Mae rhoi addysg a’r cyfle i bobl ddatblygu’r set addas o sgiliau ar gyfer y dyfodol yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel ffactor arwyddocaol yn yr hyn sy’n digwydd yn ein bywyd, yn cynnwys, iechyd, amgylchiadau economaidd–gymdeithasol a disgwyliad oes.

Mae’r byd yn newid yn gyflym. Mae goblygiadau pwysig i ddyfodol gwaith, cymuned a llesiant yn deillio o’r newidiadau hyn. Mae angen i ni ymateb yn gadarnhaol i’r newidiadau hyn i sicrhau fod gan bobl y sgiliau iawn ar gyfer Cymru ein dyfodol.

Fel llawer o wledydd, mae Cymru’n wynebu heriau. O argyfwng hinsawdd a natur i dyfu ein diwylliant a’n hiaith, i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, i effaith technoleg a’r newid yn y boblogaeth. Mae addysg a chymwysterau’n hollbwysig ar gyfer gwahanol swyddi yn y dyfodol ac yn bwysig ar gyfer hybu llesiant yn yr oes sydd ohoni.

Mae Cwricwlwm Newydd i Gymru’n rhoi cyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i wneud llesiant yn ganolbwynt ysgolion a dysgu. Mae Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gyfle i helpu pobl Cymru i barhau i ddysgu drwy gydol oes.

Mae yna gyfleoedd i Gymru fod yn rheng flaen economïau sy’n ymddangos megis yr economi digidol a charbon isel, economïau ‘gwyrdd’ y dyfodol. Bydd angen i bob sector gydnabod y setiau gwahanol o sgiliau sydd eu hangen i gwrdd â’n targedau i leihau carbon a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae yna gyfleoedd mewn economi ‘gwyrdd’ a chylchol, gydag ynni adnewyddadwy, llai o wastraff a busnesau mwy cyfrifol. Ond mae’n rhaid i ni weithredu nawr i greu’r llwybrau sgiliau cywir i bobl Cymru fedru manteisio ar hyn.

Ein gwaith yn y maes hwn:

Rwyf wedi bod yn gweithio gyda llawer o bobl ar draws sectorau i ddylanwadu ar y modd y mae’r cwricwlwm yn cael yr adnoddau cywir ac yn cael ei weithredu’n effeithiol gan annog cwricwlwm newydd ar gyfer dysgu ôl-16.

Rwyf yn galw am genhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn golygu dwyn busnes, y sector addysg, cymdeithas ddinesig ac eraill ynghyd i ddarparu sgiliau mewn dull cydlynol. Ar hyn o bryd nid oes cyfatebiaeth rhwng yr hyn y mae pobl yn ei ddysgu a’r hyn sydd ei angen ar gyflogwyr, a’r hyn a fydd ei angen ar ddyfodol Cymru a’r byd. Dylid cyllido’r genhadaeth genedlaethol hon drwy greu Treth Addysg Gymreig, wedi ei hanelu at drawsnewidiad i’r Cwricwlwm newydd i Gymru a darpariaeth ar gyfer dysgu gydol oes.

Yng nghyd-destun adferiad yn dilyn y dirwasgiad economaidd, rwyf yn gweithio gyda’r Llywodraeth a chysylltiadau allweddol eraill i sicrhau adferiad gwyrdd a theg – mae sgiliau ar gyfer dyfodol Cymru yn ganolog i hyn.

Isod wele’r meysydd yr wyf yn eu hargymell y dylai pob corff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru fod yn ffocysu arnynt:

  • Cenhadaeth genedlaethol ar gyfer cyflwyno addysg a dysgu gydol oes. Yr hyn a olygaf wrth ddweud hyn yw bod angen gwell cysylltiad rhwng addysg, busnes, cymdeithas ddinesig a phobl Cymru. Dim on drwy wneud hyn y bydd pobl yn ennill y sgiliau iawn ar gyfer byw bywyd da.
  • Sgiliau’n cael eu gweld fel modd o sbarduno llesiant ehangach.
  • Cynllunio a pharatoi ar gyfer y modd y bydd datblygiadau arloesol technolegol yn newid y ffordd yr ydym yn byw a gweithio.
  • Hyrwyddo’r galw cynyddol am ‘sgiliau meddalach’. 
  • Ail-ystyried cymwysterau a fydd yn adlewyrchu sgiliau ar gyfer y dyfodol.
  • Croesawu dysgu gydol oes fel y norm newydd.
  • Sicrhau bod ein system addysg a’n system sgiliau’n hyblyg i wynebu newid demograffig a’i bod yn gweithio i bawb. 
  • Cymryd mantais o’r diwydiannau newydd amgylcheddol yng Nghymru.

I weld fy holl dystiolaeth, asesiad, canfyddiadau allweddol a chyngor os gwelwch yn dda gweler yr adran ar Sgiliau yn yr Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.

Useful Resources