Mae diwylliant yn offeryn pwerus ar gyfer ymladd newid hinsawdd, medd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru heddiw yn COP 26.

Heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 12), mae Sophie Howe yn gobeithio ysbrydoli llunwyr polisi ac eraill i wneud y cysylltiadau rhwng, a gwerthfawrogi’r rôl, y gall creadigrwydd ei chwarae wrth ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru – sy’n rhoi cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i amddiffyn y rhai sydd eto heb eu geni  – sy’n gyfrifol am wneud Cymru’r wlad gyntaf i gynnwys diwylliant yn ei diffiniad o ddatblygu cynaliadwy – gan roi gwerth ar bŵer celf i wella llesiant pobl a’r gymuned. 

Mae’r comisiynydd yn bresennol yn Glasgow i annog gwledydd eraill i ddilyn Cymru – a deddfu i gyfyngu effaith argyfyngau hinsawdd a natur ar genedlaethau’r dyfodol. 

Bydd ymwelwyr, mewn digwyddiad y mae hi’n ei gynnal heddiw, yn clywed straeon gan gymunedau ledled Cymru a’u hymatebion creadigol i’r argyfwng hinsawdd – gan gynnwys trwy ffilm a wnaed gan blant ysgol ifanc, ar ddiwrnod olaf y gynhadledd hinsawdd fawr yn Glasgow. 

Mae’n gydweithrediad rhwng y comisiynydd, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru; Eisteddfod Genedlaethol Cymru; stiwdio ddylunio fyd-eang IDEO; Maint Cymru; prosiect celfyddydau, Ynys Blastig, a Taylor Edmonds, bardd 26 oed o Dde Cymru a ddaeth yn ail Fardd Preswyl y comisiynydd eleni, ac sydd yn agored i’r cyhoedd ym Mharth Gwyrdd COP. 

Bydd Taylor, y mae ei barddoniaeth yn cyfleu brys yr argyfwng hinsawdd yng Nghymru – a gydweithiodd yn gynharach  y mis hwn gyda chymuned a ddioddefodd lifogydd yn Llanrwst mewn galwad-i-weithredu emosiynol – yn perfformio ‘cerdd anorffenedig’, seiliedig ar fyfyrdodau y rhai a ymwelodd â COP 26. 

Mae ffilm fer, Blot-deuwedd yn dangos plant rhwng pump ac 11 oed o Ysgol Rhosgadfan yng Nghaernarfon yn addasu stori gan y Mabinogion i ysbrydoli amddiffyn natur. 

Bydd Cadair Cenedlaethau’r Dyfodol gyntaf, a grëwyd ac a ddyluniwyd gan y crefftwr Tony Thomas, mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, hefyd yn cael ei dadorchuddio – cydnabyddiaeth o’r gadair a ddyfernir i feirdd yn nhraddodiad diwylliannol Cymreig hanesyddol ac sy’n cynnwys geiriau a ddewiswyd gan y grŵp ymgyrchu, Climate Cymru. 

Cynhelir trafodaeth a fydd yn cynnwys Jenipher Wettaka, is-gadeirydd cwmni cydweithredol ffermwyr yn Uganda, a Valerie Wood-Gaiger, actifydd hinsawdd 80 mlwydd oed o Fyddfai yn Llanymddyfri. 

Yn ei Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020, argymhellodd Ms Howe y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod asiantaethau diwylliannol yn gweithio’n well gyda’i gilydd i wneud cysylltiadau rhwng y modd y mae diwylliant ac iaith yn mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur â chadw pobl yn iach. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r comisiynydd ar Addewid Gweithwyr Llawrydd a Chyrff Cyhoeddus a fydd yn ceisio partneru gweithwyr llawrydd gyda chyrff cyhoeddus i ddefnyddio diwylliant a chreadigrwydd fel dull o fynd i’r afael â heriau fel unigrwydd ac arwahanrwydd, iechyd meddwl, newid hinsawdd ac adfywio canol trefi a dinasoedd. 

Yng Nghymru, erbyn hyn mae yna Gynulliadau Dinasyddion yng Ngwent a Phen-y-bont ar Ogwr, ac ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe, mae pobl greadigol yn cael eu cyflogi mewn cynllunio cyfalaf i weithio ar brofiad cleifion, cwympiadau, iechyd meddwl ac adrannau gofal sylfaenol. 

Mae’r sefydliad celfyddydau cymunedol, Heads4Arts yn gweithio gyda’r gymuned i annog gweithredu cadarnhaol ar newid hinsawdd, ac mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn rhedeg sawl prosiect hinsawdd a diwylliant gan gynnwys rhaglen Artist Preswyl, cerfluniau bywyd gwyllt rhyngweithiol i dynnu sylw at broblem sbwriel morol a Phrosiect Arfordir sy’n Newid, lle gall pobl rannu ffotograffiaeth i ddogfennu newid arfordirol. 

Mae UNESCO wedi rhybuddio mai newid hinsawdd yw un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu diwylliant heddiw, gan ychwanegu ei fod yn tarfu ar fywydau cymunedau ledled y byd, gan gyfyngu’n ddramatig ar eu gallu i gyrchu eu diwylliant ac elwa ohono, gan nodi bod gan artistiaid a phobl greadigol ‘rôl enfawr’ i’w chwarae yn y dasg o ysbrydoli camau gweithredu. 

Dywedodd Sophie Howe: “Cymru yw un o’r unig wledydd ledled y byd i gynnwys llesiant diwylliannol fel cyfrifoldeb statudol ar gyrff cyhoeddus fel rhan o ddeddfwriaeth yng Nghymru sy’n arwain y byd, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

“Mae amddiffyn ein planed yn golygu amddiffyn ein treftadaeth, iaith a diwylliant, ac rydw i’n galw ar bob gwlad i integreiddio diwylliant yn llawn yn eu polisïau a’u strategaethau newid hinsawdd a chefnogi dulliau diwylliannol o fynd i’r afael â materion cymhleth. 

“Mae Cymru’n ymfalchïo mewn chwedleua a chreadigrwydd – a thrwy gydol hanes, mae cymunedau celfyddyd a diwylliant wedi chwilio am ffyrdd newydd o weithio y tu hwnt i’w swyddogaethau traddodiadol, wrth dynnu sylw at anghydraddoldebau cymdeithasol, unigrwydd ac arwahanrwydd, iechyd meddwl a chydlyniant cymunedol. Mae’r amser wedi dod i adeiladu ar yr hyn rydyn ni’n ei wybod am bŵer diwylliant a’i ddefnyddio i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.” 

Bydd ‘Climate, in the Visceral Sense – An Ongoing Story in Three Acts’ yn digwydd yn y Y Parc Gwyrdd o 9.30am ar ddydd Gwener, Tachwedd 12. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yma. 

Gallwch wylio’r digwyddiad yn fyw, yma. 

Creu Blot-deuwedd - Sut mae ysgol yng ngogledd Cymru yn mynd â'r neges i COP 26

Bydd plant o Ysgol Rhosgadfan yng Nghaernarfon yn ymddangos yn y ffilm fer, Blot-euwedd, a fydd yn cael ei dangos i gynulleidfa yn COP 26 ar ddiwrnod olaf y gynhadledd hinsawdd fawr, yn y digwyddiad hwn, a gynhelir gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. 

Mae Hana Hughes, chwech oed, yn chwarae’r prif gymeriad ac mae’r ffilm yn dilyn ei stori wrth iddi gyflwyno’r ysgol gyfan i natur trwy ddilyn ôl traed y cymeriad chwedlonol, Blodeuwedd, ffigwr canolog yn y Mabinogion, a gafodd ei chreu o flodau. 

Dywedodd y Gyfarwyddwraig, Iola Ynyr, o Ynys Blastig, ei bod eisiau dangos pŵer natur a’r modd y gallwn i gyd gymryd camau bach i werthfawrogi’n hamgylchedd, cofleidio’r natur o’n cwmpas a lleihau ôl troed carbon. 

Mae Ynys Blastig yn brosiect celfyddydol a ddechreuodd fel comisiwn creadigol gan Gyngor Gwynedd i leihau’r defnydd o blastig a hyrwyddo llesiant. 

Dywedodd Iola bod ysbrydoliaeth ar gyfer y stori wedi dod yn ystod y cyfnod clo pan arferai fynd am reidiau beicio hir i godi ei hysbryd a byddai’n teithio heibio i Lyn Nantlle yn Eryri, gan stopio wrth y giât oedd yn edrych i lawr tuag at y llyn. 

Cyfansoddwyd y gân yn y ffilm, ‘Llyn Llawenydd’, gan fand o Ogledd Orllewin Cymru, Papur Wal, ac mae’r ffilm yn cael ei saethu yn yr ysgol ac o amgylch Eryri. 

Dywedodd: “Cefais y syniad o greu ffilm oedd yn dangos sut y gallwn weithiau deimlo fel ‘blotiau’ di-nod yn ein byd, ddim yn siŵr ble rydyn ni’n ffitio i mewn a sut y gall gwerthfawrogi natur wneud i ni deimlo’n gyfan unwaith eto. 

“Mae’r blot hefyd yn cynrychioli’r olion troed carbon a grëwyd gan y ffordd y mae pobl yn byw, heb ystyried ei effaith ar natur,” gan ychwanegu bod y modd yr oedd y plant yn mynegi eu hunain yn greadigol wedi ‘creu argraff fawr’ arni. 

“Roeddwn i eisiau dangos pŵer natur a sut y gallwn ni i gyd gymryd ychydig o gamau i werthfawrogi’n hamgylchedd a sicrhau ein bod ni’n gwarchod ac yn coleddu’r natur o’n cwmpas gan leihau ein hôl troed carbon. Roeddwn hefyd eisiau dangos harddwch gogledd Cymru i’r dirprwyon byd-eang. 

“Mae COP26 yn ddigwyddiad mor bwysig, ac rydyn ni’n teimlo’n angerddol am y cysyniad o ‘feddwl yn lleol, gweithredu’n fyd-eang’. Mae gan bob un ohonom ein rhan fach i’w chwarae, a’n cenhadaeth yw cael plant lleol yng ngogledd Cymru i weithredu, yn eu hardal, i leihau’r defnydd o ddeunyddiau plastig ac ail-ddarganfod harddwch natur. ” 

Dywedodd Judith Ann Owen, pennaeth Ysgol Rhosgadfan, “Mae’r plant wedi bod wrth eu bodd yn gweithio ar y prosiect hwn ac mae wedi agor eu llygaid i’r byd enfawr y tu allan i Rosgadfan. 

“Rwyf wedi gweld newid yn y ffordd y maen nhw’n meddwl am newid hinsawdd a sut mai nhw yw’r rhai sy’n annog eu teuluoedd i gymryd camau bach i wneud gwahaniaeth.” 

Bydd ymwelwyr yn cael papur hadau yn rhodd gan y plant ifanc yn y ffilm, i’w blannu gartref a pharhau â’r stori. 

 

Nodiadau i olygyddion 

Mae Cadair Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnwys geiriau fel ‘newid’, wedi’i engrafio i mewn i bren. 

Mae hefyd yn symbol o leisiau nad ydynt yn bresennol yn COP 26 – sef cenedlaethau’r dyfodol – a ddylai fod â sedd wrth y bwrdd, a dewiswyd y geiriau gan Climate Cymru, trwy ei brosiect i gasglu 10,000 o leisiau o Gymru i’w dwyn i’r gynhadledd fyd-eang. 

Taylor Edmonds yw Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol – rhan o bartneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. 

Mae ysgol Ysgol Rhosgadfan ar gael ar gyfer cyfweliadau a ffilmio cyn y digwyddiad. 

Ymholiadau’r cyfryngau: claire.rees@futuregenerations.wales