O ystyried yr heriau digynsail rydym wedi’u hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf am gydnabod yr ymrwymiad y mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’i ddangos wrth gydweithio i baratoi eu hasesiadau llesiant ar gyfer 2022. 

Mae’n amlwg o ddadansoddiad fy nhîm bod cynnydd yn y wybodaeth a’r awydd gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddeall a mynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu yng Nghymru. Er enghraifft, mae BGCau yn dangos gwell dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd a natur ac yn cydnabod yr angen i gynyddu eu huchelgais. Ac mae rhywfaint o’r cydweithio rwy’n ei weld yn tawelu fy meddwl, yn enwedig lle mae dulliau rhanbarthol yn cael eu mabwysiadu mewn ardaloedd fel Gogledd Cymru, Gorllewin Cymru a Gwent. 

 

Mewnbwn fy swyddfa i asesiadau llesiant BGC 

Darparodd fy swyddfa adborth unigol i’r 14 BGC ar eu hasesiadau drafft, yn unol â’m dyletswyddau statudol fel Comisiynydd. Digwyddodd hyn rhwng Ionawr ac Ebrill 2022. Gallwch ddod o hyd i fanylion y broses hon yma.

Er nad oes unrhyw ofyniad statudol na gofyn i’m swyddfa ddarparu dadansoddiad neu drosolwg cyffredinol, mae fy nhîm wedi paratoi dau grynodeb byr yn amlinellu rhai o’r themâu allweddol a ganfuwyd wrth adolygu asesiadau llesiant drafft 2022. 

Nid yw’r gwaith hwn yn gyflawn, ac ni fwriedir iddo ychwaith ddarparu dadansoddiad manwl o’r themâu a’r pynciau lluosog a archwiliwyd gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn hytrach, bwriad y ddau adroddiad byr yw rhoi trosolwg lefel uchel, defnyddiol o rai o’r cryfderau a’r heriau allweddol a welsom drwy ein dadansoddiad. 

Gallwch ddarllen yr adroddiadau cryno a’u canfyddiadau isod:

 

Sut mae asesiadau llesiant yn cael eu defnyddio: 

Mae asesiadau llesiant yn arwyddocaol oherwydd dyma’r sylfaen i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (a sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill) weithio gyda’i gilydd i gytuno ar y camau gweithredu sydd eu hangen i wella llesiant mewn ardaloedd lleol ledled Cymru. Mae’r cam gweithredu hwn wedyn yn cael ei nodi mewn cynllun llesiant, a disgwylir i’r iteriad nesaf gael ei gyhoeddi gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Mai 2023.  

Cytuno ar y gweithredu ar y cyd hwn yw’r cam nesaf i BGCau. Ynghyd â Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, bydd fy swyddfa’n gweithio’n agos gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i helpu i sicrhau bod yr amcanion a’r camau y maent yn eu datblygu yn briodol ac yn uchelgeisiol i helpu i wella llesiant ac ysgogi newid ledled Cymru.