Mae Cymunedau a Newid Hinsawdd mewn Cymru Dyfodol yn archwilio sut mae rhai cymunedau yn teimlo am effeithiau newid yn yr hinsawdd, a sut y gallai’r effeithiau hyn waethygu anghydraddoldebau presennol.

Cynlluniwyd y prosiect ar y cyd, ac roedd yn cynnwys cyfranogwyr mewn meddwl am yr hir dymor am hinsawdd ac anghydraddoldebau, ystyried pa broblemau y gallai fod angen eu hatal, ac integreiddio’r canfyddiadau ag astudiaethau a phrosiectau eraill yn y maes.

Mae’r adroddiadau nid yn unig yn cynnwys canfyddiadau’r gwaith hwn, ond maent hefyd yn darparu adnoddau i lunwyr polisi weithredu technegau dydodolau creadigol tebyg er mwyn cynnwys cymunedau mewn meddwl hirndymor.

Cynhyrchwyd y llyfr stori gan FLiNT o dan Gytundeb Partneriaeth rhwng FLiNT a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ac mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.