Mae Heledd yn aelod o’r tîm rheoli ac yn arwain ar nifer o’n meysydd gwaith. Fel gweddill y tîm, ei phrif rôl yw gweithio gyda’r sector cyhoeddus i’w helpu i newid eu harfer a’u diwylliant yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae Heledd yn gweithio’n agos gydag Archwilio Cymru ar fonitro cynnydd cyrff cyhoeddus o ran bodloni’r ddeddfwriaeth ac yn helpu i ddatblygu cyngor ac adnoddau i gyflymu newid. Mae Heledd o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol ac yn siarad Cymraeg yn rhugl, ond bellach yn byw yng Ngogledd Caerdydd, lle mae hi wrth ei bodd yn mynd am dro bob dydd ar hyd yr Afon Taf. Yn y brifysgol, roedd Heledd mewn côr Gospel, Soul, Acapella a Pop o’r enw GASP!”