Mae Cara yn gyfrifol am sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau a'i anfon yn effeithlon ac yn gywir. Ymunodd Cara â’r tîm ar ôl cwblhau gradd Meistr mewn Llywodraeth Cymru a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd. Ar ôl cael cipolwg ar y maes polisi cyhoeddus, canolbwyntiodd ei thraethawd hir ar hybu hunaniaeth genedlaethol, wrth edrych ar rwydweithiau polisi, adeiladu cenedl, polisi iaith Gymraeg a’r rhyngberthynas rhwng y trydydd sector a pholisïau cenedlaethol, er enghraifft, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. Adeiladwyd hyn o’i thraethawd hir israddedig, a oedd yn trafod sut i hybu’r defnydd bob dydd o ieithoedd lleiafrifol drwy ddefnyddio ymyrraeth Urdd Gobaith Cymru o’r enw Cymraeg Bob Dydd.