Mae pobl sy’n gwneud newid cadarnhaol i’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru yn cael sylw arbennig gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf, Sophie Howe, wrth iddi ddod i ddiwedd ei thymor saith mlynedd.

Cymru yw’r unig wlad yn y byd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Ms Howe yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol statudol cyntaf y byd. 

Hyd yn hyn, mae rhai o gyflawniadau’r Ddeddf a rôl y Comisiynydd yn cynnwys helpu i roi treial incwm sylfaenol ar yr agenda, ymyriadau mewn trafnidiaeth a arweiniodd at ddileu ffordd liniaru’r M4 a ffafrio mwy o gyllid ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a strategaeth drafnidiaeth newydd, cwricwlwm newydd pwrpasol a phwyslais ar ofal iechyd ataliol. 

Yn awr mae’r comisiynydd sy’n gadael, a fydd yn gorffen ei thymor ar ddiwedd mis Ionawr 2023, yn dymuno amlygu rhai o’r ysgogwyr newid o bob rhan o gymdeithas sy’n gweithio i greu Cymru well. 

Mae’r beirdd, gweithwyr y sector cyhoeddus, actifyddion, dylanwadwyr, busnesau, ysgolion a gwirfoddolwyr sy’n helpu i ymgorffori’r nodau llesiant ledled Cymru yn ymddangos ochr yn ochr â’r actor Michael Sheen ar restr Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100 – sy’n cael ei chyhoeddi am y tro cyntaf heddiw [dydd Mawrth, Ionawr 24] mewn digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. 

Mae unigolion ar y rhestr yn cynnwys Amanda Davies, a ddatblygodd Gynllun Lliniaru Tlodi Gwelyau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a gyfrannodd welyau dros ben adeg Covid-19 i ysbyty plant a gwersylloedd ffoaduriaid ym Moldova ar gyfer pobl o’r Wcrain oedd yn ffoi rhag y rhyfel; actifydd traws, Zoey Allen; yr actor Michael Sheen, a Becky Harford ac Ella Smillie, sylfaenwyr Benthyg Cymru – llyfrgell o eitemau yng Nghymru, sy’n tyfu’n gyflym, ac sy’n dwyn pobl at ei gilydd i rannu a benthyca eitemau cartref, arbed gwastraff a lleihau allyriadau carbon.  

Mae Natalie Hodgkinson yn gyn-diwtor mathemateg sy’n defnyddio bwrdd coffi i fynd i’r afael ag anghyflogaeth, a sefydlodd Boss & Brew Academy yn ystod y cyfnod clo ac sydd ers hynny wedi cynnig hyfforddiant barista am ddim a rhaglenni cyflogadwyedd i bobl ifanc, yn bennaf yn Butetown a Grangetown yng Nghaerdydd, a’r mwyafrif ohonynt yn bobl Dduon, Asiaidd neu o leiafrifoedd ethnig. 

Bydd y digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn cynnwys perfformiadau gan ysgogwyr newid sydd ar y rhestr – Taylor Edmonds, Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2021-2022; y cerddor Cymreig Blankface, un o gyd-grewyr ifanc Y Blwch Democratiaeth, sy’n creu mudiad dros newid, gan godi ymwybyddiaeth am ein democratiaeth a sut i ymgyfrannu; a chôr Ysgol Gynradd Radnor Caerdydd. Bydd myfyrdodau hefyd gan Sophie Howe a’rPrif Weinidog, Mark Drakeford. 

Dywedodd Sophie Howe: “Mae deddfwriaeth llesiant Cymru’n rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i weithredu y tu allan i’r status quo, ond mae yna filoedd o bobl sy’n gwneud newidiadau cadarnhaol bob dydd.  

 “Mae’r digwyddiad hwn yn ymwneud â chydnabod rhai o’r bobl sy’n dangos beth sy’n digwydd pan fyddwn yn rhoi blaenoriaeth i lesiant, i weithio gyda’n gilydd ac ystyried goblygiadau hirdymor ein gweithrediadau, ac mae’n amlygu’r angen i gynorthwyo ysgogwyr newid fel y gallant wella cymdeithas i bawb.  

Dim ond ciplun o’r ysgogwyr newid gwych yng Nghymru yw Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100, ac rydym am i eraill rannu’r bobl sy’n eu hysbrydoli, a chynnal y momentwm yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.” 

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi amlgu maint yr heriau byd-eang sy’n ein hwynebu.Y prif rai yw’r angen dybryd i weithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. I wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach mae angen i ni sicrhau’n barhaus bod ein dulliau o weithio mewn llywodraeth yn gyrru yn ei blaen y weledigaeth gadarnhaol sydd gennym ar gyfer y dyfodol a luniwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

“Yr hyn sy’n helpu i osod Cymru ar wahân yw gwaith Comisiynydd annibynnol Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, wrth iddi gefnogi’r newid hwn a chadw’r ffocws ar yr hirdymor. 

 “Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi bod yn ysgogydd, ac rwyf am dalu teyrnged i’r cyfraniad trawiadol a hirhoedlog y mae Sophie Howe wedi’i wneud i drafodaethau cyhoeddus a pholisi yng Nghymru.” 

Mae Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru, hefyd ar y rhestr. Bu Mr Mooney yn gweithio gyda’r comisiynydd ar strategaeth gynaliadwyedd Cymdeithas Pêl-droed Cymru, llesiant a’r byd, sy’n amlinellu gweledigaeth y gymdeithas ar gyfer Cymru leol, fyd-eang, gan ddefnyddio pŵer pêl-droed i wella llesiant Cymru. Yn dilyn y lansiad, cyhoeddodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru gytundeb cyflog cyfartal i dimau cenedlaethol Dynion a Menywod Cymru. 

Meddai: “Mae cynaliadwyedd yn ffocws allweddol i Gymdeithas Pêl-droed Cymru ac felly rwy’n falch iawn bod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi cydnabod y gwaith rydym yn ei wneud i gyflawni ein nod o ddod yn arweinydd byd mewn pêl-droed. Rydym yn sefydliad blaengar sy’n cefnogi gwerthoedd a diwylliant y cymunedau a’r cymeriadau sy’n rhan o’r gêm hyfryd hon.  

“Mae meddwl a gweithredu’n gynaliadwy yn golygu y bydd y penderfyniadau a wnawn heddiw hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y cenedlaethau sydd i ddod. Gyda’r strategaeth hon, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae gennym gynllun gweithredu i ddatblygu clybiau, cynghreiriau a mentrau cynaliadwy a chryfach er mwyn cyflawni hyn.”  

  • Mae pobl yng Nghymru’n cael eu gwahodd i rannu’r hyn maen nhw’n ei wneud i ‘Ymuno â’r Ddeddf’ a rhannu enwau ysgogwyr newid sy’n eu hysbrydoli bob dydd ar Trydar @Futuregencymru 
  • Bydd Sophie Howe yn ymuno â’r 100 ysgogwyr newid drwy ychwanegu ‘Tagio’r Dyfodol’* ar Gadair Cenedlaethau’r Dyfodol yn ystod y digwyddiad. Bydd ‘tag’ y Comisiynydd yn cael ei adael yn wag fel symbol o’r ysgogydd newid sydd ar goll – y person nad yw eto wedi ei eni, un o genedlaethau’r dyfodol.
  • I ddarllen Ysgogydd Cenedlaethau’r Dyfodol 100 cyflawn, ewch i futuregenerations.wales/cy/impact/100-ysgogwyr-newid-cenedlaethaur-dyfodol/

*Mae Cadair gyntaf Cenedlaethau’r Dyfodol, a grëwyd ac a ddyluniwyd gan y crefftwr Tony Thomas, mewn partneriaeth â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn symbol o leisiau nad ydynt yn bresennol – cenedlaethau’r dyfodol – a ddylai gael sedd wrth y bwrdd. Mae geiriau fel ‘newid’ wedi eu hysgythru i’r pren ac fe’u dewiswyd gan Climate Cymru, trwy ei brosiect i gasglu 10,000 o leisiau o Gymru i fynd i gynhadledd fyd-eang, COP 26, yn Glasgow yn 2021, lle cafodd y gadair ei dadorchuddio am y tro cyntaf. Crëwyd y gadair hefyd fel amnaid i’r gadair a ddyfernir i feirdd mewn traddodiad diwylliannol Cymreig hanesyddol. Ar ôl y digwyddiad hwn, bydd yn symud i gartref ym Mharc Cathays, lle bydd y Cabinet a chyfarfodydd allweddol eraill yn cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru, i’n hatgoffa o anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

ASTUDIAETHAU ACHOS – Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100… 

Gellir cynnal cyfweliadau pellach. 

  • Mae Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn grŵp o bobl ifanc 18-30 mlwydd oed sy’n rhoi’r Ddeddf ar waith yng nghymdeithas Cymru – drwy greu cynlluniau cenedlaethau’r dyfodol ar gyfer eu gweithleoedd, mentora arweinwyr Cymru a thrwytho gwaith y comisiynydd ei hun. Ers graddio o academi 2020, mae’r cyn-fyfyrwyr wedi bod yn brysur yn ysgogi newid, gan gynnwys siarad yn COP 26, eistedd ar fyrddau cynghori Llywodraeth Cymru, ymuno â fforwm rhyngweinidogol Cymru-Iwerddon, dod yn swyddogion etholedig, a gwneud argraff drwy gynrychioli Cymru ar Gomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol y DG. 

 

  • Mae Taylor Edmonds wedi defnyddio barddoniaeth i ddyneiddio pynciau’n ymwneud â newid hinsawdd yn ei rôl fel Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2021-2022. Bu’r bardd a’r llenor o’r Barri’n gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i sicrhau bod y gri i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i gael ei chlywed yn eglur – mewn cerddi fel My Magnolia Tree, enghraifft o’r modd y gall barddoniaeth ysgogi newid arwyddocaol. Meddai: “I mi, ail-gadarnhaodd fy nghyfnod preswyl gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru botensial a grym barddoniaeth i ysgogi newid diwylliannol. Gall barddoniaeth ddyneiddio a chreu empathi, yn arbennig wrth son am bynciau sy’n ymwneud â newid hinsawdd. Mae popeth yn gysylltiedig – allwn ni ddim cael cyfiawnder mewn un maes heb gyfiawnder mewn eraill.” 

 

  • Mae Wil Stewart yn warden ym Mharc Gwledig y Morglawdd yng Nghaergybi, un o’r mannau lle mae Tîm Cefn Gwlad ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddefnyddio’r Ddeddf i gynnig teithiau cerdded fel math o therapi naturiol. Gall cleientiaid gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu lleol eu hunain, neu drwy Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Ynys Môn ac mae Wil, sydd wedi bod yn warden ers 24 mlynedd, yn eu trefnu ar yr un pryd bob wythnos. Dywedodd Wil, “Mae’n braf synhwyro pobl yn cysylltu â byd natur, ac yn aml yn cysylltu â’u hunain, ac i nifer sylweddol o gerddwyr, maen nhw wedi dod yn weithgaredd iach a chyson y maent yn edrych ymlaen ato’n fawr. Rwyf wedi gweld newidiadau arwyddocaol mewn pobl, o’r gŵr bonheddig na wnaeth siarad am wythnosau ar y teithiau cerdded, ond a gafodd ei ysbrydoli’n sydyn gan yr amgylchedd o’i gwmpas i ddyfynnu llinellau o’i hoff gerdd, i’r person sydd wedi dechrau dod yma i eistedd ar fainc yng nghanol byd natur. Mae’r effaith gadarnhaol y mae cerdded yn ei gael ar ein llesiant yn ddigamsyniol ac rwy’n hynod falch o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – mae wedi sancsiynu llesiant pobl ac wedi rhoi cefnogaeth swyddogol i ddod o hyd i ddulliau newydd o helpu pobl i wella eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl.” 

 

  • Mae Indo Zwingina yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a sefydlwyd mewn ymateb i lifogydd sydd wedi achosi difrod ofnadwy i’w thref enedigol, Trefforest, gan gynnwys tyfu llysiau ar dir dan ddŵr. Graddiodd yn ddiweddar o Brifysgol De Cymru gyda gradd Meistr mewn Rheolaeth, fel y gall eiriol dros yr angen i gynnwys cymunedau wrth fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur. Amcangyfrifir bod 245,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd – o ganlyniad i newid hinsawdd a achosir gan allyriadau carbon cynyddol. Mae Indo, a symudodd i Dde Cymru o Nigeria, yn gwirfoddoli yng Ngardd Gymunedol a Choetir Meadow Street, lle mae trigolion yn tyfu llysiau gyda’i gilydd ar y tir a oedd dan ddŵr ger glan yr afon. Dywedodd: “Mae’r llifogydd wedi effeithio ar bawb. Collodd llawer o bobl fusnesau, a thrysorau na all yswiriant eu hadennill. Pan gyrhaeddais, roeddech chi’n gallu gweld llwybrau y daeth y dŵr ar hyd-ddynt – roedd cynhwyswyr dŵr enfawr yn yr ardd gymunedol yn dal i ddangos marciau lefel y dŵr, i fyny yn y cloddiau a’r coed. Mae gwirfoddolwyr yn dal i gasglu sbwriel a gafodd ei adael ar ôl gan y llifogydd. Daeth llifddwr â phlanhigion canclwm i’r ardd gymunedol lle rwy’n gwirfoddoli – mae’n atgof parhaol o’r adeg y cyrhaeddodd y dŵr. Roeddwn i’n gwybod bod angen i ni ysgogi newid, er mwyn yr amgylchedd ac er mwyn pobl. Dechreuais ailgylchu, ac uwchgylchu pethau yn lle eu taflu, a siarad â fy ffrindiau am newid hinsawdd. Rwyf eisiau dysgu sgiliau busnes fel y gallaf fod yn rhan o’r newidiadau yn y ffordd yr ydym yn gwneud pethau. Mae angen i wleidyddion wrando ar bobl er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd – ni allwn wneud y newidiadau sydd eu hangen arnom oni bai bod pob yn ymgysylltu â phobl gan ddeall eu bywydau, deall beth yw realiti iddynt hwy. Ni ellir gorfodi syniadau ar bobl, mae angen iddynt ymwneud â’r hyn y mae cymunedau ei angen ac y gallant ei gyflawni. Mae gwirfoddoli wedi bod yn beth mor gadarnhaol. Rydym yn siarad am y modd y gallwn baratoi ar gyfer mwy o lifogydd. Ni allwn ei atal ond gallwn weithio gyda’n gilydd i helpu i sicrhau bod yr effaith cyn lleied a phosib.’’

 

  • Mae Marten Lewis yn bennaeth Cyfrifoldebau Corfforaethol yng Nghyrchfan Parc Cenedlaethol Bluestone, lle mae wedi helpu i drawsnewid yr hen fferm laeth yn gyrchfan moethus, seiliedig ar natur yn Sir Benfro. 

Mae ei gylch gwaith yn cynnwys lleihau carbon, macsimeiddio bioamrywiaeth, symud tuag at economi cylchol a sero net, a chefnogi’r gymuned, ac mae wedi datblygu rhwydwaith o bartneriaid cymunedol y mae’n gweithio gyda nhw’n rheolaidd i gynyddu arferion moesegol a mynd i’r afael ag allyriadau carbon. 

Ers iddo gael ei agor, mae chwe deg erw o goetir wedi’u plannu, ynghyd â chreu dau lyn newydd fel rhan o brosiect ail-wylltio sy’n adennill dwsinau o erwau o dir pori yn laswelltir naturiol. Un o’r pethau cyntaf a wnaeth Marten oedd creu gwarchodfa natur 20-erw a dôl blodau gwyllt 4-erw, yn ogystal â datblygu prosiectau blychau adar ac ystlumod gydag ysgolion lleol a safle rhyddhau draenogod ar gyfer yr ‘Hogspital’ lleol. 

Mae adroddiad gan Ymddiriedolaeth Natur Caint yn dangos bod Bluestone, ers 2006, wedi cynyddu bioamrywiaeth (cyfoeth y gwahanol anifeiliaid a phlanhigion) a bod eu Cynllun Gweithredu Bywyd Gwyllt ar fin sicrhau dros 50% o Enillion Net Bioamrywiaeth yn y blynyddoedd i ddod. 

Mae hyn yn golygu bod gan ymwelwyr bellach fwy o siawns i ddod ar draws rhywogaethau pwysig fel melyn yr eithin prin, dyfrgwn, y fadfall fudrchwilen; gwenoliaid y glennydd a thylluanod gwynion sy’n magu. Mae’r cynnydd mewn rhywogaethau blodau gwyllt fel tegeirian y gors ddeheuol wedi arwain at ffyniant mewn rhywogaethau o bryfed peillio gan gynnwys ieir bach yr haf a gwenyn, gan arwain at achredu Bluestone fel Busnes Cyfeillgar i Wenyn yn 2021. 

Mae Marten wedi arwain rhaglen ddatgarboneiddio graddfa-fawr ers 2019, sy’n cynnwys cyflenwad trydan gyda chefnogaeth REGO fel bod yr holl ddefnydd yn hafal i ynni o ffynhonnell adnewyddol di-garbon yn y DG, gyda chynlluniau ynni adnewyddol pellach yn cael eu datblygu. Daeth Bluestone y busnes lletygarwch rhanbarthol cyntaf yn y DG i newid i 100% o fio-nwy yn 2021 a, thrwy ddefnyddio biomas yn lle cynnyrch olew i gynhesu Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, mae’n arbed allyriadau o tua 1300 tunnell o CO2e y flwyddyn. 

Ers 2018, mae’r gyrchfan wedi lleihau ei hôl troed carbon ar ynni o 90% ac mae’n gweithio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n nodi uchelgais i greu Cymru sy’n fwy amgylcheddol gydnerth. 

O ran yr economi cylchol, mae Marten a’r tîm yn ailddefnyddio ac yn uwchgylchu adnoddau nas gellir eu defnyddio yn y busnes mwyach. Er enghraifft, mae hen soffas yn cael eu trwsio a’u hailglustogi fel rhan o raglen ddysgu i oedolion bregus yn y gymuned ac wedyn yn cael eu gwerthu, gyda’r elw’n mynd i elusennau yn y sir. 

Mae Bluestone hefyd yn aelod hirsefydlog o Rwydwaith Busnes Cyfrifol Busnes yn y Cymunedau ac mae Marten wedi gweithio gyda’r gymuned a chydweithwyr i fynd â’r sefydliad i achrediad Agoriad Gwyrdd ac yn aelod o’r Fforwm Di-Garbon. 

Dywedodd Marten: “Rwy’n falch i fod ar restr Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100. Rwyf am annog sgwrs sy’n tynnu sylw at gynaliadwyedd a’r pwysigrwydd y mae pob un ohonom yn ei wthio am newid a chadw Cymru ar flaen y gad o ran arloesi yn ystod yr argyfyngau cymdeithasol, hinsawdd a bioamrywiaeth sy’n ein hwynebu fel cymuned fyd-eang.” 

 

ASTUDIAETHAU ACHOS YCHWANEGOL: 

  • Ali Abdi, Rheolwr Partneriaeth Porth Cymunedol gyda Citizens Cymru Wales a Phorth Cymunedol Prifysgol Caerdydd. Mae Ali yn hyrwyddwr cymunedol ac actifydd angerddol. Drwy Citizens Cymru Wales, mae’n grymuso trigolion yn Butetown, Grangetown a’r cyffiniau i ddod yn ddinasyddion ac arweinwyr gweithredol, gan gynnwys drwy ei rôl arweiniol yn natblygiad Pafiliwn Grange. Yn ei rôl wirfoddol gyda Race Council Cymru, mae’n dwyn at ei gilydd grwpiau mawr o bobl ifanc Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i ymgysylltu ag arweinwyr gwleidyddol a Llywodraeth Cymru. 
  • Chris Blake, Cyfarwyddwr a sefydlodd Gymoedd Gwyrdd Cymru a chatalydd ar gyfer y Prosiect Skyline. Mae Chris yn hyrwyddwr perchnogaeth tir cymunedol a phrosiectau ynni adnewyddol.  Cychwynnodd yn Aberhonddu gyda’r Cymoedd Gwyrdd ac wedyn cyflwynodd ‘Project Skyline’ i gymoedd y Rhondda, gan weithio mewn partneriaeth â’r gymuned i goethi cysyniad sy’n cysylltu pobl leol â’u tirwedd drwy ddarparu swyddi, hyfforddiant a buddion iechyd. Fel cyn-aelod o fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, mae gan Chris weledigaeth ffantastig ar gyfer Cymru well. 
  • Cyngor Tref Cricieth.  Mae’r Cyngor Tref wedi bod yn gyfrifol am lawer o weithgareddau i wella’r ardal a chynyddu nifer ymwelwyr.  Datblygodd Gynllun Cymunedol uchelgeisiol, a oedd yn cynnwys gweithgaredd diwylliannol, creu lleoedd a llesiant. Wedi ei ysbrydoli gan gerdd a ysgrifennwyd 90 mlynedd yn ôl am ddigwyddiad dirgel, ffuglennol ar lan y môr, comisiynwyd cerflun cyhoeddus ynghyd â cherddoriaeth a barddoniaeth newydd, digwyddiadau cymunedol, map tref artistig, panelau dehongli treftadaeth ynghyd â llawer o weithgareddau eraill sydd gyda’i gilydd wedi annog cydlyniad cymunedol, wedi cynyddu nifer ymwelwyr a chefnogi masnachwyr lleol ac wedi cynnal morâl y dref drwy’r panedmig a thu hwnt iddo. 
  • Samantha Egelstaff, cyd-sefydlydd Grŵp Gweithredu Llifogydd Llanrwst. Cyd-sefydlodd Samantha, athrawes ac ymgyrchydd Grŵp Gweithredu Llifogydd Llanrwst yn dilyn Storm Ciara yn 2020. Cynhyrchodd y grŵp gerdd bwerus:  Ymgodi o’r Gaeaf/Emerging from Winter, gyda’n Bardd Preswyl, Taylor Edmonds. Wedi ei darllen gan ddisgyblion Ysgol Bro Gwydir, mae’n amlygu effaith ddistrywiol llifogydd ar ein cymunedau a’r ymdrech ar y cyd i’w hamddiffyn. 
  • Datblygodd Amanda Davies, rheolwr gwella gwasanaethau ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Gynllun Lliniaru Tlodi Gwelyau’r bwrdd, gan gyflenwi miloedd o welyau brys Covid-19 oedd dros ben i gartrefi lle’r oedd pobl yn profi tlodi gwelyau. Cafodd gwelyau eu rhoi hefyd i ysbyty plant a gwersylloedd ffoaduriaid ym Moldova ar gyfer pobol Wcrain oedd yn ffoi o’r rhyfel. Yn 2022, sefydlodd hefyd y fferm amaethyddol fwyaf a gefnogir gan y gymuned ar safleoedd bwrdd iechyd yn y DU. Bydd yn darparu llysiau organig fforddiadwy i hyd at 200 o aelwydydd yr wythnos, gyda gwarged yn mynd i fanciau bwyd lleol. Mae Amanda hefyd yn gwella arferion caffael yng nghadwyni cyflenwi’r GIG ac yn integreiddio celf â llesiant cleifion. 
  • Mae Zoey Allen, o Gaerdydd, ‘dynes draws ar genhadaeth i addysgu’ yn rhestru rhai o’r rhesymau y mae’n gweithio’n galed i gynyddu amlygrwydd pobl traws a cwiar fel a ganlyn: y ‘frwydr am ofal iechyd cyfartal a gwell, mynediad cyfartal i gyfleusterau, ac i gael ein trin fel bodau dynol tra byddwn ni allan ac yn symud o gwmpas’. Enwebwyd y dylanwadwr yn ddiweddar ar gyfer Gwobr Amrywiaeth Genedlaethol. 

 

NODIADAU I OLYGYDDION 

I gael y rhestr lawn, i fynychu’r digwyddiad ar Ionawr 24, o 10:00-16:30 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ochr yn ochr â’r ysgogwyr newid, i ofyn am gyfweliad gyda’r comisiynydd neu unrhyw un o Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â claire.rees@futuregenerations.wales.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod rhwymedigaeth ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weithredu nawr ar gyfer dyfodol gwell – a gweithredu mewn ffordd gydgysylltiedig a hirdymor, fel bod gan ffactorau rhyng-gysylltiedig megis tlodi, iechyd, addysg a sgiliau, cyflogaeth, trafnidiaeth, hinsawdd a thai atebion rhyng-gysylltiedig. 

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, weithredu dros Gymru iachach, fwy cyfartal, lewyrchus, amgylcheddol gydnerth; Cymru o gymunedau cydlynol, sy’n gyfrifol yn fyd-eang gyda diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. 

Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.futuregenerations.wales/cy/ 

DIWEDD