Bydd canllaw newydd a hwylus yn helpu cyrff cyhoeddus i feddwl a chynllunio'n well ar gyfer yr hirdymor, drwy gadw gweledigaeth glir ac ystyried tueddiadau'r dyfodol.

Mae’r Pecyn Cymorth Tri Gorwel wedi’i ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i helpu cyrff cyhoeddus i osgoi gwneud penderfyniadau nad ydynt yn sefyll prawf amser. Mae’n seiliedig ar fodel a ddatblygwyd gan Bill Sharpe a’r Fforwm Dyfodol Rhyngwladol.