Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn casglu astudiaethau achos da o’r modd y mae’r Ddeddf yn cael ei gweithredu ar lawr gwlad ar draws Cymru.

Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos beth mae’r Ddeddf yn ceisio’i gyflawni ar lefel Cymru-gyfan a gobeithiwn y byddant yn ysbrydoli eraill i ddilyn.

Rydyn ni’n siŵr fod yna weithredu arall gwych gan gymunedau, cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill ac rydyn ni’n annog pobl i gysylltu â ni ar contactus@futuregenerations.wales os yr ydynt eisiau rhannu enghreifftiau gyda ni.

  • Amgueddfa Cymru - ehangu ymgysylltiad â phobl ifanc
    Amgueddfa Cymru - ehangu ymgysylltiad â phobl ifanc

     

    Cychwynnodd ennyn ymgyfraniad pobl ifanc ym mhob agwedd ar waith Amgueddfa Cymru fel dull o gynorthwyo a datblygu sgiliau a chreadigrwydd, a oedd yn un o’i hamcanion llesiant. Yn awr, cyfrifir eu hymgyfraniad fel rhywbeth hanfodol ar gyfer creu amgueddfa fwy cyfartal sy’n berthnasol i fywydau pobl ifanc, yn awr ac yn y dyfodol.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Iechyd a diwylliant
    Iechyd a diwylliant

     

    Mae diwylliant – gweithgaredd corfforol, ond hefyd celf a pherfformio – yn fecanwaith pwerus ar gyfer cynnal iechyd da ac atal salwch. Mae llawer o gyrff cyhoeddus yn cydnabod hyn a llawer wedi darganfod ffordd i’w integreiddio i’w hamcanion llesiant. Gellir gweld cydweithredu rhwng cyrff diwylliannol a chyrff iechyd ledled Cymru.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Pobl yn rhoi ffurf ar eu cymunedau i’r dyfodol
    Pobl yn rhoi ffurf ar eu cymunedau i’r dyfodol

     

    Bannau Brycheiniog yw 835 mi² o dir mwyaf cyfoethog o ran harddwch ac adnoddau naturiol yng Nghymru. Er gwaethaf harddwch naturiol y tir, nodweddir y parc cenedlaethol yn ogystal gan gysylltiadau cysylltedd gwael ac anghyfartaledd iechyd. Mae’r awdurdod cynllunio sy’n gwasanaethu’r 33,500 o bobl sy’n byw ym Mannau Brycheiniog wedi dewis mynd i’r afael â’r heriau hyn mewn dull integredig drwy gyfrwng eu Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, a fydd yn seiliedig o gwmpas cysyniad y gymdogaeth 20 munud. Er mwyn sicrhau fod pobl yn cael eu cynnwys yn y dasg o gynllunio’u lleoedd ar gyfer y dyfodol, mae’r awdurdod cynllunio wedi ymgymryd â dulliau ac ymarferion ymgysylltu lluosog. Bydd y gwaith hwn yn helpu i gwrdd â sawl un o nodau llesiant Bannau Brycheiniog, ac mae’n cyfrannu at nodau llesiant cenedlaethol lluosog.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Newid Modd Trafnidiaeth Caerdydd
    Newid Modd Trafnidiaeth Caerdydd

     

    Y mae gordewdra, llygredd aer a dagfeydd ymhlith heriau mwyaf arwyddocaol Caerdydd. Mae Cyngor Caerdydd wedi dewis mynd i’r afael â’r heriau hyn mewn ffordd integredig trwy eu hamcan llesiant ‘Caerdydd yn tyfu mewn ffordd gydnerth’. Fel rhan o hynny, maen nhw wedi dewis ‘arwain trawsnewidiad yn system drafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd, ochr yn ochr â hyrwyddo dulliau trafnidiaeth mwy llesol’. Mae eu hymdrechion i hyrwyddo teithio llesol a chreu newid moddol mewn trafnidiaeth wedi cael eu hintegreiddio â gwaith ar iechyd. Mae’r gwaith hwn hefyd yn helpu i fynd i’r afael â llygredd aer y ddinas a phroblemau tagfeydd ac mae’n cyfrannu at rai o amcanion llesiant eraill y Cyngor.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Amgueddfeydd lleol yn gwella llesiant
    Amgueddfeydd lleol yn gwella llesiant

     

    Gall anghydraddoldebau effeithio ar y ffordd y mae gwahanol grwpiau yn cyrchu ac yn rhyngweithio â diwylliant yn wahanol ac mae llawer yn dal i deimlo eu bod wedi’u heithrio o ofodau sy’n anhygyrch neu’n cael eu hystyried yn ‘ddiwylliant uchel’. Dyna pam mae gwaith amgueddfeydd lleol, sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r gymuned mor bwysig ar gyfer cyflawni’r weledigaeth a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae amgueddfeydd bach a mawr ledled Cymru yn cymryd camau i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal. Maent yn defnyddio cyfrwng diwylliant i gyfrannu at bob un o’r nodau llesiant cenedlaethol at amcanion llesiant eu hawdurdod lleol.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Dull Abertawe o ymdrin â thai
    Dull Abertawe o ymdrin â thai

     

    Mae COVID-19 wedi sbarduno gweithredu ar frys i daclo digartrefedd ledled Cymru. Daeth Cyngor Abertawe o hyd i gartrefi hirdymor i gannoedd o bobl yn ystod y pandemig, a’u bwriad yw adeiladu ar y gwaith hwn ar ôl cyfnod COVID-19. Maen nhw wedi dewis cyfuno’r gwaith hwn gyda’u gwaith ym maes allyriadau carbon a thlodi tanwydd, gan fynd i’r afael â’r holl faterion llosg hyn mewn dull holistig drwy gyfrwng eu nodau llesiant. Mae technoleg effeithlonrwydd ynni’n cael ei integreiddio mewn prosiectau tai fforddiadwy. Mae gwaith ychwanegol yn digwydd ym maes gwella iechyd meddyliol a chorfforol preswylwyr, gan gyfrannu yn ei dro i nodau llesiant lluosog.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Ailddarganfod ein cymoedd
    Ailddarganfod ein cymoedd

     

    Mae’r Cymoedd yn ardal gyfoethog mewn asedau naturiol ac ysbryd cymunedol, ond mae’r nodwedd hon wedi cael ei chuddio’n gyson gan ei threftadaeth ddiwydiannol a’r amddifadedd a ddaeth yn ei sgil. Mae menter Parc Rhanbarthol y Cymoedd, a sefydlwyd gan Dasglu’r Cymoedd, yn dathlu tirwedd helaeth a hardd y Cymoedd trwy gyfuno natur ag ysbryd cymunedol a datblygiad economaidd. Gan ddefnyddio’r dirwedd naturiol i addysgu pobl am faterion hinsawdd, tra’n sicrhau bod bywoliaethau’n cael eu cynnal a bod sgiliau’n cael eu haddysgu ledled yr ardal, mae’r prosiect wedi helpu’r rhai hynny ar lawr gwlad yng Nghymru i feddwl yn yr hirdymor, cydweithredu â rhanddeiliaid ac ennyn ymgyfraniad cymunedau i fanteisio i’r eithaf ar y dirwedd Gymreig unigryw a gwerthfawr.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Gwneud y gorau o lesiant trwy wario
    Gwneud y gorau o lesiant trwy wario

     

    Mae arnom angen ffordd well o fesur sut mae caffael yn cyflawni canlyniadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae TOMs Cymru Themâu, Canlyniadau a Mesurau Cenedlaethol yn set o fesuriadau y cytunwyd arnynt i’w cynnwys mewn contractau caffael sy’n ymgorffori’r mesurau pecyn cymorth Buddion Cymunedol presennol, ond sydd hefyd yn darparu cyfleoedd ychwanegol i gyflawni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r offeryn TOMs yn ystyried y cylch caffael cyfan, gan gynnwys comisiynu, rheoli contractau a chysylltiadau cadwyn gyflenwi. Defnyddir y nodau llesiant ar gyfer 7 thema’r pecyn cymorth ac mae’r 35 canlyniad yn seiliedig ar y penawdau o fewn Teithiau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i’r nodau. Mae lle hefyd i sefydliadau ystyried sut y gall canlyniadau caffael gyfrannu at eu hamcanion llesiant.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Cefnogi cymunedau creadigol
    Cefnogi cymunedau creadigol

     

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Addewid Llawrydd fel rhan o’r Gronfa Adfer Diwylliant. Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at nifer o amcanion llesiant Llywodraeth Cymru. Ei nod yw integreiddio diwylliant â dimensiynau eraill llesiant, trwy baru gweithwyr llawrydd (pobl greadigol ac artistiaid) â chyrff cyhoeddus neu Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau creadigol a diwylliannol i fynd i’r afael â materion cymdeithasol, mynd i’r afael ag amcanion llesiant a gweithredu wrth adeiladu yn ôl yn well. Gallai hyn helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer Incwm Cyfranogiad Creadigol a / neu ddull Incwm Sylfaenol Cyffredinol.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Gwneud cysylltiadau i wella cynaliadwyedd amgylcheddol yn Ysbyty Gwynedd
    Gwneud cysylltiadau i wella cynaliadwyedd amgylcheddol yn Ysbyty Gwynedd

     

    Newid yn yr hinsawdd yw bygythiad iechyd byd-eang mwyaf y ganrif hon. Pe bai’r sector gofal iechyd byd-eang yn wlad hi fyddai’r pumed allyrrydd mwyaf o nwyon tŷ gwydr. Yn 2019, ymunodd meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol yn Ysbyty Gwynedd i ffurfio Grŵp Gwyrdd, gan geisio adleoli eu llw i ‘wneud dim niwed’ yng nghyd-destun iechyd planedol – llesiant bodau dynol ynghyd â’r systemau naturiol y maent yn dibynnu arno. Eu nod oedd creu platfform cefnogol ar gyfer trafodaeth a gweithredu ynghylch cynaliadwyedd; lle gallai aelodau rannu a datblygu gwybodaeth, meithrin sgiliau, a rhagweld prosiectau cynaliadwyedd lleol yn yr ysbyty a thu hwnt.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Mwy nag Ailgylchu: ein llwybr tuag at economi gylchol
    Mwy nag Ailgylchu: ein llwybr tuag at economi gylchol

     

    Mae cadw adnoddau mewn defnydd, osgoi gwastraff a symud tuag at economi gylchol yn mynd law yn llaw ag ymdrechion Cymru i gyrraedd sero-net erbyn 2050. Mae cyfraddau ailgylchu Cymru o flaen y mwyafrif o wledydd eraill ac erbyn hyn mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cynllun newydd, uchelgeisiol sy’n mynd y tu hwnt i ailgylchu, sy’n canolbwyntio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn anelu at sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl i bob un o bedwar dimensiwn llesiant trwy gamau gweithredu beiddgar ac arloesol. Bydd cyflwyno’r cynllun hwn yn dibynnu ar weithredu cydweithredol ac integredig gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, busnesau a chymunedau a gallwn eisoes weld gweithredu arloesol ac ysbrydoledig yn digwydd ar lawr gwlad.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Adnewyddu Cartrefi, Adeiladu Dyfodol
    Adnewyddu Cartrefi, Adeiladu Dyfodol

     

    Nod y Fenter Effaith Cymunedol (Cii) yw adfywio cymunedau trwy adnewyddu cartrefi gwag. Fel cwmni budd cymunedol, mae Cii yn prynu eiddo gwag sydd wedi dirywio ac yn goruchwylio eu hadfer trwy gynnwys a hyfforddi gweithlu o bobl leol. Yn aml, cyfranogwyr y prosiect yw’r rhai pellaf o’r farchnad lafur, gyda llawer wedi wynebu rhwystrau i gyflogaeth fel afiechyd meddwl, digartrefedd, cam-drin domestig a dibyniaeth ar sylweddau. Mae prosiectau adeiladu Cii yn cynnig cyfle i’r unigolion hyn ddysgu a thyfu a gwneud cyfraniadau ystyrlon i gymdeithas. Trwy gydol y prosiect ac wedi hynny, rhoddir cefnogaeth iddynt wella eu hiechyd a’u llesiant, magu eu hyder a’u hunan-barch, dysgu sgiliau newydd, cyflawni cymwysterau, a gwneud gwelliannau bywyd cadarnhaol. Yn y cyfamser, dychwelir cartrefi gwag i’r farchnad dai mewn modd ecogyfeillgar ac ynni-effeithlon.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Caerdydd a’r Fro yn gwella bioamrywiaeth
    Caerdydd a’r Fro yn gwella bioamrywiaeth

     

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gweithio i gynyddu bioamrywiaeth a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur trwy eu hystad, tra hefyd yn gwella iechyd meddwl a llesiant eu staff, cleifion a’r gymuned. O ddatblygu mannau arloesol fel Ein Dôl Iechyd ar ei safle yn Ysbyty Athrofaol Llandochau lle maent yn cyd-weithredu â phartneriaid i sefydlu parc iechyd cymunedol ecolegol a fydd yn gwella bioamrywiaeth ac yn helpu i ailgysylltu pobl â natur; i’w hunedau Gofal Critigol yn plannu coed i wrthbwyso carbon, a chlinigwyr yn lleihau allyriadau trwy’r gadwyn gyflenwi, i drefnu cynhadledd Iechyd Gwyrdd i annog eraill i gymryd rhan yn y gwaith hwn, maent yn dod o hyd i ffyrdd newydd a beiddgar o fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu ein cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol a chyfrannu at weledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd
    Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd

     

    Yn dilyn y tanau gwyllt a’r llifogydd dinistriol a gafwyd yng Ngwent dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, daeth yn amlwg y byddai angen ffyrdd newydd ac arloesol o weithio er mwyn i gynllun Gweithredu Hinsawdd fod yn llwyddiannus. Mae rhwydwaith Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd, casgliad o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwent dan oruchwyliaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi bod yn rhannu arfer da ac yn gweithio gyda’i gilydd i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Gan weithio ar y cyd mae’r rhwydwaith wedi darparu hyfforddiant llythrennedd carbon i 220 o unigolion, wedi helpu i hwyluso Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent lle gall aelodau bleidleisio ar argymhellion ar gyfer gweithredu yn yr hinsawdd sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus, ac wedi cyflwyno 62 o bwyntiau gwefru Cerbydau Trydan ar draws Gwent.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.

  • Amddiffyn llesiant diffoddwyr tân
    Amddiffyn llesiant diffoddwyr tân

     

    Disgwylir i ddiffoddwyr tân modern gadw pobl yn ddiogel ac amddiffyn eu cymunedau. Weithiau mae hyn yn golygu eu bod hwy eu hunain yn cael eu gosod mewn sefyllfaoedd peryglus gan ddod yn dystion i drychinebau yn eu hymdrechion i ateb disgwyliadau’r cyhoedd i gael eu gwarchod. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gyda thema strategol sy’n eu hymrwymo i ‘Werthfawrogi Ein Pobl, wedi cymryd camau mawr ymlaen i sicrhau eu bod hwy eu hunain, tra’u bod yn ein hamddiffyn ni, hefyd yn cael eu hamddiffyn rhag problemau meddyliol a chorfforol niweidiol sy’n rhan o’u gwaith. I gynorthwyo staff a hybu llesiant diffoddwyr tân, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi dylunio a chreu ‘Ardaloedd Llesiant’ gyda’r unig fwriad o sicrhau bod gan ddiffoddwyr tân le diogel, sefydlog a chadarnhaol i siarad yn agored â chydweithwyr am y sefyllfaoedd peryglus â’r potensial o fod yn drawmatig a wynebir ganddynt.

    Darllenwch yr astudiaeth achos lawn yma.