Dylai Cymru gyflwyno trefi a dinasoedd 20-munud i wella iechyd, rhoi hwb i'r economi a chefnogi cymunedau yn ystod cyfyngiadau symud, meddai Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe.

Mae’r cysyniad cymdogaeth 20-munud yn rhoi’r gallu i bobl ‘fyw yn lleol’ – lle mae’r rhan fwyaf o’u hanghenion bob dydd yn cael eu diwallu o fewn taith gerdded 20 munud o’u cartref.

Mae’n cael ei dreialu ym Melbourne, Awstralia; yn cael ei gefnogi gan Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ac mae maer Paris, Anne Hidalgo, a ail-etholwyd, eisiau gwneud prifddinas Ffrainc yn ddinas ‘15-munud. ’

Mae’r Comisiynydd, yn ei rôl fel un sy’n gwarchod cenedlaethau’r dyfodol rhag gweithredoedd gwleidyddol heddiw, yn credu bod y syniad yn hanfodol ar gyfer creu “cymunedau cysylltiedig, carbon isel a gweithredol” ac mae wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ac i gynghorau, archwilio sut y byddai hyn yn gweithio yng Nghymru.

Mae’n rhan o’i chysyniad ar gyfer cynllunio trefol doethach – y mae dirfawr angen amdano, meddai – i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd a natur, gan sicrhau bod Cymru’n cwrdd â’r angen byd-eang i ddatgarboneiddio ac adfer natur yn gyflym, wrth gefnogi poblogaeth sy’n heneiddio, ac addasu i dechnoleg sy’n newid y ffordd rydyn ni’n byw ac yn gweithio.

Fe allai cymdogaeth 20-munud, meddai, helpu i atal lledaeniad epidemigau posib yn y dyfodol, cefnogi cyfyngiadau symud lleol wedi’u targedu, a helpu cymunedau i gyflawni’r heriau os a phryd maen nhw’n digwydd.

O dan y cynllun, mae yna siopau, ysgolion, mannau gwyrdd, diwylliant, hamdden a gwaith, i gyd o fewn 20 munud i gartref fforddiadwy. Mae gwell cysylltiad rhwng cyrchfannau, gyda gwell cysylltiadau o ansawdd da mwy diogel ar gyfer cerdded a beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus a fyddai’n lleihau llygredd a gwella iechyd a llesiant hirdymor.

Dyma un o argymhellion Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol y Comisiynydd, sydd yn ei barn, wedi dod yn fater o frys cynyddol, oherwydd pandemig Covid-19, fel Incwm Sylfaenol Cyffredinol ac wythnos waith fyrrach.

Mae’n rhan o’i chysyniad ar gyfer cynllunio trefol doethach – y mae dirfawr angen amdano, meddai – i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd a natur, gan sicrhau bod Cymru’n diwallu’r angen byd-eang am ddatgarboneiddio ac adfer natur yn gyflym, wrth gefnogi poblogaeth sy’n henediddio, ac addasu i dechnoleg sy’n newid ein ffordd o fyw a gweithio.

Gallai cymdogaeth 20-munud meddai, helpu i atal epidemigau posibl y dyfodol rhag lledaenu, gan gefnogi cyfyngiadau symud, lleol a dargedir, a helpu cymunedau i gwrdd â’r heriau os a phan y byddant yn digwydd.

O dan y cynllun, mae yna siopau, ysgolion, mannau gwyrdd, diwylliant, gweithgareddau hamdden a gwaith, i gyd o fewn 20 munud i gartref fforddiadwy. Mae cysylltiad gwell rhwng cyrchfannau, gyda chysylltiadau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus diogelach a niferus i leihau llygredd a gwella iechyd a llesiant hirdymor.

Dyma un o argymhellion Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol y Comisiynydd sydd, meddai, wedi dod yn fater brys cynyddol, oherwydd y pandemig Covid-19, megis Incwm Sylfaenol Cyffredinol ac wythnos waith fyrrach.

Yn ddiweddar ysgrifennodd Ms Howe at y canghellor Rishi Sunak ar y cyd â TUC Cymru, yn ei annog i gefnogi wythnos waith fyrrach ac ym mis Mai, rhestrodd bum cam i helpu Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyllid ar gyfer adferiad gwyrdd.

Dywedodd y byddai ail-lunio ein tirweddau trefol yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac yn cefnogi pobl i lynu wrth reolau cyfyngiadau symud.

“Mae’r gymdogaeth 20-munud yn ymwneud â mannau trefol lle gall pobl gael mynediad diogel i’r rhan fwyaf o’r pethau sydd arnynt eu hangen i fyw bywyd iach a hapus, heb ddibynnu ar gar,” meddai’r Comisiynydd.

Mae ei hadroddiad hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda chyrff cyhoeddus i sicrhau 20% o orchudd canopi coed ym mhob tref a dinas yng Nghymru erbyn 2030, a gosod safonau i sicrhau y gall pobl gyrchu mannau gwyrdd naturiol o fewn 300 medr i’w cartref.

Meddai: “Mae ardaloedd lleol â chysylltiadau da yn ystod cyfyngiadau symud wedi rhoi cipolwg i ni o ddyfodol gydag aer glân, a chymunedau mwy diogel a mwy cynhwysol.

“Gallai caniatáu i bobl weithio’n agosach at eu cartrefi, ynghyd ag wythnos waith fyrrach, helpu parhad gweithredu cymunedol megis gwirfoddoli, tra’n cynorthwyo pobl â chyfrifoldebau gofal cynyddol.”

Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei huchelgais i weld oddeutu 30% o’r boblogaeth yn gweithio o’u cartrefi neu’n agos ato, gan ychwanegu ei bod yn archwilio rhwydwaith o ganolfannau gweithio o bell, wedi eu lleoli mewn cymunedau.

Mae’r Comisiynydd yn galw am ffocws ar gyflwyno’r seilwaith digidol ledled Cymru a fyddai’n caniatáu i bobl fanteisio ar y gallu i weithio mewn unrhyw le, tra’n siopa, byw, gwirfoddoli neu gyrchu gwasanaethau cyhoeddus a ffordd o fyw yn lleol.

“Gall Cymru arloesi’r newid hwn yn y ffordd yr ydym yn byw a gweithio, a’r ffordd y caiff ein mannau trefol eu dylunio o gwmpas cymunedau,” meddai Ms Howe.

“Gan fod Cymru’n genedl fach a galluog, gallwn ddangos i drefi a dinasoedd sut i weithredu mewn dyfodol sy’n newid yn gyflym. Gallai’r adferiad gwyrdd yng Nghymru fod y un sy’n newid bywydau, ond mae’n rhaid i ni gysylltu’r bylchau.”

Dywedodd y Comisiynydd y dylai lleoedd gael eu dylunio mewn cydweithrediad â chymunedau, gan roi’r pwyslais ar ‘greu lleoedd’ – y weithred o greu mannau cynaliadwy sy’n ategu llesiant – lle gall pobl arwain bywydau llesol ac iach.

O dan y cynlluniau, gallai ymwelwyr lleol hybu twristiaeth ddomestig a’r economi lleol. A byddai’n rhoi mantais gystadleuol i Gymru, drwy gadw’r bobl a’r sgiliau sydd arni eu hangen i adeiladu nôl yn well yn dilyn y pandemig.

Byddai llai o deithiau mewn car a llai o deithiau cerbydau un-teithiwr yn lleihau allyriadau carbon a thagfeydd traffig tra hefyd yn lleihau’r maint o blastig sy’n mynd i mewn i afonydd ac i’r môr drwy deiars cerbydau.

Mae sefydliadau, o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) i’r Cenhedloedd Unedig, ynghyd ag economegwyr ac academyddion wedi galw ar y llywodraeth i fuddsoddi mewn adferiad gwyrdd, â ganddo botensial arwyddocaol i greu swyddi ar gyfer y dyfodol.

Y mis hwn, dywedodd y Sefydliad Tirwedd bod gennym yn awr ‘gyfle sy’n diwgydd unwaith mewn cenhedlaeth’, gan adleisio argymhelliad adroddiad y comisiynydd i fuddsoddi mewn natur.

Y mis nesaf, mae’r Comisiynydd yn lansio ei Maniffesto ar gyfer y Dyfodol, lle bydd yn nodi materion allweddol sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol y dylai pleidiau gwleidyddol ymrwymo iddynt yn eu maniffestos cyn etholiadau’r Senedd a gynhelir yn ystod mis Mai nesaf.

Ychwanegodd: “Rydyn ni eisoes wedi gweld pobl yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o greu aer iachach a glanach o fewn eu cymunedau.

“Gall cynorthwyo cymunedau â gwell cysylltedd helpu pawb i weithredu yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, ac ail-lunio’r dyfodol yr ydym eisiau ei weld.

“Mae angen i Lywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i wneud hynny’n bosibl – gan sicrhau bod pawb wedi eu cysylltu’n ddigidol a chaniatáu i bobl gyd-ddylunio’r lleoedd lle maent yn byw, gweithio a chwarae.”

 

Nodiadau i olygyddion

Gyda chylch gwaith wedi’i nodi yn y gyfraith, Sophie Howe yw’r unig Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn y byd. Ymgymerodd â’r rôl ar ôl i Gymru gyflwyno’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arloesol yn 2015.

Ei swydd fel ‘gwarcheidwad buddiannau cenedlaethau’r dyfodol’ yw rhoi cyngor i’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill ar ddarparu llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol parhaol.

Ysgogwyd Caerdydd gan waith y comisiynydd i fuddsoddi mwy nag erioed mewn priffyrdd mawr i feiciau, ynghyd â chymunedau gwyrdd, gan ganolbwyntio ar leihau llygredd aer o drafnidiaeth mewn ardaloedd difreintiedig.

Mae gofynion y Ddeddf i wneud pethau sy’n fanteisiol i lesiant hefyd wedi arwain at feddygon teulu yn y brifddinas yn presgreibio’r defnydd o rwydwaith rhentu beiciau’r ddinas am ddim i’r bobl hynny a fyddai’n elwa fel canlyniad.

Mae Sustrans, elusen cerdded a beicio’r DU hefyd yn cefnogi cymdogaethau 20-munud.

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Sustrans:

“Ar hyn o bryd, mae gormod o gymdogaethau’n cael eu cynllunio o gwmpas ceir. Mae hyn wedi effeithio’n niweidiol ar ein cyrff, ein meddyliau, a’r aer yr ydym yn ei anadlu.

“Yn aml yr unig ddewis sydd gan bobl yw gyrru i brynu peint o laeth, a phobl heb gerbyd yn cael eu gadael â mynediad gwael i’r pethau sydd arnom i gyd eu hangen bob dydd.

“Drwy adeiladu cymunedau lle mae tai, swyddi a manwerthu’n digwydd yn agos at ei gilydd, gallwn ddatgloi cynhyrchiant a chysylltu pobl â lleoedd ac â’i gilydd.”

 

Gwybodaeth ychwanegol: Beth YW cymdogaeth 20-munud?

“Mae byw mewn tref 20-munud wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fy hapusrwydd ac iechyd meddwl yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud” medd Rhyann Milne, ymgynghorydd cynaliadwyedd.

Gall Rhyann, 35 mlwydd oed, gyrchu’r holl leoedd a ddefnyddir ganddi’n aml, i gyd o fewn taith gerdded 20 munud o’i chartref ger canol tref Caerffili.

Dywedodd: “Mae yna rwydwaith beicio sy’n caniatáu i mi osgoi’r prif ffyrdd ac mae’r palmentydd yn llydan ac yn ddiogel i gerdded arnynt gyda fy mhlant.

“O fewn pum munud mae yna lyn bach a gwarchodfa natur, wedi ei amgylchynu gan fan agored gwyrdd a gardd pili pala; o fewn 15 munud mae yna barc chwarae.

“O fewn 10 munud mae ysgol fy merch, ac ar y ffordd nôl, gallwn gael picnic ger y castell a bwydo’r hwyaid, neu gel cacen ac ysgytlaeth mewn siop deli annibynnol ar y ffordd – rhywbeth braf amheuthun i’w gael yn achlysurol ar ddydd Gwener.

“Os rydw i angen ffrwythau ffres, gallaf fod yn y siop lysiau o fewn 10 munud. Gallaf redeg i goedwig Wern-ddu [Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)] mewn 20 munud; mae yna fferyllydd. Mae gennym bopeth sydd arnom ei angen.”

Roedd byw mewn cymuned 20-munud o gymorth i mi yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud cenedlaethol, a phan gyfyngwyd ar symud ym mwrdeistref Caerffili y mis hwn.

“Nid yw’r cyfyngiadau symud wedi bod yn hawdd ond mae wedi bod yn haws delio â’r sefyllfa, diolch i’r ffaith fy mod yn byw mewn ardal â chysylltiadau da,” meddai Rhyann, sydd wedi bod yn gweithio gartref neu ar gyfnod ffyrlo o’i swydd yng nghanol Caerdydd.

“Wrth gwrs mae methu â gweld teulu sy’n byw ymhell i ffwrdd yn anodd, ond mae yna sicrwydd a ddaw yn sgil gwybod y gallwn gael mynediad i siopau a chefnogaeth.

“Mae yna gartref preswyl yn ein stryd ni, a phan ges i fy ffyrlo, roedden ni’n cerdded heibio bob dydd a dod i adnabod y menywod oedd yn eistedd y tu allan yn yr heulwen ar y borfa.

“Fe ddaethon ni ar delerau enw cyntaf gyda’r cerddwyr cŵn.”

Dywed y fam i ddau o blant fod y symud o ardal ynysig heb fawr ddim o fewn cyrraedd ar droed wedi golygu bod ei chyfnod mamolaeth gyda’i hail blentyn yn hynod o wahanol i’r cyntaf.

Cafodd Rhyann ei phlentyn cyntaf, Arianwen, sydd bellach yn bedair oed, pan oedd yn byw ar ben bryn serth mewn ardal o Aberpennar, lle methodd ddod o hyd i bron unrhyw gymuned.

“Roeddwn i wedi fy ynysu ac nid oedd yn amser hapus iawn. Roedd palmentydd diogel yn brin, heb son am lwybrau beicio” meddai.

“Ychydig o siopau oedd o fewn cyrraedd, ac nid oedd gorsaf na mannau i gyfarfod yn agos; roedd yn rhaid i mi yrru am 15 munud i Aberdâr i ddod o hyd i unrhyw fath o gymdeithasu gyda rhieni eraill.

“Wyddwn i ddim am glybiau babanod ac roedd yr holl siopau o leiaf yn daith hanner awr ar droed – oedd yn golygu cerdded i fyny rhiw serth ar y ffordd adre gyda’r pram.

Symudodd y teulu i Gaerffili dair mlynedd yn ôl a chafodd Rhyann ei hail blentyn Evelyn, sydd yn awr yn 18 mis oed.

“Roedd fy nghyfnod mamolaeth yn hollol wahanol ac roedd 80% o hynny oherwydd y man lle’r oeddwn yn byw,” meddai

“Gwnaeth byw mewn man â chysylltiadau da wella fy iechyd meddwl a’m hapusrwydd.

“Gyda fy ail faban, roeddwn yn medru mynd i grwpiau babanod, cwrdd â rhieni eraill mewn parciau a gwneud ffrindiau, sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth, yn arbennig yn ystod y misoedd cyntaf hynny.”

Ffotograffau: Rhyann Milne gyda’i merched Arianwen, 4, ac Evelyn, 18 mis.