Mae’r pandemig COVID wedi tynnu sylw at heriau newydd i bobl Cymru. Mae wedi effeithio ar iechyd a llesiant unigolion a chymunedau ac wedi effeithio ar feysydd ehangach megis y modd yr ydym yn gweithio ac argaeledd swyddi. Ni fu cyfartaledd fodd bynnag yn y modd y cafodd y rhain eu teimlo.

Y rhai oedd eisoes yn byw gydag iechyd gwael, mewn tlodi neu mewn cymunedau ymylol sydd wedi cael eu taro waethaf. Mae wedi amlygu’r anghydraddoldebau y gwyddom eu bod yn bodoli yn ein cymunedau ymhell cyn i’r pandemig gyrraedd – ac mae’r rhain wedi cael eu gwaethygu ymhellach fel canlyniad i’r niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol a ddaeth yn sgil y pandemig.

Ein gobaith yw harneisio’r cynnydd hwn mewn ymwybyddiaeth wrth fynd i’r afael â’r problemau gydag egni newydd. Mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn cymryd camau i ragweld siociau’r dyfodol a sut y gallent effeithio ar wahanol grwpiau. Dyna pan yr ydyn ni wedi uno â Iechyd Cyhoeddus Cymru i edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd a allai ein hwynebu yn y dyfodol wrth i ni greu Cymru fwy cyfartal.

Mae’r ymchwil, a wnaethpwyd gan Dr Sara Macbride-Stewart a Dr Alison Parken yn dadansoddi effaith y newidiadau ym myd gwaith, hinsawdd a newid demograffig ar anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli.

Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod math gwahanol o ddyfodol yn cael ei ystyried wrth i ni weithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru ac mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi i ni gwmpawd i deithio drwy a thu hwnt i’r pandemig presennol i greu Cymru iachach a mwy cynaliadwy na’r Gymru sydd ohoni heddiw. Rhaid i ni afael yn y cyfleoedd i greu ar garlam ddulliau newydd o weithio a allai ein dwyn ni tuag at Gymru fwy cyfartal, osgoi gwneud penderfyniadau anfwriadol a allai ddwysau anghydraddoldeb, a bod yn barod i weithredu nawr i liniaru tueddiadau’r dyfodol a allai wneud pethau’n waeth.

Darllenwch ein crynodeb, adroddiad llawn a fersiynau hygyrch eraill o’r adroddiad isod.

Gallwch hefyd glywed sut mae aelodau’r gymuned yn Llanrwst yn profi effeithiau newid yn yr hinsawdd trwy lifogydd yn y gerdd ‘Ymgodi o’r Gaeaf’.