Tai
Mae cael cartref o ansawdd da sy’n cwrdd â’n hanghenion yn hollbwysig
Mae’n dylanwadu ar ein llesiant corfforol a meddyliol, ein cymunedau a’r amgylchedd o’n cwmpas. Mae cysylltiad agos rhwng tai o ansawdd gwael ag anghydraddoldeb, tlodi â chyfleoedd bywyd cyfyng. Mae’r adeiladau yr ydym yn byw ynddynt yn bodoli, yn nodweddiadol, am ganrif a mwy, felly, bydd y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud heddiw yn cael effaith fawr iawn ar lesiant cenedlaethau’r dyfodol – yn uniongyrchol ar eu hamodau byw, ac yn fwy eang ar allyriadau carbon Cymru, ein tirwedd, economi a chymunedau.
Mae’r ffocws newydd ar dai yn bodoli ledled y DG, ac yn cael ei yrru gan y cyhoedd, yn ogystal ag arweinyddiaeth wleidyddol. Mae hyn oherwydd yr angen amlwg i ddatgarboneiddio ein cartrefi i gwrdd â thargedau allyriadau. Mae hefyd oherwydd bod prinder tai yn effeithio ar lawer mwy o bobl na chynt – mae anfforddiadwyedd, diffyg tai cymdeithasol, y sector rhentu preifat ansicr a digartrefedd i gyd yn faterion sydd wedi dod yn fwy amlwg, a gellir dadlau eu bod wedi codi oherwydd bod meddwl hirdymor a ffocws ar atal problemau rhag digwydd wedi bod yn absennol neu heb gael ei gyflawni’n effeithiol.
Mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ymrwymo i adeiladu tai ar raddfa eang i fynd i’r afael â phrinder tai.
Fel canlyniad i rannu staff gydag Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru a hefyd gyda Chymdeithas Tai Unedig Cymru, ffocws cychwynnol y Comisiynydd oedd canfod ble gallai gael yr effaith mwyaf – gan gefnogi’r newid tuag at economi gwyrdd carbon-isel a gwaith o ansawdd gwell drwy ddatblygu mentrau Cymreig a chadwyn gyflenwi a fedr ddarparu tai addas ar gyfer y dyfodol.
Fodd bynnag yn 2020, mae Cymru’n dal i adeiladu cartrefi nad ydynt yn cynorthwyo ein targedau allyriadau carbon.
Mae’r gost o gwrdd â datgarboneiddio tai yn sylweddol ond fe fydd yn darparu manteision sylweddol ar draws nifer o nodau llesiant. Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn amcangyfrif bod angen £5biliwn dros gyfnod o 15 mlynedd, ond byddai hyn yn cynhyrchu cynnydd mewn Gwerth Ychwanegol Gros i economi Cymru o £2.3 biliwn, gan arbed oddeutu £67miliwn i’r gwasanaeth iechyd.
Mae digartrefedd hefyd yn parhau i fod y broblem fwyaf arwyddocaol ond mae gan weithgaredd sy’n cael ei gyflawni o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y potensial i atal hyn.
Mae Strategaeth Digartrefedd Llywodraeth Cymru ac adroddiad Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd yn atgyfnerthu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Eisteddodd aelod o’r tîm ar y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd Cymru yn 2019-20.
Dyma rai o’r prosiectau yr ydym wedi gweithio arnynt sy’n ymwneud â thai
-
Tai Carbon Isel
Tai Carbon Isel
Ym mis Tachwedd 2017, cyflwynodd y Comisiynydd ymateb i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar dai carbon-isel, gan fabwysiadu arbenigedd sefydliadau, yn cynnwys Tai Cymunedol Cymru, Ynni Cymunedol Cymru, Rounded Development, Comisiwn Dylunio Cymru, Cartrefi Melin, WWF Cymru, Datblygiadau Un Blaned a SPECIFIC (Prifysgol Abertawe). Argymhellodd y meini prawf cychwynnol canlynol ar gyfer tai sy’n ‘addas ar gyfer y dyfodol’.
– Hyblygrwydd
– Effaith amgylcheddol net-positif
– Amddiffynfa rhag heriau’r dyfodol
– Llesiant cymunedol
– Economi gwyrdd
-
Adolygiad Tai Fforddiadwy
Adolygiad Tai Fforddiadwy
Rydyn ni hefyd yn ceisio dylanwadu ar yr Adolygiad Tai Fforddiadwy a gomisiynwyd gan y Dirprwy Weinidog Tai ac Adfywio, Hannah Blythyn AC.
-
Rhaglen Tai Arloesol
Rhaglen Tai Arloesol
Mae Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhedeg ers 2017 i gynorthwyo datblygiad ymagweddau arloesol tuag at ddarparu tai yng Nghymru. Rydyn ni wedi bod yn cynorthwyo a dylanwadu ar ofynion y grant hon – grant £90 miliwn i ddod â newid i dai yng Nghymru. Mae’r Comisiynydd eisiau sicrhau bod cyfleoedd i gyfrannu i bob un o’r saith nod llesiant yn rhan annatod o’r rhaglen.
-
Datgarboneiddio Cartrefi
Datgarboneiddio Cartrefi
Bydd gwella effeithlonrwydd y stoc dai bresennol yn hollbwysig ar gyfer cyflawni ein targedau allyriadau carbon. Gwnaethom gynorthwyo a dylanwadu ar waith y grŵp Ymgynghorol a arweiniodd at gyhoeddi Gwell Cartrefi, Gwell Cymru, Gwell Byd yng Nghorffennaf 2019 gydag argymhellion allweddol ar gyfer rhaglen ddeng mlynedd i ddatgarboneiddio tai cymunedol erbyn 2030. Byddai hyn yn cyflawni manteision niferus ar draws y nodau llesiant yn cynnwys mynd i’r afael â thlodi, gwell iechyd a chreu swyddi newydd i gynorthwyo’r economi lleol.
Ym mis Mai 2020 cyhoeddais gynllun pum pwynt yn amlygu buddsoddiad i gynorthwyo Adferiad Gwyrdd yn dilyn yr argyfwng Covid presennol. Mae’r cynllun yn cynnwys argymhelliad i:
- Ddatblygu pecyn ysgogiad economaidd sy’n arwain at greu swyddi ac sy’n cynorthwyo datgarboneiddio cartrefi, drwy adeiladu tai fforddiadwy carbon-isel newydd a buddsoddi mewn rhaglen genedlaethol i wella effeithlonrwydd ynni tai presennol.
Isod wele’r meysydd yr wyf yn argymell y dylai holl gyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, ffocysu arnynt:
- Cynyddu’r cyflenwad o’r math iawn o dai fforddiadwy
- Cwrdd â’r her i’r argyfwng tai
- Gweld tai fel gyrrwr llesiant
- Gwella’r modd yr ydym yn cynllunio a dylunio tai
- Datgarboneiddio ein cartrefi.
I ddarllen fy holl dystiolaeth, asesiad, canfyddiadau allweddol a chyngor gweler yr adran ar Dai yn ein gwefan adroddiadau cenedlaethau’r dyfodol ddynodedig.
Ym mis Mehefin 2021, gwnaethom ryddhau ein hadroddiad ‘Cartrefi addas ar gyfer y Dyfodol: Yr Her Ôl-osod’. Pwrpas yr adroddiad yw amcangyfrif cyfanswm y cyllid sydd ei angen ar gyfer datgarboneiddio cartrefi yng Nghymru, nodi bylchau cyllido ac awgrymu dulliau o fynd i’r afael â’r bylchau hyn.