Mae Colleen yn Ddadansoddwr Newid sy'n canolbwyntio ar gyngor a chymorth yn Swyddfa'r Comisiynydd. Yn ei rôl hi mae'n rheoli rhaglen y Swyddfa ar gyfer rhoi cyngor a chymorth i gyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan gynnwys gweithio gyda sefydliadau eraill i sicrhau bod ein cefnogaeth yn gydweithredol ac yn integredig. Mae hi hefyd yn rhan o Dîm Corff Cyhoeddus a Thîm BGC fel Arweinydd Cyrff Cyhoeddus i nifer o gyrff cyhoeddus cenedlaethol a chyrff cyhoeddus rhanbarthol a BGC yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae Colleen yn hoffi chwilio am, a gweithredu, ffyrdd gwell o wneud pethau ac wrth ei bodd yn dysgu amdanynt a datblygu hynny drwy bob maes o'i gwaith a'i bywyd. Cyn ymuno â'r Swyddfa, bu Colleen yn gweithio'n bennaf yn y sector amgylcheddol mewn ymchwil, addysg, ymgynghori ac archwilio. Mae hi'n dod o Johannesburg, De Affrica. A hithau bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae hi'n mwynhau dysgu Cymraeg a dysgu am ddiwylliant Cymru.