Mae ‘gwarcheidwad y rhai nad ydynt eto wedi’u geni’, y gyntaf yn y DU, yn annog gwledydd eraill yn COP27 yr wythnos hon i warchod cenedlaethau’r dyfodol rhag argyfyngau hinsawdd, natur a chostau byw drwy gyfraith.

Daeth Cymru y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu er budd cenedlaethau’r dyfodol yn 2015 gyda’i Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – gan ysbrydoli gweledigaeth y Cenhedloedd Unedig o Lysgennad Arbennig ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, wedi ymuno ag arweinwyr ac actifyddion byd-eang yn y gynhadledd hinsawdd bwysig yn yr Aifft o Dachwedd 7 gyda’i galwad i holl genhedloedd wneud gwarchod buddiannau ein plant a’n hwyrion yn ddeddf.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod cyfrifoldeb cyfreithiol ar wneuthurwyr polisi yng Nghymru i greu datrysiadau holistig i wella llesiant diwylliannol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol drwy gyfrwng saith nod llesiant, yn cynnwys uchelgais i greu cymdeithas iachach, amgylcheddol-gydnerth.

Mae enghreifftiau yn cynnwys cynllun newydd Cymru i greu cwmni ynni adnewyddol, gan ddefnyddio tir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru i gynhyrchu ynni glân gyda’r elw yn mynd yn ôl i’r pwrs cyhoeddus.

Un o lwyddiannau mwyaf y Ddeddf oedd pan wnaeth ymyrraeth y Comisiynydd arwain at ddileu  traffordd gwerth £1.4bn gan Lywodraeth Cymru. Dadleuodd y Comisiynydd na fyddai’r cynllun i rwygo drwy warchodfa natur yn helpu Cymru i gyflawni ei nodau llesiant. Dyma gychwyn y newid ym mholisi cynllunio trafnidiaeth mewn moment hollbwysig i system drafnidiaeth Cymru, pan wnaethpwyd addewid i ymbellhau oddi wrth or-ddibyniaeth ar geir preifat. Wedi hynny daeth Cymru y wlad gyntaf yn y byd i gynnal moratoriwm ar adeiladau ffyrdd newydd.

Mae deddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol Cymru’n ei gwneud yn ofynnol i ddulliau Cymru o gyrraedd ei nodau llesiant hefyd wella llesiant hirdymor, ac yn ddiweddar gwnaeth Ms Howe weithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ymchwilwyr Llythrennedd y Dydodol (FliNT) i gyhoeddi Cymunedau a Newid Hinsawdd yng Nghymru’r Dyfodol, ar y modd y gellid ennyn ymgyfraniad pobl a dangynrychiolir mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu dyfodol – hynny yw, y bobl sydd mewn mwy o berygl o brofi niwed hinsawdd.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi gosod pum polisi hirdymor a allai yn ei barn amddiffyn pobl rhag argyfyngau costau byw pellach, yn amrywio o drafnidiaeth am ddim i bobl ifanc, i strategaeth fwyd genedlaethol a rhaglen fawr i ailosod cartrefi a dileu tlodi ynni.

Bydd Ms Howe yn brif siaradwraig yn lansiad Parth Glas COP27 o’r Pafiliwn Ffiniau Cydnerthedd ar 8 Tachwedd lle bydd yn mynd â Chymru i’r byd, gan rannu gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yr hyn a ddysgasom. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, bydd yn ymuno â Vladislav Kaim (Cynghorydd Ieuenctid Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd) a Dr Omnia El Omrani, Llysgennad Ieuenctid cyntaf COP, ymhlith eraill* yn y Plethwaith Hinsawdd-Iechyd – lle bydd y comisiynydd yn siarad am y modd y gall Deddf llesiant helpu i fynd i’r afael â bygythiadau cydgysylltiedig newid hinsawdd byd-eang ac iechyd cyhoeddus sy’n gwaethygu.

Yn ddiweddarach bydd yn cyfrannu tuag at Lleisiau Ieuenctid Dros Fwyd, o dan arweiniad Oatly and ProVeg, digwyddiad a fydd yn dwyn cynrychiolwyr byd-eang ifanc at ei gilydd i amlygu’r rôl sy’n cael ei chwarae gan fwyd yn y frwydr yn erbyn argyfyngau hinsawdd a natur, gyda’r ffocws ar ddatrysiadau rhanbarthol.

Cyn i COP gychwyn, gwnaeth UNICEF ryddhau Children and Climate Risk Index, a darganfod bod yr Aifft yn y categori ‘risg uchel iawn’.  Gydag amcangyfrif o 5.3 miliwn o blant yn agored i dywydd poeth mewn gwlad lle mae tymheredd cyfartalog wedi cynyddu o 0.53 gradd Celsius y degawd dros y 30 mlynedd diwethaf, bydd yr Aifft yn croesawu’r Gynhadledd Hinsawdd eleni mewn awyrgylch dwys.

Dywedodd Sophie Howe: “Rhaid i gyfiawnder hinsawdd for ar frig agenda COP27. Er enghraifft, yn Affrica, un o’r ardaloedd mwyaf agored i niwed yn y byd, amcangyfrifir bod 17 miliwn o bobl yn wynebu ansicrwydd bwyd yn Nwyrain Affrica oherwydd sychder. Dim ond un enghraifft yw hon sy’n dangos nad mater ar gyfer y dyfodol yw newid hinsawdd mwyach, a’i fod yn effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed, ac yn dyngedfennol, ar y rhai sy’n cyfrannu’r lleiaf at newid hinsawdd. Mae peryglon newid hinsawdd hefyd yn digwydd yn nes adref. Yng Nghymru, rydym yn gweld mwy a mwy o lifogydd cyson a digwyddiadau tywydd pwerus sydd wedi gadael 245,000 o gartrefi ac eiddo mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordifol, sef 1 o bob 8 cartref; nifer a fydd yn cynyddu wrth i lefelau’r môr godi.”

“Dylai ynni gwyrdd, trafnidiaeth lân a sofraniaeth bwyd gael eu mwynhau gan bob cenedl yn y byd os yr ydym i gael unrhyw obaith o adael i’n plant a’n hwyrion gartrefi y gellir byw ynddynt.

“Mae’r argyfwng hinsawdd a natur gyda ni, yn awr – dyna paham mae ar bob gwlad yn y byd angen deddf cenedlaethau’r dyfodol i gyfyngu ar yr effaith. Mae gennym i gyd ddyletswydd i amddiffyn pobl nad ydynt eto wedi eu geni rhag y niwed y byddant yn ei ddioddef os na fydd yna weithredu o ddifrif ar yr hinsawdd!

“Oherwydd er mai blaenoriaeth cynhadledd COP fydd cynyddu, ac yn bwysicach, weithredu ar y nifer o ymrwymiadau y mae gwledydd yn eu gwneud i leihau allyriadau, mae yna system wrth wraidd llywodraethau ar draws y byd sy’n diystyru buddiannau cenedlaethau’r dyfodol.

“Dylai fod yn ofynnol i bob gwlad, pob gwleidydd, a phob busnes ddangos y modd y mae eu penderfyniadau yn effeithio ar y dyfodol – mae gennym fframwaith i wneud hynny yng Nghymru y gall gweddill y byd ddysgu oddi wrtho”.

 

NODIADAU I OLYGYDDION

Gallwch lawrlwytho delweddau i’r wasg o Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru YMA.

Trydar @FutureGenCymru @SophieHowe

Instagram @FutureGenCymru

 

Cyfweliadau ar gael (cyn, yn ystod ac ôl COP) Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; Jacob Ellis (siaradwr Cymraeg), Arweinydd Ysgogi Newid yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Am fwy o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau cyn-COP27, os gwelwch yn dda cysylltwch â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

I drefnu cyfweliad gyda Sophie Howe neu am fwy o wybodaeth tra eich bod yn COP27, os gwelwch yn dda cysylltwch â’r swyddog a fydd yno gyda’r comisiynydd, Jacob Ellis, uwch ysgogydd newid, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ar jacob.ellis@futuregenerations.wales.

 

Beth yw’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ddarn o ddeddfwriaeth sy’n arwain y byd ac sy’n gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru (yn cynnwys Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol a byrddau iechyd) i weithredu heddiw ar gyfer creu gwell yfory drwy gyfrwng saith nod llesiant cenedlaethol cydgysylltiedig.

Wedi dod i rym yn 2015 yn unol â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf weithredu datblygu cynaliadwy – drwy ddiwallu anghenion heddiw heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Dylai cyrff cyhoeddus feddwl mwy am yr hirdymor, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a gyda’i gilydd, ymroi i atal problemau fel newid hinsawdd ac anghydraddoldeb a mabwysiadu ymagwedd fwy cydgysylltiedig.

Cymru yw’r unig wlad yn y byd i wneud Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn ddeddf, ac ym mis Medi 2021, cyhoeddodd yr Alban ei bod yn ymuno â Chymru ac yn penodi Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Llysgennad Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

Ym mis Medi 2021, cymeradwyodd Ysgrifennydd Gwladol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, gynnig ar gyfer creu llysgennad arbennig i genedlaethau’r dyfodol a fydd â’r dasg o gynrychioli buddiannau’r rhai y disgwylir iddynt gael eu geni dros y ganrif sy’n dod – gan gyflwyno ymagwedd cenedlaethau’r dyfodol Cymru i’r byd.

 

Pwy yw’r Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol?

Sophie Howe yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf Cymru. Cafodd ei rôl ei chreu yn 2016, i weithredu fel ‘gwarcheidwad’ cenedlaethau’r dyfodol, drwy hybu’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn arbennig i weithredu fel gwarcheidwad gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion ac annog cyrff cyhoeddus i dalu mwy o sylw i effaith hirdymor y pethau y maent yn eu gwneud. Yn fam i bump o blant sy’n byw yng Nghaerdydd, Cymru, cyn y rôl hon, bu Sophie’n ddirprwy gomisiynydd heddlu a throseddu De Cymru am bedair blynedd. Cyn hynny bu’n gweithio i Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal lle’r oedd yn arwain ar wahaniaethu ar sail rhyw a hawliadau tâl cyfartal. Hi oedd y cynghorydd ieuengaf yng Nghymru pan oedd yn 21 mlwydd oed.

Mae ei sgwrs TED Countdown, Lessons on Leaving the World Better Than You Found It, wedi cael ei gwylio dros 1.7 miliwn gwaith.

Am y tro cyntaf erioed mewn Cynhadledd UNFCCC, bydd plant a phobl ifanc yn cael gofod wedi ei neilltuo ar eu cyfer yn COP27. Wedi ei ddylunio i gynyddu lleisiau plant a phobl ifanc o fewn proses llunio polisiau hinsawdd byd-eang, caiff Pafiliwn Plant a Phobl Ifanc COP27 yn yr Aifft ei arwain gan bobl ifanc ac mae wedi ei  gyd-greu a’i redeg gan rwydweithiau dylanwadol plant a phobl ifanc.

 

DIWEDD