Crëwyd Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol ar Graffu i gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau yng nghyd-destun y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i feddwl mewn dull newydd am y modd y mae’n gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflawni yng Nghymru. Rhaid i gyrff cyhoeddus weithio mewn ffordd sy’n gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Cyfres o awgrymiadau yw’r fframwaith a fedrai helpu unrhyw un sy’n awyddus i ofyn cwestiynau am y modd y cafodd penderfyniad ei wneud – aelod o’r cyhoedd,  y cyfryngau, rheolwr, swyddogion etholedig ac aelodau bwrdd.

Diolch yn fawr i bawb sydd eisoes wedi’n helpu i ffurfio a rhoi prawf ar y fframwaith hwn.

Rydyn ni’n awyddus i’r Fframwaith fod mor ddefnyddiol â phosib, a buasem yn croesawu eich adborth, yn arbennig ar y canlynol:

  • Pa mor ddefnyddiol yw’r Fframwaith? A wnaeth eich helpu i ddeall a defnyddio’r Ddeddf?
  • A yw’r cynnwys yn iawn? A yw wedi cwmpasu popeth neu a oes rhywbeth ar goll?
  • A yw’n rhy hir neu’n rhy dechnegol?
  • A fedrwn ei wneud yn fyrrach? Os felly beth fedrwn/ddylwn ni ei ddileu?
  • A yw’r iaith yn hawdd ei deall neu’n rhy gymhleth mewn mannau? A oes angen symleiddio’r iaith?
  • A wnaeth eich helpu i feddwl yn wahanol am eich prosiect/menter?
  • A ydych yn defnyddio unrhyw ddulliau eraill o weithio i gynorthwyo’ch gwaith ar y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol? Os felly, a yw ein fframwaith yn eu hategu?
  • Sut fedrai’r Fframwaith gyd-fynd â “methodoleg rheoli’r prosiect” sy’n bodoli eisoes a’u hategu? (rydyn ni’n awyddus i osgoi dyblygu a biwrocratiaeth)?

Os yr ydych wedi darllen neu ddefnyddio’r Fframwaith, os gwelwch yn dda anfonwch eich adborth atom drwy gyfrwng contactus@futuregenerations.wales