdd sy’n lleihau anghydraddoldebau yn hytrach na’u gwaethygu.

  

Ymholiadau’r wasgclaire.rees@futuregenerations.wales/ 07815 291140.