Fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, mae gennyf y dasg o sicrhau bod ein cyrff cyhoeddus yn gweithredu heddiw er mwyn yfory.

Rydym yn byw mewn cyfnod heriol lle mae’r pwysau a’r galwadau gwirioneddol iawn i helpu cymunedau i oroesi storm ar flaen meddyliau pawb. Mae ymyriadau i atal argyfwng rhag gwaethygu yn bwysig ond mae’n rhaid i’n gweithredoedd mewn ymateb i’r argyfwng costau byw helpu ein cymunedau presennol, tra hefyd yn atal argyfyngau fel hyn rhag dod i’r wyneb eto yn y dyfodol.

Yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa unigryw a phwerus i wneud newid gwirioneddol i gymunedau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Oherwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym eisoes ar y trywydd iawn, ac mae ystyried cenedlaethau’r dyfodol wrth wneud penderfyniadau yn dod yn ail natur. Nawr, mae angen i ni ddod at ein gilydd ac ehangu ein gorwelion i wneud yn siŵr ein bod yn amddiffyn ein cymunedau rhag profi’r math hwn o argyfwng, i’r graddau hyn, eto.

Mae’n amlwg y bydd y sefyllfa economaidd ledled y DU a’r gostyngiad llym iawn yn y cyllid sydd ar gael yn gwneud buddsoddiadau newydd ar gyfer y dyfodol yn hynod o anodd i Lywodraeth Cymru wrth iddi geisio diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, y mae llawer ohonynt yn ataliol yn eu hanfod ac yn bwysig i lesiant hirdymor cymunedau Cymreig.

Ond mae’n amlwg hefyd, yn wyneb argyfwng, y gall Llywodraeth Cymru a’u partneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol ac undebau llafur gydweithio i ddod o hyd i atebion arloesol. Roedd y dull Cymreig o weithio mewn partneriaeth a chydweithio yn hanfodol yn ystod pandemig COVID-19. Gallwn ymateb i ddarparu atebion cysylltiedig eto sy’n mynd y tu hwnt i ddim ond rhoi plastr glynu ar yr argyfwng costau byw.

Mae pwysigrwydd cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn hollbwysig. Mae anghydraddoldebau yn dyfnhau, gydag effaith anghymesur yr argyfwng costau byw ar fenywod, pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig, ymfudwyr, pobl hŷn a phobl anabl. Rhaid i unrhyw gamau y mae’r llywodraeth yn penderfynu eu cymryd gynnwys y rhai sy’n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng.

Mae’r papur hwn yn nodi nifer o feysydd polisi a allai ysgogi buddion hirdymor lluosog i nodau llesiant Cymru, tra hefyd yn helpu teuluoedd sy’n wynebu pwysau costau byw enfawr yn y tymor byr a’r tymor canolig. Dylid eu hystyried wrth i’r Llywodraeth ac eraill fframio eu hymateb i’r argyfwng costau byw.