Adolygiad Adran 20

Croeso i’r dudalen we ar fy adolygiad o sut mae Llywodraeth Cymru yn rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith.

Fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, rwyf am sicrhau bod penderfyniadau polisi’n effeithio’n gadarnhaol ar fywydau beunyddiol cenedlaethau’r presennol a’r rhai sydd heb eu geni eto. Er enghraifft; sut mae cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth wedi’u hanelu at ddiwydiannau a chyfleoedd y dyfodol. 

Credaf fod pa bolisi sy’n cael ei greu yn dibynnu ar sut mae’r polisïau’n cael eu datblygu. Rwy’n credu bod y broses y tu ôl i’r llenni, (sy’n cael ei hanwybyddu’n aml) yn hanfodol i gymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Mae’r Ddeddf yn un o’r rhaglenni newid diwylliannol mwyaf y mae sector cyhoeddus Cymru wedi’i chael erioed. Ni ellir cyflawni hyn oni bai bod gwaith mewnol cyrff cyhoeddus – eu prosesau, gan gynnwys eu datblygu a’u darpariaeth polisi; a’u gweithluoedd yn gweithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy ac yn hyrwyddo a galluogi datblygu cynaliadwy fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  

 

Yr Adroddiad 

Mae’n bleser gennyf rannu adroddiad terfynol fy Adolygiad o’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith.

Cynhaliwyd yr adolygiad hwn gan ddefnyddio fy mhwerau a nodir yn adran 20 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r adran hon yn caniatáu i mi, fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, gynnal adolygiadau i’r graddau y mae corff cyhoeddus yn diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Dyma’r ail adolygiad adran 20 i mi ei gynnal fel Comisiynydd. 

Mae hwn yn un o’r mecanweithiau craidd y gallaf ei ddefnyddio i asesu sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei rhoi ar waith gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. 

Dechreuwyd yr adolygiad adran 20 hwn o’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r Ddeddf ar 31 Ionawr 2022, ac roedd Cylch Gorchwyl yn cyd-fynd ag ef. Cynhaliodd fy nhîm ymchwil helaeth a chasglu tystiolaeth, gydag adolygiad o lenyddiaeth a dadansoddiad o ddeunyddiau Llywodraeth Cymru, wedi’i ategu gan dros 40 o sesiynau tystiolaeth gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru, gweision sifil, cynrychiolwyr cyrff cyhoeddus ac eraill. 

Roedd y Prif Weinidog a minnau ill dau wedi ymrwymo i ddull cydweithredol yn unol â’r ffyrdd o weithio yn y Ddeddf. Mae hyn wedi fy ngalluogi i nodi’r meysydd y mae angen eu gwella a’r arfer da y dylid ei ehangu. 

 

Canfyddiadau’r adolygiad Adran 20

Canfyddiadau trosfwaol 

  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r graddau y mae wedi’i gwreiddio yn DNA datblygu a chyflawni polisi cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i fod ar flaen y gad yn fyd-eang
  • Mae cyrhaeddiad y Ddeddf, brwdfrydedd ac ymrwymiad i’r hyn y mae’n ceisio’i gyflawni wedi ymestyn y tu hwnt i’r sefydliadau hynny sy’n dod o dan y ddeddfwriaeth
  • Mae ei lwyddiant hyd yma wedi deillio mwy o arweinyddiaeth ac ymrwymiad na phrosesau sydd wedi’u sefydlu
  • Bydd angen arweiniad clir, cyfathrebu parhaus ac adolygu cyson er mwyn i’r Llywodraeth symud yn llwyddiannus i’r cam nesaf o’r gweithredu 

 

Canfyddiadau

Rwyf wedi gosod strwythur yr adolygiad hwn o amgylch tair nodwedd allweddol – Pobl a Diwylliant, Proses ac Arwain y Sector Cyhoeddus. 

Pobl a Diwylliant

1. Mae yna ymdeimlad o falchder a brwdfrydedd yn y ddeddfwriaeth flaengar hon, ond mae rhywfaint o anghysondeb rhwng lefel y brwdfrydedd ac ymrwymiad a dealltwriaeth fanwl o gymhwysiad.

2. Mae llu o ddeunyddiau dysgu o amgylch y Ddeddf – er bod rhywfaint o ddeunydd yn dda, dylai’r Llywodraeth geisio deall yn well beth sy’n gweithio ac adeiladu ar ddulliau arloesol sy’n cael eu mabwysiadu mewn rhai rhannau o’r Llywodraeth.

3. Ceir ymdrechion ar y cyd i wreiddio meddylfryd hirdymor ar draws y llywodraeth, ond mae’r angen i ymateb i argyfyngau lluosog a chapasiti yn aml yn cael eu hystyried yn rhwystrau i weision sifil rhag cymhwyso’r ffordd hon o weithio yn llawn.

 

Proses

4. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ysgogi newidiadau yn y ffyrdd y mae polisïau’n cael eu datblygu, eu cynllunio a’u gweithredu ond nid yw eto’n cael ei chymhwyso’n gyson mewn ffordd sy’n gwreiddio pob agwedd ar y Ddeddf, nac ar draws y sefydliad cyfan.

5. Ceir amrywiaeth o fecanweithiau atebolrwydd i roi gwybod i Weinidogion ac uwch gydweithwyr bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gwreiddio a’i rhoi ar waith yn y ffordd y mae’r Llywodraeth yn gweithio, ond nid ydynt i gyd yn cael eu defnyddio’n effeithiol.

  

Arweinyddiaeth y Sector Cyhoeddus

6. Mae potensial heb ei gyffwrdd i Lywodraeth Cymru weithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt i gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ysgogi, hyrwyddo enghreifftiau da, creu adnoddau, a rhannu dysgu.

 

Argymhelliad

Fy argymhelliad i Lywodraeth Cymru yw: 

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gymryd camau i wella’n barhaus sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llywio ei gwaith i helpu Gweinidogion Cymru i gyflawni eu hamcanion llesiant, gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a, thrwy wneud hynny, sicrhau bod cymaint â phosibl o gyfraniad at y nodau llesiant cenedlaethol. Wrth wneud hynny, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun, yn nodi’r gwelliannau y bydd yn eu gwneud, sy’n mynd i’r afael â’r canfyddiadau a’r meysydd i’w gwella a amlinellir yn yr Adroddiad Adran 20 hwn.

Dylai hyn gynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni camau gweithredu a threfniadau ar gyfer adrodd yn flynyddol, monitro ac adolygu cynnydd, a sut y bydd yn cydweithio ag eraill (gan gynnwys swyddfa’r Comisiynydd) i sicrhau y gall Llywodraeth Cymru barhau i fod ar flaen y gad o ran agenda llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Dylai Llywodraeth Cymru weithio’n agored gyda’r Comisiynydd i fonitro cynnydd y cynllun hwn. Dylai Llywodraeth Cymru adrodd ar gynnydd y cynllun hwn ochr yn ochr â’i hadroddiad blynyddol.

 

 

Rwy’n gobeithio y bydd cyrff a sefydliadau cyhoeddus eraill y tu mewn a’r tu allan i Gymru yn cael eu hannog i ddatblygu eu hymrwymiadau eu hunain i ddatblygu cynaliadwy a gweithio tuag at ddiogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion.

Fel rhan o’r adolygiad, mae fy nhîm hefyd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu matrics aeddfedrwydd i helpu pob sefydliad sydd â diddordeb mewn cymhwyso’r Ddeddf i asesu lle maent ar eu taith tuag at gynaliadwyedd. Rwy’n gobeithio y bydd yr offeryn hwn yn helpu i hunan-fyfyrio ar gynnydd ac yn darparu’r camau sydd eu hangen i roi’r Ddeddf ar waith.

Er bod meysydd i’w gwella y mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw iddynt, rwyf wedi fy sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arloesol Cymru yn cael effaith a dylanwad ar draws Cymru a’r byd. 

Subscribe to our Newsletter

Receive the latest news and updates from The Future Generations Commissioner for Wales

We never share your information.