Cartrefi carbon-niwtral, canol dinasoedd heb geir a system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n arwain y byd - croeso i Gymru newydd - fel y’i dychmygwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a mwy na 5,000 o bobl.

Ar ddechrau Wythnos Hinsawdd Cymru, mae Sophie Howe wedi cyflwyno gweledigaeth o sut y gallai’r genedl edrych yn 2050, os wnawn ni gyflawni uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r gwaith celf rhyngweithiol i’w weld ar wefan sy’n cyd-fynd ag Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol diweddaraf y comisiynydd, canlyniad mewnbwn gan grwpiau, sefydliadau ac unigolion dros y tair blynedd ddiwethaf.

Gall defnyddwyr chwilio eu ffordd drwy ddinas Gymreig y dyfodol a’r ardal o’i hamgylch, lle mae llesiant yn ganolbwynt y broses o wneud penderfyniadau, gan gynnwys sut mae polisïau’n cael eu gwneud ac arian yn cael ei wario.

Mae’r comisiynydd yn annog pobl i’w defnyddio, yr adroddiad, y Ddeddf a’i nodau, i fynnu ‘y Gymru a garem’.

Mae’r map, a ddyluniwyd gan asiantaeth greadigol a digidol Caerdydd, Celf Creative, yn dod ag argymhellion yn fyw ar gyfer Cymru wyrddach, garedicach – mewn gofod lle gall pawb gael gafael yn hawdd ar yr hyn sydd ei angen arnynt i’w cadw’n iach.

Mae toeau ac isadeiledd gwyrdd mewn cartrefi carbon-niwtral sy’n agos at natur ac hefyd at fwynderau; tra bod parciau wedi’u llenwi â blodau gwyllt a glaswellt llawn bioamrywiaeth sy’n cael ei adael i dyfu, a digonedd o randiroedd.

Mae yna ganolbwynt gwasanaethau brys ar y cyd (wedi’i addurno gan arlunydd lleol) a champfa a chanolfan hamdden wedi’u cysylltu â’r ysbyty, drws nesaf i ‘hwb’cymunedol. Mae’r ddinas, y maestrefi a chefn gwlad yn frith o hybiau llesiant – un drws nesa i feddygfa, yn dangos y nod o leihau’r galw ar y GIG trwy ganolbwyntio ar atal salwch a chadw pobl yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol.

Ochr yn ochr â chaffis a siopau sy’n cael eu rhedeg yn annibynnol, hyrwyddir defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy trwy siop gyfnewid a chaffi atgyweirio wrth ymyl canolfan ailgylchu. Mae trenau’n stopio sawl gwaith i wasanaethu llawer o’r gymuned ac nid oes ceir yn y canol – yn lle hynny, rheseli beiciau niferus. Mae canolfan goedwig wrth ymyl hwb trafnidiaeth ac mae e-geir gyda mannau gwefru.

Mewn parc, mae cymdogion yn chwarae chwaraeon cadair olwyn ac yn gwneud yoga awyr agored a thimau rygbi menywod Cymru’n hyfforddi.

Mae neuadd y dref yn chwifio baner Cymru a baner Pride, mae diwylliant i’w gael ym mhobman, mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio fel iaith bod dydd, ac mae yna le ar gyfer dadlau awyr agored i annog dinasyddion i gymryd rhan.

Mewn mannau eraill mae’n beth normal i weld twrbinau gwynt a ‘phontydd gwyrdd’, sy’n lleihau effaith ffyrdd ar gerddwyr a beicwyr,   a mannau croesi diogel wedi eu darparu ar gyfer bywyd gwyllt.

Gwaith Ms Howe yw gwarchod cenedlaethau’r dyfodol rhag gweithredoedd gwleidyddol heddiw, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, arloesol ei natur, a ddaeth i rym yn 2015.

Mae’r ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a gyda’i gilydd, ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a’r newid yn yr hinsawdd.

Mae’r comisiynydd wedi cyflwyno heriau arbennig i Lywodraeth Cymru ar eu hymagwedd tuag at adferiad yn dilyn COVID-19 a thuag at adeiladu nôl yn well. Mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cyflymach i leihau allyriadau, mapio’r meysydd dros y rhain y maent yn rheoli, ac asesu effaith carbon eu gwariant.

Mae Ms Howe yn amlygu enghreifftiau o gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru, megis strategaeth Un Blaned Cyngor Caerdydd, sy’n amlinellu eu cynlluniau ar gyfer gwneud Caerdydd yn garbon-niwtral erbyn 2030, yn ogystal â gwaith sy’n cael ei archwilio gan Gyngor Sir Penfro i gynyddu’r capasiti ar gyfer ffermydd gwynt, tra hefyd yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd i blannu coeden am bob babi sy’n cael ei eni yn ardal yr awdurdod lleol.

Dywedodd bod fframwaith y ddeddfwriaeth wedi rhoi caniatâd i ‘eiriolwyr rhwystredig’ herio’r system, gan ychwanegu bod camau’n cael eu cymryd i leihau allyriadau gan lawer o sefydliadau ond bod angen i hyn fod yn ehangach a chyflymach os yr ydym i osgoi argyfwng a fydd yn fwy hyd yn oed na COVID.

Ym mis Hydref, lansiodd ei Maniffesto y Dyfodol – gan erfyn ar bleidiau gwleidyddol i wrando ar leisiau pobl ifanc yn galw am weithredu ar y newid yn yr hinsawdd ac anghydraddoldeb.

Dylai’r adferiad yn dilyn COVID-19, meddai, ddefnyddio dulliau’r Ddeddf o weithio, megis meddwl yn yr hirdymor ac atal, i sicrhau llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Meddai: “Dywedodd y Cenhedloedd Unedig llynedd y gallai fod gennym ddim mwy nag 11 mlynedd ar ôl i gyfyngu ar drychineb newid hinsawdd.

“Fel y wlad gyntaf a’r unig un yn y byd i ddeddfwriaethu ar lesiant, gallwn arwain y byd yn y modd yr ydym yn gofalu am bobl ac am y blaned.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn defnyddio’r weledigaeth hon o bosibiliadau Cymru, i weithio gydag eraill a gofyn am y Gymru a garem yn awr ac ar gyfer ein plant.

“Canlyniad cydweithredu â phobl ledled Cymru yw’r weledigaeth hon ac mae’n llawn enghreifftiau o’r daioni a all ddigwydd pan fyddwn yn meddwl ac yn gweithredu’n wahanol”.

Dowch o hyd i’r map a’r weledigaeth o Gymru 2050, yma.

Gallwch ddilyn Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar Twitter @futuregencymru ac ar Instagram @futuregencymru

#CymruEinDyfodol

 

  • Bydd Sophie Howe yn rhannu ei barn ar y modd y gall Cymru frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru llynedd, ar ddiwrnod cyntaf Wythnos Hinsawdd Cymru (Tachwedd 2 hyd Tachwedd 6).
  • Mae’r digwyddiadau digidol, a gynhelir am ddim, yn cychwyn yr amser sydd i fynd cyn Cynhadledd y Partïon ar Newid Hinsawdd y Cenedloedd Unedig (COP26) yn Glasgow fis Tachwedd nesaf a bydd yn archwilio popeth o amaethyddiaeth i fusnes i ffasiwn, a syniadau am y modd y gall unigolion a sefydliadau wneud gwahaniaeth.
  • Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

 

Saith peth y mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw ar Lywodraeth Cymru i’w cyflawni ar weithredu ar yr hinsawdd…

  1. Buddsoddi mewn ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a Natur. Ymrwymo i gynyddu gwariant flwyddyn ar ôl blwyddyn.
  2. Cyflwyno cysyniad cymdogaeth 20-munud i bob tref a dinas yng Nghymru, gwneud band eang yn wasanaeth hanfodol, a sicrhau bod pobl yn medru cyrchu man gwyrdd naturiol o fewn 300 metr i’w cartref.
  3. Lleihau’r gwariant ar seilwaith ffyrdd a chynyddu gwariant ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn cynnwys cyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc yng Nghymru.
  4. Buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant i gynorthwyo’r trawsnewid i well dyfodol, gan greu swyddi newydd gwyrddach a chyflwyno cynllun ar gyfer ymateb i dueddiadau’r dyfodol mewn modd a fydd yn lleihau anghydraddoldebau yn hytrach na’u gwaethygu.
  5. Buddsoddi mewn natur a blaenoriaethu ariannu a chymorth ar gyfer adfer cynefinoedd graddfa-fawr, bywyd gwyllt, creu a chysylltedd ledled Cymru, gan sefydlu targedau ar gyfer adferiad natur ar dir a môr.
  6. Datblygu pecyn ysgogiad economaidd sy’n arwain at greu swyddi ac sy’n cynorthwyo datgarboneiddio cartrefi.
  7. Gosod canllawiau clir moesegol ar gyfer pensiynau’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys ymrwymiadau i wyro oddi wrth bob ffynhonnell sy’n achosi niwed, tanwydd ffosil, llygryddion, gyrru nwyddau, datgoedwigo dramor ac arfau.

Am ymholiadau’r wasg, cysylltwch â Claire Rees claire.rees@futuregenerations.wales neu rebecca.brown@futuregenerations.com