Hyrwyddo Cymru i’r Byd: Ein Gwaith Rhyngwladol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r dyfodol yn ymroi i drawsnewid y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru’n gwella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’r gwaith yr ydym yn ei wneud yng Nghymru’n parhau i ysbrydoli sefydliadau a llywodraethau’n rhyngwladol.
Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i fod yr unig ddeddfwriaeth o’i bath yn y byd ac mae wedi ei hystyried gan y Cenhedloedd Unedig fel rôl-fodel i wledydd eraill ei dilyn. Ers i’r Ddeddf ddod i rym, mae ein swyddfa wedi cynorthwyo llawer o sefydliadau rhyngwladol i fabwysiadu egwyddorion y Ddeddf.
Yn ystod ei ymweliad â Chymru yn 2015, dywedodd Nikhil Seth (Cyn Bennaeth Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig):
“Gobeithiwn y bydd yr hyn y mae Cymru’n ei wneud heddiw yn cael ei wneud gan y byd yfory. Gweithredu, yn fwy na thrafod, yw’r gobaith ar gyfer cenedlaethau’n presennol a’n dyfodol.”
Dyma rai enghreifftiau o fy ngwaith rhyngwladol:
- Rydw i’n Gadeirydd Rhwydwaith Sefydliadau Cenedlaethau’r Dyfodol – corff o gomisiynwyr tebyg neu gyrff â chyfrifoldeb am gynrychioli anghenion cenedlaethau’r dyfodol ar draws y byd.
- Hyrwyddo’r ddeddfwriaeth mewn cynadleddau rhyngwladol yn cynnwys Fforwm Gwleidyddol Lefel-Uchel y Cenhedloedd Unedig ac Uwch-gynhadledd Llywodraethau’r Byd i annog gwledydd eraill i sicrhau bod cynaliadwyedd, llesiant a chenedlaethau’r dyfodol yn ganolbwynt datblygu polisi a deddfwriaeth.
- Ymgysylltu ag uwch-randdeiliaid rhyngwladol yn cynnwys Llysgennad Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd a Llysgennad Ieuenctid y Cenhedloedd Unedig.
- Hwyluso cyfnewidiadau dirprwyo ieuenctid o Gymru i ymgysylltu mewn deialog ryngwladol, a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc rannu eu profiadau o ddefnyddio’r Ddeddf gyda chyfoedion yn fyd-eang. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys Un Byd Ifanc, Uwch-gynhadledd Cenedlaethau’r Dyfodol yn Berlin ac amrywiaeth o Wythnosau Cymru. Ar hyn o bryd rwyf yn cynnig y cyfleoedd hyn i’r rhai sy’n ymgyfrannu yn fy Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.
- Cynghori Sefydliadau Anllywodraethol rhyngwladol sut i gysylltu polisi, fframweithiau a fforymau trafod â llesiant a meddwl yn yr hirdymor. Rydw i’n rhan o Dasglu Arloesedd Polisi Ewropeaidd COVID-19, sy’n gweithio i ganfod gwahanol ddatrysiadau ar gyfer Adferiad. Yn 2019, gwneuthum annerch cynhadledd y Sefydliad Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ‘Putting Well-being Metrics into Policy Action’ ym Mharis i fyfyrio ar y gwahanol dechnegau a dulliau o fesur llesiant. Yn ddiweddar cyhoeddodd yr OECD eu Hadroddiad Global Trends 2020, gan gyfeirio at y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel enghraifft arloesol i’r byd i’w dilyn.
Gellir darllen crynodeb o effaith fy ngweithgareddau rhyngwladol yma. Caiff fy ymgysylltiadau rhyngwladol eu hadolygu’n gyson. Lle mae hynny’n bosibl, rwy’n gofyn am bresenoldeb rhithwir a digidol ac rwyf wedi cyfranogi’n llwyddiannus mewn ystod o gynadleddau a digwyddiadau yn y modd hwn. Rwyf hefyd yn archwilio dewisiadau trafnidiaeth a llety cynaliadwy pan fyddaf yn teithio. Mae fy allyriadau carbon yn cael eu gwrthbwyso yn flynyddol.
Yn nhermau effaith ymadawiad y DG â’r UE, tra na fydd yr effaith uniongyrchol ar fy ngweithgareddau i fy hunan yn arwyddocaol, mae ein gwaith yn gysylltiedig â Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru i ddiffinio a hybu a dwyn yr hyn y mae Cymru’n ei wneud i’r Byd.
Ymunwch â’r mudiad – p’un ai ydych yn cynrychioli llywodraeth ryngwladol, NGO neu’n gweithio o fewn prifysgol ac yn awyddus i gysylltu â ni, os gwelwch yn dda ebostiwch: contactus@futuregenerations.wales