Dechreuodd Dr Frank Atherton yn ei swydd fel Prif Swyddog Meddygol, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru ym mis Awst 2016. Graddiodd Frank mewn meddygaeth o Brifysgol Leeds ac mae wedi gweithio mewn nifer o swyddi gofal sylfaenol ac iechyd y cyhoedd ar draws y DU, Affrica a Gogledd America. Cafodd Frank ei urddo’n farchog ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2022 am ei wasanaethau i iechyd y cyhoedd yn dilyn y rôl flaenllaw y mae wedi’i chwarae yng Nghymru drwy gydol pandemig COVID-19.