Cat yw sylfaenydd SOIF ac mae ganddi brofiad helaeth fel ymarferwr, gan helpu llywodraethau, cymdeithas sifil a busnesau i fod yn fwy strategol, yn fwy effeithiol, ac wedi’u paratoi’n well ar gyfer y dyfodol. Mae hi’n ymddiriedolwr y Sefydliad dros Ddemocratiaeth a Datblygu Cynaliadwy, yn aelod bwrdd byd-eang o Academics Stand Against Poverty ac yn aelod o Gyngor Ymgynghorol Dysgu’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Agenda 2030. Mae hi wedi gweithio yn Swyddfa Dramor a Chymanwlad y DU, ac fel Uwch Gynghorydd Polisi yn Uned Strategaeth y Prif Weinidog. Mae Cat hefyd wedi gweithio i’r Cenhedloedd Unedig, Comisiwn yr UE a Banc y Byd.