Mae dulliau newydd o gynllunio trafnidiaeth a symudedd yng Nghymru’n hanfodol ar gyfer cyflawni’r nodau llesiant. Mae symudedd yn rhan bwysig o fywyd pawb. Os llwyddwn i wneud hyn yn iawn ar gyfer ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, byddwn yn gwneud y peth iawn i bawb, gan gael effaith cadarnhaol ar ein gallu i leihau llygredd aer a chwrdd â thargedau lleihau carbon.

Bydd cyflawni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi dewisiadau teithio sy’n garbon isel neu’n ddi-garbon, gan leihau llygredd aer a hybu cydnerthedd amgylcheddol. Bydd hefyd yn helpu i greu cyfleoedd cyfartal i bawb a chwarae rôl mewn cynorthwyo ffyrdd iach o fyw, gwella cydlyniad cymundol a chreu Cymru â chysylltiadau da. 

Yn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020, mae’r meysydd yr wyf yn argymell y dylai pob corff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru ffocysu arnynt, yn cynnwys:

  • Rhaid i benderfyniadau ar drafnidiaeth adlewyrchu’r argyfwng hinsawdd
  • Cyflawni newid moddol a lleihau ein dibyniaeth ar geir.
  • Croesawu technoleg
  • Ystyried symudedd fel llwybr tuag at lesiant ehangach

I weld fy holl dystiolaeth, asesiad, casgliadau allweddol a chyngor, os gwelwch yn dda gweler yr adran ar Drafnidiaeth yn ein gwefan adroddiadau cenedlaethau’r dyfodol ddynodedig.

 “Mae o ddiddordeb i ni i gyd ac yn ddyletswydd arnom i sicrhau nad yw manteision symudedd yr ydyn ni bellach yn eu cymryd yn ganiataol, yn rhoi baich annioddefol ar ein hamgylchedd.” Elliot Morley

Mae trafnidiaeth wedi bod yn faes ffocws ers 2017. Dyma rai o’r prosiectau yr ydyn ni wedi bod yn gweithio arnynt sy’n ymwneud â thrafnidiaeth.

  • Adroddiad Trafnidiaeth Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol
    Adroddiad Trafnidiaeth Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

    Mae’r Adroddiad Trafnidiaeth Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn 2018 yn dangos sut y gallai Cymru drawsnewid ei system drafnidiaeth drwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol a sicrhau bod holl gyfnodau Metro De Cymru’n cael eu cyflawni gyda’r £1.4bn a glustnodwyd ar gyfer Ffordd Ddu’r M4. 

    Mae ‘Trafnidiaeth Addas ar gyfer y Dyfodol’ a ysgrifennwyd mewn partneriaeth â Chanolfan Trafnidiaeth a Chymdeithas (CTS), Prifysgol Gorllewin Lloegr, Sustrans a’r New Economic Foundation yn dangos, gydag enghreifftiau ymarferol, sut y gallai system drafnidiaeth gynaliadwy gael ei dylunio ar gyfer unrhyw ran o Gymru.

    Mae’r adroddiad yn amlygu bod llywodraethau olynol, a’r cyrff sy’n eu cynghori, er gwaethaf y corff mawr a chyson o dystiolaeth, wedi dewis anghofio neu wadu bod ffyrdd newydd yn cynhyrchu mwy o draffig yn annibynnol o’r newid sy’n deillio o’r twf mewn poblogaeth neu’r economi. 

    Os yr ydym yn dewis gwario’r fath swm mawr o arian cyhoeddus ar brosiect, mae angen i ni fod yn sicr bod yr arian yr ydym yn ei fenthyca’n cyfrannu’n gadarnhaol i lesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol cenedlaethau’r dyfodol. 

    Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn cyfiawnhau yn glir achos rhesymol dros adolygu ac ail- werthuso cynnig Ffordd Ddu’r M4 Llywodraeth Cymru.

    Gorolwg o ganfyddiadau ac argymhellion: 

    Mae yna gyfyngiadau i’r modelu yr ymgymerwyd ag ef gan Lywodraeth Cymru.

    • Byddai’r Ffordd Ddu yn gwaethygu llawer o’r heriau cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu Cymru. 
    • Mae’r Ffordd Ddu yn wan ar y meini prawf a nodir yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

     Ystadegau: 

    • Bydd adeiladu’r Ffordd Ddu yn arwain at allyriad o’r hyn sy’n gyfwerth â 500,000+ o garbon diocsid na fydd yn cael ei symud o’r atmosffer tan o leiaf 2071.
    • Roedd 24% o gartrefi Cymru heb fod yn berchen ar eu car eu hunain yn 2011/12
    • Byddai ehangu’r rhaglen fuddsoddi mewn Teithio Llesol i holl Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn costio oddeutu £290 miliwn ond byddai’n arwain at fuddion economaidd o £2.5 bn. dros gyfnod o 20 mlynedd, gan gyflawni cynnydd o 19% ac 82% (yn y drefn honno) mewn teithiau cerdded a beicio.
    • Gellid cyflwyno lefel tebyg o gynnydd ledled Cymru gyda buddsoddiad o £600m, gan gyflawni buddion o £5bn dros gyfnod o 20 mlynedd. 

    Adroddiadau ein partneriaid 

    Prifysgol Gorllewin Lloegr (UWE) – Senarios trafnidiaeth amgen ar gyfer De Ddwyrain Cymru: Adeiladu ar gyfer dyfodol trafnidiaeth gynaliadwy 

    NEF – Dewisiadau Trafnidiaeth Amgen i Dde Cymru. 

    Sustrans – Buddsoddi mewn teithio llesol yn Ne Ddwyrain Cymru

    Cyd-destun polisi ar gyfer buddsoddi mewn teithio llesol yn Ne Cymru 

  • Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG)
    Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG)

    Cysylltodd tîm trafnidiaeth Llywodraeth Cymru â’r Comisiynydd yn 2017 i gynghori ar eu diweddariad arfaethedig o Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG), ac i sicrhau bod y Ddeddf yn rhan annatod o’u canllawiau yn hytrach nag wedi ei chyflwyno fel nodyn atodol (fel y rhagwelwyd ar y cychwyn). O ganlyniad i’n cyngor a’n cymorth, roedd y WelTAG newydd a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017 yn hynod wahanol, gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ganolog a blaenllaw. Mae’r canllawiau newydd bellach yn nodi’n glir:

     “Mae wedi cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi mewn ffordd sy’n sicrhau ei fod yn macsimeiddio cyfraniad i lesiant Cymru, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac i gyflawni gweledigaeth y Ddeddf o’r Gymru a garem”. Dywed hefyd bod “WelTAG wedi ei ddiwygio i sicrhau ei fod yn gallu gyrru’r newid cadarnhaol hwn ac arloesedd yng Nghymru, i sicrhau cyfraniad i’r saith nod llesiant cenedlaethol ac ymgorffori ysbryd y Ddeddf.”

    Mae’r canllawiau newydd hyn yn cynrychioli newid cyfundrefnol arwyddocaol yn y modd y mae cyrff cyhoeddus yn mynd ati i wneud pethau, ac mae wedi dylanwadu ar eraill i newid eu hymddygiad ymarferol. Mae’n annog pobl i feddwl tu hwnt i ddatrysiadau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ffyrdd yn unig ac yn pwysleisio’r angen i ystyried materion ehangach fel mynediad cyfartal, iechyd, ansawdd aer, hybu teithio llesol a lleihau allyriadau carbon pan fyddant yn ffurfio eu barn drwy gydol y broses hyd at gyfnod gwerthusiad y prosiect.

    Dair mlynedd yn ddiweddarach, mae yna waith i’w wneud o hyd mewn perthynas â gweithredu’r Canllawiau newydd yn y ffordd a fwriadwyd, i sicrhau bod yr holl gyfleoedd ar gyfer ystyried datrysiadau mwy arloesol yn cael eu canfod a’u darparu gan holl gyrff cyhoeddus Cymru. 

  • Strategaeth Trafnidiaeth Cymru
    Strategaeth Trafnidiaeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ysgrifennu strategaeth drafnidiaeth genedlaethol newydd i Gymru, gan fod yr un bresennol yn dyddio’n ôl i 2008. Mae fy nhîm yn gweithio’n agos gyda swyddogion trafnidiaeth i sicrhau bod eu gweledigaeth a’u blaenoriaethau’n unol â’r Ddeddf. Bydd drafft yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ym mis Tachwedd ac fe fydd y strategaeth derfynol yn cael ei mabwysiadu’r flwyddyn nesaf (2021). 

  • M4 a’r Comisiwn Trafnidiaeth newydd
    M4 a’r Comisiwn Trafnidiaeth newydd

    Gan weithredu fel gwarcheidwad cenedlaethau’r dyfodol a hybu’r egwyddor datblygu cynaliadwy fel y caiff ei diffinio yn y Ddeddf, cyflwynodd y Comisiynydd dystiolaeth bellach, yn dilyn tystiolaeth ysgrifenedig gychwynnol i’r ymchwiliad cyhoeddus yr M4 yn 2017. Yn ei chyngor i Lywodraeth Cymru  a’i chyflwyniad i’r ymchwiliad cyhoeddus cwestiynodd y modd yr oedd y Ddeddf yn cael ei hystyried mewn penderfyniad cyfredol ar yr M4, gan ofyn a oedd y penderfyniad i fenthyca dros £2biliwn yn iawn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Roedd y Comisiynydd yn awyddus i osgoi sefydlu cynsail peryglus drwy herio’r dadleuon a gyflwynir yn yr ymchwiliad M4 a allai, yn ei barn, arwain at gamddehongli Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a thanseilio ei hysbryd a’i phwrpas.  

    Dangosodd y penderfyniad i beidio symud ymlaen â ffordd osgoi arfaethedig yr M4 yn 2019 arweinyddiaeth arwyddocaol a chanfyddiad calonogol o’r angen am weithredu ar frys i leihau allyriadau cysylltiedig â thrafnidiaeth yn ogystal ag amddiffyn cynefinoedd gwerthfawr Gwastadeddau Gwent. Dros y 12 mis diwethaf mae fy nhîm wedi bod yn gweithio gyda’r Comisiwn Trafnidaeth De Ddwyrain Cymru sydd newydd ei ffurfio, i ddylanwadu ar gynigion amgen sy’n cael eu datblygu i fynd i’r afael â thagfeydd o gwmpas Casnewydd. 

  • Trafnidiaeth Cymru
    Trafnidiaeth Cymru

    Mae’r Comisiynydd yn croesawu ymagwedd gadarnhaol Trafnidiaeth Cymru a’u parodrwydd i weithio gydag eraill i ganfod arfer gorau o fannau eraill, ac i fabwysiadu’n wirfoddol y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu gwaith.

    Yn dilyn penodiad gweithredydd rheilffyrdd newydd (Keolis Amey) yn 2018, bydd y Comisiynydd yn parhau i gynorthwyo a herio Trafnidiaeth Cymru ac yn cynorthwyo’r gweithredydd newydd i sicrhau eu bod yn manteisio ar bob cyfle posibl i gyfrannu i’r saith nod lleisant.

    Cawsom ein calonogi gan y modelu a wnaethpwyd gan Keolis Amey, fel rhan o’u cais, o’r modd y byddant yn cynnwys y 7 nod llesiant yn eu darpariaeth.

    Fwy o wybodaeth am waith Trafnidiaeth Cymru ar y Ddeddf gweler yma. 

Enghreifftiau o arfer da 

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld nifer o fentrau, yng Nghymru a thu hwnt, sy’n cynorthwyo uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae llawer o’r rhain yn cael eu hamlygu yn fy adroddiad diweddar, yn cynnwys: 

  • Siarter Teithio IachMabwysiadwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg, ac fe’i llofnodwyd gan dros 20 o brif sefydliadau’r sector cyhoeddus, yn cynnwys fy swyddfa, gan ein hymrwymo i gynorthwyo cerdded, beicio, trafnidiaeth gyhoeddus a’r defnydd o gerbydau allyriadau isel-iawn. Mae yna gynlluniau i ehangu hyn ledled Cymru yn ogystal ag i sectorau eraill. 
  • Yn Sir Fynwy, lle mae gan unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol effaith arwyddocaol ar iechyd a llesiant pobl, a lle mae diffyg trafnidiaeth hefyd yn cyfyngu ar allu pobl i gyrchu hyfforddiant a chyflogaeth, mae’r Cyngor wedi gweithio gyda Gwasanaethau Digidol y Llywodraeth i ddod o hyd i ddatrysiad arloesol i fynd i’r afael â’r mater hwn.
  • Mae llawer o gyrff cyhoeddus wedi symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydan ac yn gweithio mewn partneriaeth i wella capasiti gwefru Cerbydau Trydan.
  • Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud teithio ar eu gwasanaethau’n rhad ac am ddim i weithwyr hanfodol fel rhan o’u hymateb i bandemig COVID-19.
  • Mae llawer o awdurdodau lleol, yn cynnwys Caerdydd a Sir Gaerfyrddin wedi cymryd camau tuag at flaenoriaethu gofod ar gyfer cerddwyr a beicwyr mewn ymateb i’r pandemig diweddar, i gynorthwo adferiad economaidd.
  • Yn Helsinki, Y Ffindir, mae trigolion yn defnyddio ap o’r enw Whim, sy’n cael ei gydnabod fel gwasanaeth Symudedd cynta’r byd, gan gynnig cynllunio a thalu am bob math o gludiant cyhoeddus a phreifat yn y ddinas – boed mewn trên, tacsi, bws, rhannu ceir, neu rannu beic. Mae’n defnyddio technoleg i gyfuno moddau o drafnidiaeth didor. Mae Llywodraeth y DG yn edrych ar MaaS mewn manylder, ac mae Whim wedi cael ei lansio yng Nghanolbarth Gorllewin Lloegr. 

Useful Resources