Mae Christian yn un o'n Hysgogwyr Newid. Ar hyn o bryd mae ei waith yn cynnwys yr adferiad gwyrdd a chyfiawn yng Nghymru, gan gefnogi sut rydym yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, gan ddefnyddio a chymhwyso dulliau dyfodol, a chyngor ymatebol. Mae Christian hefyd yn cefnogi ein gwaith mewn meysydd eraill fel sgiliau ar gyfer y dyfodol, datgarboneiddio a thrafnidiaeth. Tu hwnt i'r swyddfa, gellir dod o hyd i Christian fel arfer yn rhedeg llwybr, neu'n cyflwyno pobl i hynny, trwy ei grŵp 'Wild Trail Caerdydd'.