Paratowyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Mai 2020

Mae’r pandemig Covid-19 wedi amlygu anghydraddoldebau strwythurol dwfn yn ein heconomi a’n cymdeithas, yn cynnwys tlodi cyflog, anghydraddoldebau iechyd, gwahaniaethau hiliol, tlodi bwyd, ansicrwydd swyddi ac anghydbwysedd yn ansawdd tai. Ar yr un pryd mae dirywiad yn ein hinsawdd a’n hecoleg yn cynyddu, ac rydyn ni mewn perygl o ddwysáu’r heriau hyn i gyd os wnawn ni ddychwelyd i’r hen ffordd o fyw.

Mae adferiad Cymru o’r pandemig yn gyfle i weithredu newid acadeiladu nôl yn well yn y dyfodol, a bydd y modd y mae Llywodraeth Cymru’n dyrannu ei chyllideb yn anfon negeseuon pwysig ynghylch a ydym yn manteisio ar y cyfle hwn. Mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi Cyllideb Atodol yr wythnos hon, a fydd yn amlinellu sut y caiff cyllid ei ddyrannu ar gyfer parhau i gynorthwyo ystod o wasanaethau yn ystod yr argyfwng, ond a fydd hefyd yn nodi llwybr tuag at adferiad yn yr hirdymor drwy adeiladu system economaidd sy’n mynd i’r afael ar y cyd â’r argyfwng iechyd presennol, yr argyfwng economaidd a sbardunwyd gan y pandemig, ac argyfyngau parhaus hinsawdd a natur 

Mae hwn yn gyfle sy’n digwydd unwaith mewn cenhedlaeth i wneud iawn am fethiannau’r gorffennol ac mae angen i ni feddwl yn eofn, yn gydweithrdol, ac yn gynhwysol gyda dewrder gwleidyddol a buddsoddiad a fydd yn mynd i’r afael â’r adferiad tymor byr a’r heriau tymor hwy megis y newid yn yr hinsawdd a cholli natur, yn ogystal â gosod Cymru mewn sefyllfa i ymateb i’r dulliau newydd o fyw a gweithio mewn ffordd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb. O fewn y paramedrau hyn ac wrth ymroi i gyflawni dyheadau eang Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol dylai Cyllideb Atodol arfaethedig y Llywodraeth ac unrhyw gyllidebau yn y dyfodol fuddosddi yn y meysydd canlynol 

  1. Datblygu pecyn ysgogi economaidd sy’n arwain at greu swyddi ac sy’n cynorthwyo datgarboneiddio cartrefi, drwy adeiladu tai newydd carbon isel fforddiadwy a buddsoddi mewn rhaglen genedlaethol i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol 
  2. Buddsoddi mewn gwell dulliau o gysylltu a symud pobl, drwy wella cysylltedd digidol, teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus 
  3. Buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant i gynorthwyo’r trawsnewid i well dyfodol, gan greu swyddi newydd gwyrddach.
  4. Buddsoddi mewn natur a rhoi blaenoriaeth i ariannu a chymorth gradda fawr i adferiad cynefinoedd a bywyd gwyllt, creu a chysylltedd ledled Gymruyn cynnwys ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd naturiol, gweithredu’r goedwig genedlaethol newydd a sicrhau bod rheoli defnydd tir ac amaeth yn cynorthwyo sicrhad cadwyni bwyd lleol a dosbarthu. 
  5. Buddsoddi yn niwydiannau a thechnolegau’r dyfodol, a chynorthwyo busnesau, a fydd yn helpu Cymru i arwain y chwyldro carbon isel a chloi cyfoeth a swyddi mewn ardaloedd lleol gyda buddsoddiad yn yr economi sylfaenol. 
  • Cyfle i ailosod
    Cyfle i ailosod

    Mae ein heconomi cyn-Covid 19, a oedd yn rhoi blaenoriaeth i dwf economaidd, wedi gorfodi llawer o bobl i mewn i dlodi, ac yn ei dro wedi creu poblogaeth afiach sy’n arbennig o agored i niwed adeg argyfwng fel pandemig. Fel y nodwyd yn adroddiad y WWF ‘Risky Business’, mae ein hymagwedd tuag at ddatblygiad economaidd hefyd wedi achosi diraddiad amgylcheddol ar raddfa fawr sydd wedi cael effaith arwyddocaol ar lesiant pobl, ac mae tystiolaeth yn awgrymu mai’r gorddefnydd hwn o adnoddau a’r symud i mewn i fannau naturiol fel coedwigoedd, o bosib, yw’r hyn sydd wedi achosi coronafeirws 

    Mae gan Gymru’r cyfle i arwain y ffordd at ddyfodol seiliedig ar lesiant, gan ddefnyddio ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol unigryw fel fframwaith. Nid wyf yn tanamcangyfrif cymhlethdod y cyd-destun presennol ar gyfer Llywodraeth Cymru: heb amheuaeth bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd am sut i ail-flaenoriaethu adnoddau a oedd eisoes o dan bwysau cyn y pandemig 

    Mae’n anoddach i Gymru na llawer o fannau eraill, oherwydd y cyfraddau breguswydd uwch ym mhoblogaeth Cymru, a hefyd y cyfyngiadau ariannol a wynebir gan y Llywodraeth, yn arbennig y cyfyngiadau ar fenthyca a materion yn ymwneud â’r fformiwla Barnett. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru’n ceisio mwy o hyblygrwydd oddi wrth Lywodraeth y DU mewn perthynas â’r defnydd o gyllid 

    Yn y cyd-destun heriol iawn hwn rwy’n annog Gweinidogion i weithredu’n feiddgar er mwyn creu gwell dyfodol gan ddefnyddio ymagwedd tuag at ysgogiad economaidd sy’n cynorthwyo swyddi gwyrdd ac sy’n mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Mesurau sy’n canolbwyntio ar ansawdd bywyd yn hytrach na’r economi a Chynnyrch Domestig Gros ddylai fod y ffocws. Rhennir yr agwedd hon gan y cyhoedd, wrth i arolwg barn diweddar ddarganfod bod mwyafrif sylweddol o’r cyhoedd yn dymuno gweld gweinidogion yn ffocysu’n fwy ar wella iechyd a llesiant nag ar dwf economaidd yn ystod yr argyfwng, a hefyd wrth i ni edrych tuag at adferiad 

    Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei haelodaeth swyddogol yn ddiweddar o bartneriaeth Llywodraethau Economi Lles (WEGo) ac yn gobeithio y bydd gweithio gyda chenhedloedd blaengar eraill, gan gynnwys Seland Newydd, y Ffindir, Gwlad yr Iâ a’r Alban, yn helpu’r Llywodraeth i ddefnyddio ein deddfwriaeth i wneud penderfyniadau buddsoddi beiddgar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

  • Sicrhau bod mesurau ymateb i argyfwng tymor byr yn sicrhau llesiant
    Sicrhau bod mesurau ymateb i argyfwng tymor byr yn sicrhau llesiant

    Bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu’n gyflym i leddfu effaith yr argyfwng ar gymunedau, swyddi a’r economi. Rwy’n cydnabod y gwaith pwysig y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud wrth ailddyrannu cyllid yn gyflym i sicrhau bod gan y GIG yr arian sydd ei angen arno, gan sicrhau bod anghenion sylfaenol y cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael eu diwallu, a chefnogi gofal cymdeithasol rheng flaen. Mewn rhai meysydd, megis cynllun cadw swyddi sylfaenol y DU a gweinyddu Credyd Cynhwysol, mae ymreolaeth Cymru’n gyfyngedig. Fodd bynnag, fel y cofnodwyd yn eang, mae llawer o unigolion yn cwympo trwy’r craciau yn y cynlluniau hyn. Mae dadansoddiad New Economics Foundation yn tynnu sylw at y ffaith bod menywod, pobl ifanc, gweithwyr nad ydynt yn wyn a rhentwyr mewn perygl arbennig. Yng ngoleuni hyn, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gynnal dadansoddiad gofalus i nodi grwpiau agored i niwed a dylunio mesurau cymorth tymor byr wedi’u hanelu at amddiffyn eu llesiant. 

    Mae busnesau yng Nghymru hefyd yn wynebu sawl her uniongyrchol, ac maent yn cael eu peryglu gan ddiffygion yng Nghynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes Llywodraeth y DU – maes lle mae ymreolaeth Cymru eto’n gyfyngedig. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio plygio rhai o’r bylchau hyn gyda chefnogaeth ychwanegol i fusnesau ar ffurf ei Chronfa Cadernid Economaidd ei hun, a chronfa gyda Banc Datblygu Cymru. Her allweddol yr argyfwng presennol yw ymateb yn gyflym, ond hefyd ymgorffori meini prawf mewn cymorth brys a fydd yn sicrhau ei fod yn cyfrannu at les ehangach. Mae enghreifftiau sylfaenol o hyn yn cynnwys penderfyniad diweddar Banc Lloegr i osod, wrth gefnogi busnesau mawr, gyfyngiadau ar ddifidendau cyfranddalwyr a chyflog gweithrediaeth, a phenderfyniad Llywodraeth Ffrainc i osod amodau hinsawdd ar fenthyciadau i gwmïnau hedfan.  

    Yn wahanol i unrhyw wlad arall yn y byd rydym ni yng Nghymru yn ffodus i gael fframwaith, ar ffurf Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a all helpu i lywio penderfyniadau o’r fath. 

    Yn ddiweddar, rwyf wedi cyhoeddi fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf sy’n nodi ystod o syniadau ac argymhellion ar gyfer y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill a dylent drwytho ymateb i’r argyfwng a fydd yn amddiffyn cymdeithas yn well yn yr hirdymor. Argymhelliad allweddol oedd i Lywodraeth Cymru: 

    • Ddangos sut maen nhw’n defnyddio economeg llesiant yn eu holl bolisi, yn eu trefniadau cyllido a’u rhyngweithio â’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn cyflawni dyheadau’r Ddeddf i weld dosbarthu cyfoeth, iechyd a llesiant yn deg, tra’n amddiffyn adnoddau’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a rhywogaethau eraill.

    Buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gefnogaeth y mae’n ei chynnig yn cyd-fynd â’r Ddeddf, ac mae fy swyddfa’n barod i gynnig cymorth yn hyn o beth. 

  • Buddsoddi i ‘adeiladu nôl yn well’ yn y tymor canolig i'r tymor hir
    Buddsoddi i ‘adeiladu nôl yn well’ yn y tymor canolig i'r tymor hir

    Wrth edrych y tu hwnt i’r mesurau cyfyngiant argyfwng uniongyrchol, mae Cymru’n wynebu her a chyfle i sicrhau adferiad economaidd effeithiol. Gadawyd etifeddiaeth chwerw gan y penderfyniad a gymerwyd gan lywodraethau yn dilyn chwalfa ariannol fyd-eang 2007/08 i ffafrio polisïau cyni a thoriadau treth yn hytrach na buddsoddi mewn cymdeithas fwy cynaliadwy a mwy cyfartal. Mae anghydraddoldeb wedi trechu tra bo gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd wedi stopio. Disgrifiwyd yr ymagwedd hon gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol  mewn adroddiad i’r Cenhedloedd Unedig fel un â “chanlyniadau cymdeithasol trasig”. Rhaid inni ddysgu gwersi’r cyfnod hwn a mabwysiadu ymateb gwahanol i’r argyfwng newydd hwn. 

    Mae adroddiad diweddar gan y New Economics Foundation (NEF), sy’n asesu gwahanol ymatebion posibl i ddirwasgiad economaidd, yn galw am becyn ysgogi gwyrdd i gyflymu trawsnewidiad i garbon isel. Mae NEF yn amlygu’r angen am drawsnewidiad wedi’i gynllunio’n dda, ar gyfer y rhai sydd wedi colli eu swyddi, y gellir eu galluogi trwy raglenni gan y Llywodraeth i fuddsoddi mewn prosiectau sydd â photensial uchel i greu swyddi gwyrdd. Dangosir bod gan lawer o feysydd sy’n allweddol i’r trawsnewidiad i ddim carbon hefyd botensial sylweddol i roi hwb i’r economi’n dilyn cyfyngiadau symud – mae’r rhain yn cynnwys inswleiddio cartrefi, buddsoddi mewn ynni glân, gwresogi a chludiant carbon isel, plannu coed, adfer cynefinoedd a mawndiroedd ynghyd â ffocws parhaus ar sgiliau a dysgu gydol oes. 

    Bydd rhaglenni o’r fath hefyd yn cynhyrchu cyd-fanteision ehangach i gymdeithas a natur ac yn adeiladu’r sylfeini ar gyfer twf cynaliadwy hirdymor. Yn sail i’r galwadau hyn mae consensws cynyddol ymhlith economegwyr blaenllaw y tu mewn a’r tu allan i’r llywodraeth a banciau canolog, ar effeithiolrwydd pecynnau adfer cyllidol gwyrdd, ac ar y meysydd buddsoddi ffocal a fydd yn cynhyrchu’r enillion cymdeithasol gorau. 

    Mae clymblaid fyd-eang o fwy na 300 o grwpiau sy’n ymgyrchu dros newid yn yr hinsawdd wedi annog llywodraethau i ddefnyddio unrhyw becynnau achub economaidd coronafirws i helpu i gyflymu’r trawsnewid i ddyfodol carbon isel. Mae arwyddion y bydd llywodraethau’n ymateb. Mae deg o wledydd yr UE eisiau gweld mwy o fuddsoddiad i gefnogi ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gynaliadwy, effeithlonrwydd ynni a chamau eraill i gefnogi nod Bargen Werdd yr UE i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050.  

    Un o argymhellion allweddol fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol diweddar yw i Lywodraeth Cymru nodi cynllun buddsoddi hirdymor ar gyfer y  modd y byddant yn ariannu’r argyfwng hinsawdd ac yn cefnogi ymrwymiadau a thargedau mwy uchelgeisiol ar gyfer sectorau sydd o fewn eu rheolaeth. 

    Mae llawer o wledydd Ewropeaidd eisoes yn chwilio am gyfleoedd i ail-lunio polisi, yn ogystal â sut y bydd pobl yn byw ac yn gweithio mewn byd sydd wedi’i newid gan coronafirws. Ond mewn llawer o achosion, dinasoedd a rhanbarthau sy’n arwain y ffordd gydag ymatebion arloesol ac uchelgeisiol. 

    • Mae Milan yn trawsnewid 35km anhygoel o strydoeddsydd yn y gorffennol wedi cael eu dominyddu gan geir a llygredd – a fydd, yn y dyfodol, yn barth lle gall pobl gerdded a reidio beiciau’n ddiogel. Mae cynlluniau tebyg yn cael eu cyflwyno yn Berlin, Dulyn ac mewn mannau eraill 
    • Mae Dinas Amsterdam yn mabwysiadu’r cysyniad o “Doughnut Economics i ailfeddwl sut y gellir cadw cydbwysedd rhwng y ddinas a’r blaned yn dilyn cyfyngiadau symud gyda ffocws ar fwyd da, aer glân a dŵr, tai a glanweithdra priodol, ynni cynaliadwy, addysg a gofal iechyd, cydraddoldeb rhywiol, ac incwm a chynrychiolaeth wleidyddol 
    • Mae Sbaen, gwlad arall sy’n dioddef yn wael o effeithiau coronafirws, yn cyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol y mis hwn, fel yr wyf wedi galw amdano yn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol diweddar, ac mae Seland Newydd yn edrych ar botensial wythnos waith fyrrach i hybu cynhyrchiant a gwella cydbwysedd gwaith/bywyd. 
  • Pum blaenoriaeth buddsoddi i ailosod yr economi
    Pum blaenoriaeth buddsoddi i ailosod yr economi

    Bydd y Gyllideb Atodol yr wythnos hon gan Lywodraeth Cymru’n nodi’r llwybr tuag at adferiad yn y tymor canolig i’r tymor hwy, ac mae’n bwysig bod buddsoddiad yn mynd i’r afael, ar y cyd, â’r argyfwng iechyd presennol, yr argyfwng economaidd y mae’r pandemig wedi’i sbarduno ac argyfyngau parhaus yr hinsawdd a natur.

    Rwy’n awyddus i weithio gyda phartneriaid a sefydliadau i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu ymateb i’r argyfwng a fydd yn gosod camau ar gyfer dyfodol gwell. Y cam cyntaf yw buddsoddi mewn dulliau allweddol o gyflawni newid, ac yn y papur hwn amlinellaf rai syniadau cychwynnol yr wyf yn bwriadu eu datblygu ymhellach yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, mewn cydweithrediad ag eraill. 

    Mae angen i’r Llywodraeth ystyried ystod o fesurau dros y misoedd nesaf wrth iddi ddatblygu ei chynllun adfer COVID-19. Fodd bynnag, dylai blaenoriaethau buddsoddi ar frys ganolbwyntio ar:

     

    1) Datblygu pecyn ysgogi economaidd sy’n arwain at greu swyddi ac sy’n cefnogi datgarboneiddio cartrefi, trwy adeiladu tai newydd fforddiadwy carbon isel a buddsoddi mewn rhaglen genedlaethol i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol. 

    Ar hyn o bryd mae tai yn cyfrif am 9% o gyfanswm yr allyriadau yng Nghymru, er bod yr 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru’n gyfrifol am 27% o’r holl ynni a ddefnyddir a thua chwarter yr holl allyriadau yn y DU. Mae datgarboneiddio ein cartrefi yn her ac yn gyfle. 

    Mae adroddiad annibynnol ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru wedi galw am ymrwymiad hirdymor i raglen datgarboneiddio preswyl, gan ganolbwyntio i ddechrau ar gartrefi mewn perchnogaeth gymdeithasol a’r 12% o gartrefi mewn tlodi tanwydd. Gallai’r gost amcangyfrifedig fod rhwng £0.5 biliwn ac £1 biliwn y flwyddyn am y 10 mlynedd nesaf, fodd bynnag mae’r manteision i iechyd pobl a’r amgylchedd yn sylweddol yn ogystal â’r cannoedd o swyddi newydd sy’n cael eu creu, a’r sicrhad bod ein cartrefi’n addas ar gyfer y dyfodol. 

    Galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu pecyn ysgogi economaidd sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio ein cartrefi, gan sicrhau bod seilwaith gwyrdd a datrysiadau sy’n seiliedig ar natur hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o hyn. Mae fy nghynllun 10 pwynt ar gyfer ariannu’r argyfwng hinsawdd yn 2019, a fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol diweddar wedi awgrymu: 

    • Y dylai pob cartref ac adeilad cyhoeddus newydd a godir yng Nghymru fod yn ddi-garbon o 2020 – gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o’r Rhaglen Tai Arloesol 3 blynedd ddiweddar, gwerth £90 miliwn, ac sydd angen cyllid parhaus o £30 miliwn y flwyddyn. Fel rhan o hyn, dylai Llywodraeth Cymru roi’r gorau i ddarparu cyllid i unrhyw raglenni neu ddatblygiadau tai newydd nad ydynt o leiaf yn garbon-niwtral.
    • Y dylid cynorthwyo rhaglen genedlaethol ôl-osod tai – gan ganolbwyntio i ddechrau ar y ffaith y gall pobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd a’r rhai mewn perchnogaeth gymdeithasol gostio hyd at £1 biliwn y flwyddyn, gyda £ 300 miliwn, awgrymir, oddi wrth Lywodraeth Cymru. Amcangyfrifodd prosiect ‘Re-energising Wales’ yr IWA fod angen buddsoddiad o £5 biliwn dros 15 mlynedd ond byddai’n cynhyrchu cynnydd o £2.2 biliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros i economi Cymru, ac arbedion o tua £350 y cartref ac oddeutu £67 miliwn mewn arbedion i’r gwasanaeth iechyd.
    • Mae Canada wedi addo benthyciadau di-log o hyd at $40,000 i berchnogion tai i osod datrysiadau ynni glanach a mwy effeithlon, fel paneli solar a gwell ffenestri ac mae’r Glymblaid Gyllideb Werdd wedi ysgrifennu at y llywodraeth yn gofyn iddynt sicrhau bod yr argyfwng hinsawdd byd-eang a cholli bioamrywiaeth yn parhau yn flaenoriaeth drwyddi draw wrth gynllunio’r broses adfer.
    • Dylai fod yn ofynnol i bob adeilad a ariennir yn gyhoeddus fod yn garbon-niwtral: trwy ddiwygio’r rheoliadau adeiladu ar frys (Rhan L a Rhan F) a gorfodi safonau adeiladu a seilwaith llymach i sicrhau nad ydym yn adeiladu “hen” ysgolion newydd, ysbytai a seilwaith arall a fyddai’n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd ac a fyddai’n anaddas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
    • Dylai fod yn ofynnol i bob datblygiad tai a ariennir yn gyhoeddus fod yn garbon-niwtral gan ddangos sut y maent yn cyflawni gofynion ehangach Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
    • Dylid diweddaru gofynion Ansawdd Dylunio i adlewyrchu’r dyfodol yn nhermau cartrefi clyfar a thechnoleg byw a gynorthwyir.

     

    2) Buddsoddi mewn gwell ffyrdd o gysylltu a symud pobl trwy wella cysylltedd digidol, teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus. 

    Mae’r pandemig wedi newid dros nos y ffordd y mae pobl yn byw, gweithio a dysgu ac, er ei fod yn heriol i lawer, mae wedi dangos pa mor gyflym y gallwn addasu i’r gwahanol amgylchiadau hyn. Mae cyfyngiadau ar ein gallu i deithio wedi golygu bod technoleg ddigidol a chysylltedd wedi ennill eu plwyf. Rydyn ni hefyd wedi gweld gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau carbon a gwell ansawdd aer mewn dinasoedd ledled y byd.  

    Mae llawer o ddinasoedd eisoes yn edrych ar sut y gallant wella lleoedd i ddinasyddion, gan gynnwys Milan, Berlin, Dulyn a Newcastle, a’u gwneud yn fwy diogel i bobl gerdded a beicio i gael mynediad i gyflogaeth, siopau a gwasanaethau sylfaenol. Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ariannu mesurau tebyg a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru ac rwy’n croesawu’r ymrwymiad ariannol pellach o £25 miliwn i wella teithio llesol. Yn ogystal ag ystyried sut mae pobl yn teithio i’w gweithleoedd mae cyfle arwyddocaol i ddylanwadu ar sut mae ein plant yn teithio i ysgolion, gan ddarparu mynediad i lwybrau mwy diogel i gerdded a beicio. 

    Amlygwyd lleihau cyfraddau gordewdra hefyd fel blaenoriaeth ar gyfer gwella iechyd y boblogaeth, yn enwedig gan fod tystiolaeth yn awgrymu bod pobl ordew mewn llawer mwy o berygl o ddioddef coronafirws a marw ohono. Mae ffyrdd o fyw yn y cartref yn arwain at lai o weithgaredd corfforol, felly bydd cyfleoedd ar gyfer teithio llesol o’r pwys pennaf ar gyfer gostwng cyfraddau gordewdra Cymru. 

    Ni ddylem fod yn edrych ar faterion trafnidiaeth ar wahân, ac wrth inni ddod allan o’r argyfwng presennol mae’n rhaid i ni achub ar bob cyfle i ystyried sut fedrwn ni ddatblygu dulliau gwell o ailgysylltu pobl a chymunedau. Bydd cadw pellter cymdeithasol yn dod yn rhan normal o’n bywydau, o leiaf yn y dyfodol rhagweladwy, ac mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o wneud hyn mewn modd sy’n galluogi datblygu lleoedd mwy gwyrdd lle gall busnesau lleol ffynnu gyda chymorth cymunedau cydlynol.

    Heb os, bydd buddsoddiad a mynediad i gysylltedd digidol yn flaenoriaeth allweddol yn ystod adferiad a hefyd yn yr hirdymor gan y bydd y llwyfannau hyn yn caniatáu i bobl barhau i weithio a rhyngweithio gyda’i gilydd heb yr angen i deithio. Mae gwasanaethau digidol yn dod yn fwy pwysig, o gyfarfodydd rhithwir i ffatrïoedd awtomataidd i ddosbarthu drwy gyfrwng drôn, ac mae sefydliadau digidol-hyblyg yn addasu i’r argyfwng yn gyflymach ac yn fwy llwyddiannus. 

    Mabwysiadodd Polisi Cynllunio Cymru 10 (2018) hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy gyda’r bwriad o leihau’r angen i deithio fel man cychwyn, a phan fydd angen i bobl deithio,  rhoi mwy o flaenoriaeth i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus na cherbydau modur preifat, ac rwy’n croesawu’r ffocws ar fuddsoddi’n unol â’r hierarchaeth hon yn y strategaeth drafnidiaeth genedlaethol sydd ar ddod. 

    Mae’r argyfwng hwn hefyd yn rhoi cyfle i ailfeddwl sut mae gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu darparu ledled Cymru – mae angen i’r Llywodraeth edrych ar ystod o ymagweddau arloesol sy’n gweithio i wahanol gymunedau, gyda datrysiadau mwy hyblyg megis symudedd fel gwasanaeth, neu fysiau Galw’r Gyrrwr a allai gynnig atebion mwy cost-effeithiol i rai ardaloedd.

    Gwnaeth fy nghynllun 10 pwynt ar gyfer ariannu’r argyfwng hinsawdd yn 2019, a fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol diweddar awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru: 

    • Osod targed cenedlaethol ar gyfer newid moddol i alluogi pobl i fabwysiadu dulliau carbon isel o deithio dros y degawd nesaf. Dylid cysylltu’r targed â’r cerrig milltir a ddatblygwyd i gynorthwyo’r dangosyddion cenedlaethol 
    • Newcastle yw’r ddinas ddiweddaraf i ddadorchuddio mesurau pandemig i newid cynllun ffyrdd i reoli cerbydau modur trwy leihau nifer mannau parcio, cyflwyno llwybrau beicio dros dro, lledu palmentydd a darparu mwy o strydoedd 20 mya. Mae Cyngor y Ddinas yn edrych ar sut y gellir newid rhwydweithiau trafnidiaeth ledled y ddinas i ateb y galw cynyddol am leoedd i gerdded a beicio. Yn y tymor hwy, mae Newcastle hefyd yn ystyried ardoll parcio yn y gweithle a chodi tâl am ddefnyddio ffyrdd gan gynnwys cerbydau allyriadau isel iawn a gallai eu cynlluniau helpu i gyflawni uchelgeisiau tymor hwy i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth lanach a gwyrddach sy’n annog teithio mwy llesol a gostyngiad mewn siwrneiau ceir 
    • Cynyddu buddsoddiad ar gyfer teithio llesol – dylid dyrannu o leiaf 10% o’r gyllideb  drafnidiaeth (20% o’r gyllideb gyfalaf) ar gyfer ariannu seilwaith cerdded a beicio (dyraniad o £60 miliwn yng nghyllideb 2020/21 y cytunwyd arno ym mis Mawrth). Dylid ystyried cynorthwyo cyflwyno e-feiciau a sgwteri.
    • Gweithio gydag awdurdodau lleol a busnesau i gymell gweithio gartref ac amrywio amseroedd cychwyn a gorffen gweithio i leihau’r angen i deithio, y galw am drafnidiaeth gyhoeddus a thagfeydd ar ffyrdd.
    • Cynyddu cyllid ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus gan ddyrannu o leiaf 50% o wariant cyfalaf trafnidiaeth i wella gwasanaethau bysiau a threnau a defnyddio technoleg yn ôl y galw i ddiwygio’r cynnig trafnidiaeth gyhoeddus a galluogi  gwell cynllunio ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.
    • Annog pobl i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel – mae angen oddeutu £295 miliwn hyd at 2030 (tua £30 miliwn y flwyddyn) y gellid ei gyflawni drwy gyfuniad o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat.
    • Sicrhau fod gan bawb yng Nghymru fynediad i gysylltedd digidol a rhyngrwyd dibynadwy, gan weithio gyda sefydliadau busnes a gwirfoddol i gyflawni hyn.

     

    3) Buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant i gynorthwyo’r trawsnewid i well dyfodol gan greu swyddi gwyrddach. 

    Gellid colli mwy na 6.5 miliwn o swyddi oherwydd y dirywiad economaidd yn sgil cyfyngiadau symud coronafirws y DU, yn ôl ymchwil newydd gan y Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd ym Mhrifysgol Essex. Mae’n rhybuddio y byddai hyn yn cyfateb i oddeutu chwarter cyfanswm swyddi’r DU, gyda mwy na hanner y swyddi mewn rhai sectorau’n cael eu colli. Mae newidiadau i’r ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio, a’r angen i ddatgarboneiddio, yn golygu efallai na fydd llawer o’r swyddi hyn yn dychwelyd. Ar yr un pryd mae yna gyfle i hadu diwydiannau’r dyfodol a chreu swyddi newydd o ansawdd uchel sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd. 

    Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni feddwl yn hollol wahanol am y sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac mae’r argyfwng presennol yn ei gwneud yn ofynnol i ni ymateb i natur newidiol ein gweithlu nawr ac yn y tymor hwy. Bydd y trawsnewid i economi a chymdeithas carbon isel yn gofyn am ailhyfforddi ystod o bobl fel bod ganddyn nhw’r sgiliau sydd eu hangen i greu a chynorthwyo ein dyfodol carbon isel.  

    Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU yn awgrymu bod yr economi carbon isel eisoes yn cynorthwyo dros 430,000 o swyddi a rhagwelir twf o oddeutu 11% y flwyddyn i 2030 – pedair gwaith yn gyflymach na chyfradd twf cyfartalog economi’r DU gyfan. Mae angen i ni barhau i fuddsoddi mewn diwydiannau gwyrdd i gefnogi ein hadferiad economaidd a sicrhau y bydd y rhai sydd wedi colli eu swyddi’n cael eu hailsgilio’n gyflym. Yn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol diweddar, rwyf wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru: 

    Greu gweledigaeth a chynllun i sicrhau bod Cymru’n dod y wlad fwyaf eco-lythrennog yn y byd, a buddsoddi mewn sgiliau a chreu swyddi yn unol â hynny gan ganolbwyntio’n benodol ar ynni adnewyddadwy a dulliau modern o adeiladu tai. Yn y tymor byr mae cyfle hefyd i’r rhai hynny sydd wedi colli eu swyddi gael eu lleoli mewn sectorau eraill 

    • Fel rhan o Raglen Tsunami 10 Biliwn Coeden Pacistan, prosiect uchelgeisiol i adfer coedwigoedd, mae gweithwyr sydd wedi cael eu diswyddo o ganlyniad i Covid-19 yn cael swyddi plannu coed sy’n rhoi enghraifft o’r math o “adferiad gwyrdd” y gallai gwledydd eraill ei fabwysiadu’n dilyn pandemig Covid-19. 

    Yn fy Adroddiad rwyf hefyd wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau annog cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i’n dwyn yn agosach at dargedau lleihau carbon, trwy gyflymu cefnogaeth y llywodraeth i dyfu sectorau newydd, busnesau ynni amgen, prosesau peirianneg sy’n dod i’r amlwg, dylunio cynnyrch a rheoli gwastraff i arwain y ffordd mewn ‘economi gwyrdd’. 

    Mae adeiladu sgiliau ar draws y boblogaeth wedi cael ei gydnabod yn eang fel rhywbeth sylfaenol bwysig ar gyfer ein hadferiad, ac yn fy Adroddiad rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu gweledigaeth genedlaethol ar gyfer dysgu gydol oes, i greu system ddysgu gydol oes y gall pawb ei chyrchu ar unrhyw adeg. Mae angen cynllun arnom ar gyfer adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen yng ngweithlu’r dyfodol ac i helpu busnesau i fod yn barod ar gyfer dychwelyd i dwf. Gallai hyn ddechrau gyda chyrsiau byr sy’n helpu gweithwyr i ddatblygu sgiliau newydd a chynnig cyfleoedd hyfforddi i ymadawyr ysgol a phrifysgol tra nad oes gan sefydliadau’r gallu i gyflogi gweithwyr newydd.  

    Gallai’r Llywodraeth hefyd ganolbwyntio ar ddefnyddio sgiliau a allai fod yn segur yn y sector preifat i gefnogi polisi a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus trwy raglen secondiad genedlaethol, gan ddod ag arbenigedd a syniadau newydd o wahanol sectorau i mewn i gynllunio a chyflawni’r adferiad. 

    Rwyf hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio cyfleoedd i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod, wedi’i alinio i incwm sylfaenol cyffredinol, gan adeiladu ar dystiolaeth a gasglwyd gan brosiectau peilot mewn gwledydd eraill. 

    • Yn ddiweddar mae Prif Weinidog Seland Newydd wedi awgrymu y dylid ystyried opsiynau gweithio hyblyg fel wythnos waith pedwar diwrnod a allai hybu cynhyrchiant a thwristiaeth ddomestig a gwella cydbwysedd gwaith/bywyd, fel ffordd o ailadeiladu Seland Newydd ar ôl Covid-19 
    • Mae gan yr Almaen system o’r enwkurzarbeit’, sy’n golygugwaith byr”, sy’n caniatáu i bobl leihau eu horiau gwaith a defnyddio’r diwrnod ychwanegol i uwchsgilio neu ailhyfforddi 

    Yn y tymor hwy mae ymateb i’r argyfwng hwn yn rhoi cyfle i ni ailfeddwl am y swyddi a’r sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol, megis o fewn y sector ynni adnewyddadwy ac ôl-osod 1.4 miliwn o gartrefi Cymru. Mae’r IPPR wedi amcangyfrif y gallai hyd at 46,000 o swyddi yn y sector pŵer carbon isel gael eu creu erbyn 2030 yng ngogledd Lloegr yn unig, a chymaint â 100,000 erbyn 2050 yn y Gogledd ar draws yr economi carbon isel. 

     

    4) Buddsoddi mewn natur a rhoi blaenoriaeth i ariannu a chynorthwyo, ar raddfa fawr, adferiad cynefinoedd a bywyd gwyllt, creu a chysylltedd drwy Gymru gyfanyn cynnwys ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd naturiol, gweithredu’r goedwig genedlaethol newydd a sicrhau bod rheoli defnydd tir ac amaeth yn cynorthwyo sicrhad cadwyni bwyd lleol a dosbarthu. 

    Dylid dyrannu cyllid i gynyddu cyflymder datblygu coedwig genedlaethol Cymru ac adfer natur gan gynnwys mewn trefi a dinasoedd lle gellid ei gynllunio i gynorthwyo cadw pellter cymdeithasol. 

    Ein hamgylchedd naturiol yw un o asedau mwyaf Cymru ac mae gan ein hymagwedd tuag at reoli tir ran hanfodol i’w chwarae yn y dasg o leihau ein hallyriadau yn ogystal ag addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r byd naturiol a bioamrywiaeth dan fygythiad digynsail – mae arnom angen atebion i’r argyfwng economaidd a fydd hefyd yn mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

    Yn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol galwaf ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i adfer cynefinoedd, creu a chysylltedd ar raddfa fawr ledled Cymru, sy’n cynnwys gosod targedau statudol ar gyfer adfer natur a mesurau adfer rhywogaethau penodol i helpu i atal difodiant.

    Awgrymodd fy nghynllun 10 pwynt ar ariannu’r argyfwng hinsawdd y dylid dyrannu buddsoddiad o £221 miliwn yn y gyllideb nesaf (2020-21) i gynorthwyo datrysiadau defnydd tir a natur:  

    • Trwy gynyddu gorchudd coed yn sylweddol dros y ddau ddegawd nesaf – sy’n gofyn am fuddsoddiad o oddeutu £16 miliwn y flwyddyn dros y 10 mlynedd nesaf.
    • Trwy hyrwyddo datrysiadau sy’n seiliedig ar natur a seilwaith gwyrdd ym mhob datblygiad; amcangyfrifir bod cost cwrdd â blaenoriaethau rheoli tir amgylcheddol cyfredol yng Nghymru yn £205 miliwn y flwyddyn.

    Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Coedwig Genedlaethol i Gymru i greu ardaloedd o goetir newydd a helpu i adfer a chynnal rhai o goetiroedd hynafol unigryw ac anadferadwy Cymru, gyda £5 miliwn wedi’i ddyrannu yng Nghyllideb eleni. Mae hyn yn cefnogi argymhelliad yn fy Adroddiad ar orchudd canopi coed, i  

    • Lywodraeth Cymru weithio gyda chyrff cyhoeddus i gyflwyno gorchudd canopi coed o 20% ym mhob tref a dinas yng Nghymru erbyn 2030. 

    Dylid ystyried y potensial sydd gan hyn, a phrosiectau adfer cynefinoedd tebyg, i greu swyddi i bobl a arferai gael eu cyflogi mewn sectorau nad ydynt yn medru gweithio ar hyn o bryd. 

    Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol hefyd ystyried ffyrdd o ddefnyddio seilwaith gwyrdd i gefnogi’r mesurau pellhau cymdeithasol parhaus y bydd angen i ni eu gweld yn ein hardaloedd trefol. 

    Gallai buddsoddi yn y meysydd hyn yn awr ddarparu nifer o fanteision fel creu swyddi a datrys problemau cadw pellter cymdeithasol yn y tymor byr. Ac yn y tymor canolig i’r hirdymor, greu cymunedau bywiog ac adfer natur. 

    Mae amaethyddiaeth yn ddiwydiant hanfodol bwysig i Gymru, ac mae‘r argyfwng hwn yn rhoi cyfle i ni adeiladu systemau bwyd cydnerth, lleol sy’n gwarantu diet iach. Mae yna lawer o enghreifftiau o sut mae ffermwyr wedi bod yn arloesol yn y dasg o gael bwyd o’r cae i’r plât, yn ystod y pandemig. 

    Mae’r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad wedi amlinellu’r modd y mae’r pandemig wedi datgelu breuder system cyflenwi bwyd y DU ar yr un pryd â banciau bwyd yn wynebu galw uwch nag erioed o’r blaen. Maent wedi galw am gadwyn gyflenwi fwy amrywiol, gynaliadwy a thecach ac mae angen i hyn fod yn rhan allweddol o’n hadferiad yng Nghymru, gyda ffocws ar gynnal y safonau amgylcheddol uchaf. 

    Yn fy nghynllun 10 pwynt ar gyfer ariannu’r argyfwng hinsawdd a fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol diweddar rwyf wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn: 

    • Cefnogi mabwysiad arferion amaethyddol carbon isel ac yn ailfeddwl am arferion defnydd tirdarperir £300 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd i gefnogi amaethyddiaeth a datblygu gwledig. Rhaid i’r fframwaith gyllido ôl-Brexit gefnogi targed y diwydiant i fod yn garbon niwtral erbyn 2040. 
    • Datblygu strategaeth system fwyd i Gymru sy’n cysylltu pob rhan o’r system fwyd o’r ffarm i’r fforc. 
    • Sicrhau trawsnewid i reoli tir mewn dull cynaliadwy, fel y cynigiwyd ynFfermio Cynaliadwy a’n Tir, tra’n sicrhau bod gan ffermwyr Cymru’r cydnerthedd sydd arnynt ei angen i ffynnu, tra’u bod yn hollbresennol yn yr ymdrechion i helpu i adfer yr amgylchedd naturiol. 

     

    5) Buddsoddi yn niwydiannau a thechnolegau’r dyfodol, a chefnogaeth i fusnesau a fydd yn helpu Cymru i arwain y chwyldro carbon isel a chloi cyfoeth a swyddi mewn ardaloedd lleol gyda buddsoddiad yn yr economi sylfaenol. 

    Mae estyniad digynsail y wladwriaeth i’r sector preifat sy’n deillio o’r amrywiol gynlluniau Benthyciad Tarfu ar Fusnes a grëwyd gan Lywodraethau’r DU a Chymru yn cynnig cyfle unigryw i ddylanwadu er daioni. Yn yr un modd, gall buddsoddiad gweithredol trwy ysgogiad cyllidol, wedi’i anelu i’r cyfeiriad cywir a gyda’r amodau cywir ynghlwm, gyflymu cynnydd tuag at nodau llesiant Cymru. Dylai derbyn help llaw drwy gyllid y llywodraeth, cymorth mewn argyfwng neu fel arall fod ag egwyddorion ‘rhywbeth am rywbeth’ ynghlwm wrthynt. 

    Nod allweddol angenrheidiol yw sicrhau bod cyllid a ddosberthir gan y llywodraeth yn cael ei gadw’n lleol ac y gellir ei gynorthwyo gan amodau ar gymorthdaliadau sy’n rhwystro mynediad i fusnesau sydd wedi’u lleoli mewn hafanau treth, ac sy’n gofyn am ddatgelu strwythurau perchnogaeth. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i hyrwyddo perchnogaeth leol a chydweithredol a blaenoriaethu busnesau sy’n darparu cyflogaeth o ansawdd uchel. Gellir annog arfer busnes cynaliadwy trwy osod cyfyngiadau ar dâl gweithrediaeth a difidendau cyfranddalwyr ac ailgyfeirio elw i fuddsoddiad. Rwy’n croesawu safbwynt Llywodraeth Cymru ar beidio â darparu cyllid i fusnesau mewn hafanau treth. 

    Gellir hwyluso gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd hefyd pan ddarperir cymorth argyfwng. Dylai fod yn ofynnol i fusnesau sy’n derbyn benthyciadau llywodraeth gynllunio a chyflawni arbedion effeithlonrwydd ynni a gostyngiadau carbon yn gyfnewid. Mae cynsail rhyngwladol cynyddol ar gyfer mesurau o’r fath, ond nid oes yr un wlad eto wedi eu dwyn at ei gilydd mewn pecyn cynhwysfawr a strwythuredig, a hyn rhoi cyfle unigryw i Gymru arwain y ffordd. 

    Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi datblygu Contract Economaidd – buddsoddiad gyda diben cymdeithasol sy’n darparu fframwaith ar gyfer perthynas newydd â busnesau sy’n edrych am fynediad i gyllid, sy’n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau ddangos eu hymrwymiad i dwf, gwaith teg, iechyd a sgiliau gweithwyr a lleihau eu hôl troed carbon – ac mae dros 200 o fusnesau wedi ymuno. Rhaid i’r ymagwedd hon – “rhywbeth am rywbeth” – fod yn ganolog i adferiad economaidd Cymru gan osod ffocws, â mawr alw amdano, ar ddatgarboneiddio a hefyd faterion eraill fel amodau’r gweithle, cynorthwyo cymunedau a’n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer gwella sgiliau ac ailhyfforddi. 

    • Mewn ymateb i’r achosion o COVID-19 mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bron i £2 biliwn o gymorth i fusnesau yng Nghymru, yn ychwanegol at y gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Derbyniodd y Gronfa Cadernid Economaidd gwerth £500 miliwn bron i 9,000 o geisiadau am gymorth yn ystod wythnos gyntaf ei hail gyfnod. 

    Rwy’n croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar yr Economi Sylfaenol – y rhan o’r economi sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel twristiaeth, bwyd, manwerthu a gofal, ac sy’n chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl a chymunedau. Dyma’r sectorau a fydd wedi bod dan bwysau sylweddol yn ystod yr argyfwng a bydd angen cefnogaeth arnynt fel rhan o’r adferiad. Mae’r Gronfa Her Economi Sylfaenol gwerth £4.5m eisoes yn darparu cefnogaeth ariannol i 52 o ymagweddau arbrofol a bydd angen cynyddu hyn yn gyflym er mwyn sicrhau cefnogaeth barhaus i’r sector ledled Cymru. 

    Mae gan ymagwedd tuag at adfer ac ailadeiladu ein heconomi mewn ffordd sy’n ailgyfeirio cyfoeth yn ôl i’r economi lleol, ac sy’n rhoi rheolaeth a manteision yn nwylo pobl leol (a elwir hefyd yn adeiladu cyfoeth cymunedol) gryn botensial. Nid yw buddsoddi yn yr ymagweddau hyn – gyda chymorth egwyddorion fel tâl ac amodau gweddus, caffael a chomisiynu sy’n canolbwyntio ar gydraddoldebau ac adeiladu cadwyni cyflenwi lleol, cymhellion i ail-leoleiddio contractau’r sector cyhoeddus – yn gwaethygu nac yn dwysáu anghydraddoldebau presennol. 

    Yn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol rwyf wedi argymell: 

    • Yn unol â diffiniad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) o Gymru Lewyrchus, dylai Llywodraeth Cymru ddangos sut y maent yn cymhwyso economeg llesiant i’w holl bolisi, trefniadau ariannu a rhyngweithio gyda’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn cyflawni dyheadau’r Ddeddf i ddosbarthu cyfoeth, iechyd a llesiant yn deg, tra’n amddiffyn adnoddau’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a rhywogaethau eraill.
    • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall ymateb i dueddiadau’r dyfodol (megis awtomeiddio cynyddol, ein poblogaeth sy’n heneiddio a’r newid yn yr hinsawdd) mewn ffyrdd sy’n lleihau anghydraddoldebau yn hytrach na’u dwysáu. 
    • Wrth osod camau, dylai holl fyrddau cyrff cyhoeddus fod yn: 
    • Gweithredu arferion gwaith teg drwy gyflogaeth a gwasanaethau. 
    • Galluogi cymdeithas garbon isel drwy leihau allyriadau a chynorthwyo ynni cymunedol. 
    • Caffael nwyddau a gwasanaethau mewn ffyrdd sy’n cynorthwyo llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol hirdymor. 
    • Cynorthwyo economeg sylfaenol drwy gynhyrchu cyfoeth a darparu cyflogaeth. 
    • Defnyddio adnoddau mewn dulliau effeithlon, gan gydnabod terfynau’r amgylchedd byd-eang. 

Dylai Llywodraeth Cymru hefyd roi ystyriaeth frys i’r canlynol wrth iddi ddatblygu ei phecyn buddsoddi; 

  • sicrhau bod gan bob dinesydd fynediad at seilwaith band eang,
  • bod diwylliant a’r celfyddydau yn cael eu cefnogi fel elfennau allweddol wrth ailadeiladu canolfannau tref, dinas a chymuned.
  • rhoddir cymhellion wedi’u targedu i fusnesau fod yn rhan o gyflawni’r cwricwlwm newydd, i fwydo sgiliau entrepreneuraidd i’n sgiliau a chanolbwyntio ar adeiladu’r cysylltiadau rhwng busnes ac ysgolion sy’n cynrychioli diwydiannau’r dyfodol.